Friday, 29 January 2021

Erthygl am Garn Boduan o'r Herald Gymraeg 19 Ionawr 2011

 


Yr anfanteision o fynd i gerdded yr amser yma o’r flwyddyn, digon hawdd eu rhestru wrthgrws, yr oerfel, y gwynt a’r glaw, gall fod yn wlyb dan draed, mae’r dydd yn fyr a mae tynnu lluniau yn gallu bod yn anoddach. Ond wedyn i gerddwyr mae yna rhywbeth gwahanol i’w weld ym mhob tywydd ac ymhob tymor, golau gwahanol, bywyd gwyllt gwahanol, planhigion gwahanol - fel byddaf yn ei ddweud yn aml, “gwahanol - nid gwell na gwaeth ond gwahanol”.

               Wrth i gyfaill a minnau ymweld a bryngaer Garn Boduan ger Nefyn yn ddiweddar daeth yn amlwg iawn ein bod wedi gwneud dewis da, oedd roedd hi’n ddiwrnod digon oer, sych o ran y glaw ond yn sicr ddigon gwlyb a mwdlyd dan draed, ond yr hyn wnaeth gymwynas mawr a ni yr amser yma o’r flwyddyn oedd fod y rhedyn, y grug a’r meieri mwyar duon yn gorwedd yn isel ac heb ddail. Caniataodd hyn i ni weld olion y cytiau crwn o fewn y gaer – rhywbeth fyddai’n amhosib yn nhymor yr haf gyda phopeth mewn dail a blodau yn llawn bywyd.

               Yn ddaearegol, mae Garn Boduan yn gorwedd ar asgwrn cefn folcanig LLŷn, yn un o nifer o fryniau folcanig ar hyd yr asgwrn cefn a fel ei gymydog Garn Fadryn a’i frawd mawr Tre’r Ceiri yn safle i gaer Oes Haearn ac ôl-Rufeinig.  O fewn y gaer yma ar Garn Fadryn,ar yr ochr ddwyreiniol, mae caer fewnol, sef y ‘citadel’, sydd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Rufeinig ac efallai wir mae yma oedd cartref y cymeriad lled chwedlonol Buan. ( Fe ysgrifenais am hyn yn ol ym Mis Awst 2009 yn y Daily Post / Herald Cymraeg).




               Diddorol bob amser yw edrych ar darddiad enwau llefydd ac wrth wneud ychydig o waith ymchwil ychwanegol ar Garn Boduan dyma bori ychydig drwy hen lyfr, sydd yn lled werthfawr (chwi ddarllenwyr Y Casglwr) o’r enw  ‘Archaeologia Lleynensis sef Hynafiaethau Penaf Lleyn’ gan y Parch J. Daniel (Rhabanian) 1892. Yma cefais hyd i stori arall, un dra wahanol, ac yn ôl y Parch J. Daniel arferir cyfeirio at y Garn fel ‘Pen Dic y Felin’.

               A dyma i chwi ddarllen diddorol, disgrifiai’r Parch J. Daniel ei ymholiadau a’r atebion a roddwyd iddo; fel yr oedd son am hen felin ym mhwlyf Bodfuan, a mai enw’r melinydd oedd Dic, a wedyn, a dwi’n gweld hyn fel rhan o hiwmor cefn gwlad, fod gan Dic y melinydd goblyn o ben mawr. A felly y bu i Garn Boduan fod, am gyfnod yn sicr, yn Pen Dic y Felin. Dyma’r ffraethineb fyddai rhywun yn ei ddisgwyl yn Nhafarn yr Heliwr, Nefyn yn ôl yn y dydd.

               Yn amlwg mae’r Parch J Daniel yn cael ei aflonyddu ychydig gan y fath hiwmor syml cefn gwlad, gan iddo gyfeirio at y disgrifiad fel un wedi deillio o gellwair. Yn ôl ei eiriau ei hyn dyma’r Parch yn datgan “Dyma reswm direswm! os nad afresymol! Oblegyd, gwelwn ar unwaith ei fod wedi tarddu o gellwair, ac oddiar wagedd, sef y ddau leidr a yspeiliant reswm bob amser o’i gorph ond nid o’i wisg”.

               Argian, dipyn o ddweud, ond wedyn fe aiff ymlaen ymhellach, “Mewn Traddodiad nis gallwn ddisgwyl ond am gysgod o’r sylwedd”. Rhaid i mi ddweud fod pori drwy’r hen lyfrau yma yn gallu cyflawni sawl peth, dod o hyd i storiau bach difir fel yr un uchod, cyfeirio at ambell heneb sydd bellach wedi hen ddiflannu ond hefyd yn aml iawn dyma hefyd daflu ychydig o oleuni ar feddylfryd a syniadaeth y cyfnod pryd ysgrifennwyd y llyfrau.

               Dyma daro ar draws penod arall gan John Daniel a dynodd fy sylw yn syth dan y penawd ‘Twtil’, hynny  gan fy mod yn byw yn ardal Twthill yng Nghaernarfon. Cyfeirio at gopa bryn bychan ar dir Dyffryn ger Foel Fawr ym mhwlyf Llaniestyn mae’r enw. Er fod son fod Eglwys unwaith wedi sefyll ar y safle yma, mae Daniel yn sicr iawn fod hyn yn anghywir a wedyn fe aiff yn ei flaen i drafod  tarddiad yr enw o ran y Gymraeg a’r Lladin ac yma mae’n rhaid cyfaddef mae Daniel yn llwyddo i fy nrysu, fy niflasu a dwi’n disgyn yn llipa oddiar ei drywydd mewn diflastod a fawr callach - ond ddim am hir !

               Buan iawn adferir fy sylw i’w ddamcaniaethau wrth iddo nawr ymddagnos fel “archaeolegydd” gan ddisgrifio sut bu iddynt “dreiddio i fewn i’r pentwr, a chawsom ynddo ddarnau o goed wedi cael eu golosgi, y rhai yn ddiau a ddefnyddid i losgi gweddillion marwol”. Sioniodd hefyd fel bu iddynt ddarganfod dranau o garreg gallestr yn y domen a dehonglir rhain wedyn fel y cerrig a ddefnyddiwyd i ddechrau’r tân. Yn ôl Daniel, daethant o hyd hefyd i ddarnau o asgwrn braich dynol a priodolir y safle felly fel un sydd yn cyfateb a’r dull o gladdu’r meirw” ddeunawcant o flynyddoedd yn ôl”.

               Sgwni felly os yw’r Parch Daniel wedi adnabod a chloddio crug neu domen gladdu o’r Oes Efydd – pwy a wyr – efallai bod modd gwneud ychydig o waith ymchwil pellach ar hyn neu efallai fod rhai o ddarllenwyr yr Herald yn gwybod am yr ardal hon? A dyma wedyn ddod a ni yn daclus ac yn amserol at “heno” os ydych yn darllen yr Herald heddiw (ar Ddydd Mercher Ionawr 19) gan y byddaf yn dechrau ar gyfres o ddarlithoedd ar archaeoleg ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng nghanolfan Bryncroes ger Botwnog. Efallai bydd rhywun yno yn gwybod mwy am hanes plwyf Llaniestyn.

               Darlithoedd gyda’r nos fydd rhain, chawn ni ddim golau dydd na chyfle i fynd i gerdded fel grwp felly dyma argymell ddarllenwyr yr Herald, fel byddaf siwr o son wrth y dosbarth, i fentro am dro i fyny Garn Boduan yn y misoedd nesa ’ma, cyn i’r Gwanwyn droi yn Haf achos mae cynllun y cytiau oddi fewn i furiau’r gaer i’w gweld yn glir.

               Bu dipyn o drafod a hyd yn oed anghytuno ymhlith yr ysgolheigion Hogg ac Alcock ynglyn a’r amcangyfrif o faint o bobl fyddai wedi byw o fewn y gaer gyda niferoedd rhwng 100 a 400 yn fwyaf tebygol ond A.H.A Hogg yn crybwyll tua 400 o drigolion a Leslie Alcock ym 1965 yn awgrymu cymaint a 700. Go brin fod y cytiau i gyd yn cael eu defnyddio ar yr un pryd a hefyd o gymharu a safle fel Bryn y Castell, Llanffestiniog roedd rhai cytiau yn cael eu defnyddio ar gyfer pwrpas diwydiannnol. Beth bynnag am y dadleuon mae’n safle werth ei weld yn enwedig amser yma o’r flwyddyn!

 

Tuesday, 27 October 2020

Enwau Lleoedd ym Maesyfed a Brycheiniog, Llafar Gwlad 150

 


 

Tybiaf fod pob colofnydd yn gobeithio am ‘ymateb’ i unrhyw erthygl. Efallai fod modd gwthio hyn ymhellach a fod y weithred o ysgrifennu erthygl bron yn weithred chwyldroadol. Beth yw’r pwynt os nad yw’r erthygl yn gwneud i bobl feddwl neu ddysgu neu ddarganfod rhywbeth neu rhywle newydd? Ceir pleser o ddarllen, deallaf hynny yn iawn a bydd y mwyafrif yn fodlon a hynny. Bydd lleiafrif yn ymateb. A dyna chi beth braf.

Gerallt Pennant oedd ar y ffôn, wedi darllen fy erthygl yn y rhifyn dwethaf o Llafar Gwlad (149) ac yn benodol gyda gwybodaeth pellach am ystyr yr enw Rhosbodrual ar gyrion Caernarfon. Atgof plentyn oedd gan Gerallt fod rhai o is-adeiladau fferm a oedd wedi gweld dyddiau gwell efallai, yn cael eu cyfeirio atynt fel rhiwal neu hoywal. Cyfeiriodd Gerallt at Cydymaith Byd Amaeth, Cyfrol 3 gan Huw Jones lle ceir sawl esboniad i’r enw gan gynnwys amrywiaethau tafodiaethol.

Sied fferm gyda drws agored i ddal wageni ac offer fydda’r hoywal neu’r hiwal (yr huwal yn Ynys Môn) a mae’n debyg fod elfen o hyn yn tarddu o’r gair hofel sef adeilad bler. Cawn enw arall gan Huw Jones, sef hual ar gyfer llyffetheirio neu rwystro anifeiliad rhag grwydro, ceffylau rhan amla, a hyn fydda’r llyffethair ar y ddwy droed blaen.

Esboniad gwahanol a geir gan Glenda Carr yn Hen Enwau Arfon Llyn ac Eifionnydd (2011) lle mae’r hual yn loc ar gyfer cadw anifeiliad – yn debygach i ‘animal pound’ yn y Saesneg. Ond mae’r rhwystr neu ‘restraint’ hefyd yn cael ei grybwyll gan Carr. Rhaid cyfaddef o ran yr enw Rhosbodrual rwyf yn tueddu at yr esboniad o’r rhos lle cedwir anifeiliaid. Nid arbenigwr enwau lleoedd mohonnof a thros y blynyddoedd wrth drafod safleoedd archaeolegol rwyf wedi cal budd mawr o lyfrau fel Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, J. Lloyd-Jones (1928).

J. Lloyd Jones sydd bennaf gyfrifol yn fy marn i am ddatrus y cwestiwn sawl ‘C’ sydd yn Cricieth / Criccieth gan ddateglu mae tarddiad yr enw yw’r crug-geith neu’r graig gaeth. Dwy ‘G’ sydd i fod yn Cricieth felly a dyna ddiwedd ar y ddadl honno!

Crug arall sydd wedi bod o ddiddordeb i mi yn ddiweddar yw Crug Eryr neu Crugerydd, Llanfihangel-Nant-Melan, yn yr hen Sir Faesyfed a hen gantref Cymreig Oesoedd Canol Maelienydd. Rwyf yng nganol ysgrifennu fy nghyfrol nesa ar archaeoleg de-ddwyrain Cymru ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch ac yn ceisio canfod safleoedd y cestyll a llysoedd Cymreig. Tydi’r cestyll Cymreig ddim mor amlwg yma a rhai tywysogion Gwynedd a Deheubarth. Rhaid gwneud llawer mwy o waith ymchwil ac unwaith eto dyma enwau lleoedd yn rhan hanfodol o’r broses.



Castell mwnt a beili yw Crugerydd yn y dull Normanaidd sydd yn cael ei gydnabod / grybwyll fel castell a adeiladwyd gan Cadwallon ap Madog, tywysog Maelienydd yn y 1150au. Cantref i’r gogledd o Frycheiniog rhwng afonydd Gwy a’r Hafren oedd Maelienydd. Ymwelodd Gerallt Gymro yn 1188 gan gyfeirio at y castell fel Crucker Castle. A beth am yr enw, Crugerydd neu Crug Eryr? Gall fod yr enw yn deillio o domen neu graig / bryncyn yr aradwr neu amaethwr yn ei ffurf Crugerydd neu fod hwn yn graig yr eryr yn ei ffurff Crug Eryr

Wrth deithio ar yr A44 allan am Llanllieni (Leominster) o gyfeiriad Rhaeadr a chyn cyrraedd Forest Inn mae’r castell i’w weld ar yr ochr dde i’r ffordd. Rydym rhyw filltir cyn cyrraedd y gyffordd a’r A481 o Lanelwedd. Dyma ardal dyffrynnoedd Summerhill Brook ac Afon Arrow a mae’r castell ei hyn yn rheoli Dyffryn Edw sydd yn tarddu ger Creigiau Llandegley ychydig i’r gorllewin ac yn un o isafonydd y Gwy.

Mesurai’r mwnt 26m ar draws ac uchder o 4.4m a mae’r buarth wedyn sydd i’r de-ddwyrain yn mesur 40m ar draws gyda ffosydd amddiffynnol yn ei amgylchu. Nid yw hwn yn gastell mawr  ond fe atgoffir rhywun o gastell Tomen y Rhodwydd, un o gestyll Owain Gwynedd ger Llandegla.

Wrth edrych ar enwau lleoedd, mae’n amlwg fod yr elfen ‘llys’ yn ystyriaeth wrth geisio darganfod safleoedd y llysoedd Cymreig. Castell Bronllys yw un engraifft amlwg, lle cawn gastell Normaniadd ond a oes hanes Cymreig i’r safle?



O ble daw’r enw Bronllys? Does dim cofnod o’r enw cyn y 13eg ganrif ac er fod ambell drafodaeth wedi bod ynglyn a tharddiad yr enw fel Llys Brwyn – Brwyn yn enw personol o bosib does fawr o hygrydedd i’r ddamcaniaeth yma. Cytunaf fod angen cadw meddwl agored a pharodrwydd i drafod ond does dim tystiolaeth pendant ar hyn o bryd fod llys Cymreig yma ar y safle cyn i Richard fitz Pons godi ei gastell mwnt a beili ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif.

Byddai Bronllys oddi fewn i gantref Selyf yn nheyrnas Brycheiniog fyddai hefyd yn cynnwys cantrefi Talgarth a Chantref Mawr, felly dyma chi y posibilrwydd o dri lleoliad llys gwahanol. Efallai ei bod yn anodd ar hyn o bryd gwneud y cysylltiad Cymreig yng nghastell Bronllys ond mae’n safle hawdd i’w gyrraedd a’r ymyl y A479 a pharcio cyfleus a mae’r tŵr crwn werth ei weld. Atgoffir rhywun o dŵr crwn castell Dolbadarn gyda’r wal yn ymestyn allan, sef y batter, yn atgyfnerthu gwaelod yr adeilad. Ysgrifennais am ddylanwad y cestyll Normanaidd ar gestyll Llywelyn ab Iorwerth yn Cam i’r Deheubarth (Pennod 10). Heb os mae tebygrwydd yn arddul tyrau fel Wakefield, Penfro a Bronllys a gorthwr Llywelyn yn Nolbadarn.

Castell mwnt a beili o bren a phridd oedd yma yn wreiddiol a mae ardal y beili neu’r buarth bellach ar dir preifat felly does dim modd ei weld. Walter III a briododd un o ferched Llywelyn ab Iorwerth sydd mwyaf tebygol gyfrifol am godi’r tŵr carreg yma. Felly o bell dyma ni y cysylltiad Cymreig – roedd un o ferched Llywelyn yn byw yma. Priodas wleidyddol dybiwn’i rhwng y Normainiaid a thywysogion Gwynedd. Druan ohonni. Cefnodd Walter ar Llywelyn yn ddiweddarach gan ochri gyda Harri III.

Atgyfnerthwyd castell Bronllys yn ystod gwrthryfel Glyndŵr er mwyn gwrthsefyll y Cymry. Roedd cryn gefnogaeth i Glyndŵr yn yr aradl mae’n debyg a fel cymaint o gestyll arall doedd fawr o bwrpas na galw amdanynt gyda dyfodiad y Tuduriaid.

Canlyniad y gwaith ymchwil diweddar yw sylweddoli fod enwau lleoedd yn ystyriaeth bwysig os nad hanfodol wrth geisio dehongli archaeoleg a hanes Cymru a tydi’r ateb ddim bob amser yn amlwg nac yn hawdd i’w ganfod.

 

 

Saturday, 22 August 2020

Enwau Lleoedd ar Hyd Afonydd Caernarfon, Llafar Gwlad 149

 



Fel oedd y ‘Lockdown’ yn dechrau ddiwedd Mawrth roeddwn innau ar fin dechrau sgwennu fy mhedwaredd cyfrol ar archaeoleg Cymru ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch. Y tro yma mae’r gyfrol yn canolbwyntio ar y de-ddwyrain a hen siroedd Maesyfed, Brycheiniog, Morgannwg a Gwent. Er cymaint pryder rhywun (pawb) am eu iechyd a beth fyddai hyd a lled effeithiau Covid-19 roeddwn yn teimlo yn weddol positif y byddai’r cyfnod o orfod aros adre ac ynysu yn gyfle da i gael y maen i’r wal o ran y sgwennu.

Anghywir! Fel cymaint arall, arweiniodd y misoedd cyntaf yna at gyfnodau o or-bryder a methiant llwyr i ganolbwyntio ar unrhyw sgwennu. Rhywsut roedd codi’r bore wedyn yn iach a gwneud yn siwr fod y teulu yn saff – yn enwedig y ddau arddegyn acw yn gymaint ac y gallwn ei gyflawni. Roedd modd mynd allan unwaith y dydd am dro o hyd at awr o gerdded – ac yn sicr dyma oedd yn fy nghadw i fynd. Penderfynais ganolbwyntio ar gerdded o amgylch cyrion Caernarfon lle roedd llai o debygrwydd o weld neb arall.

Wrth droedio llwybrau cyfarwydd dyma ddechrau sylwi ar arwyddbyst llwybrau cyhoeddus eraill – rhai nad oeddwn wedi sylwi arnynt o’r blaen, ac o ganlyniad llwybrau fydda yn newydd i mi. Wrth i’r dyddiau dros yn wythnosau dechreuodd fy ‘ymarfer corff dyddiol’ ddatblygu i fod yn brosiect i ddarganfod llwybrau newydd. Ddigon naturiol i archaeolegydd medda chi, mae’r awch am ddarganfod a dysgu rhywbeth newydd yn gydymaith cyson wrth grwydro.

Adnodd gwych ar gyfer unrhyw ‘daith gerdded’ neu ‘fynd am dro’ yw safle we Archwilio.org gan fod yma gofnod o holl safleoedd ac olion archaeolegol yng Nghymru wedi ei drefnu fesul rhanbarth o ran yr Ymddiriedolaethau archaeolegol. Un o’r llwybrau cyntaf i mi ei ddilyn oedd yr un dros Afon Cadnant o gyfeiriad Maesincla draw am Rhosbodrual. Rhwng Maesincla a Rhosbodrual mae rhyd fechan yn croesi’r afon. Yn yr hen ddyddiau dychmygaf fod tractor yn croesi’r rhyd yn ddyddiol. Fyddwn i ddim yn mentro mewn car.

Ger y rhyd naturiol mae pont droed fechan a hynod sydd yn dyddio i’r 18fed ganrif (SH 491 629). Dyma gyfeirio at Archwilio yn sydun a chael eglurhad mai bwa voussoir sydd yma ar y bont gyda copa o gerrig dros y bwa yn ffurffio’r ail fwa. Diddorol mewn ffordd achos pont droed yw hon, dim mwy, ac eto mae’r nodweddion pensaerniol yn rhoi mymryn o urddas i’r bont. Cysgodir y bont gan goed ac anodd yw cael llun hefo’r haul yn y lle iawn. Dyma le i synfyfyrio ac i wylio dŵr y Cadnant yn rhedeg yn araf deg tuag at Gaernarfon.

Tarddu’r Cadnant i’r de-de-orllewin o bentre Bethel a chawn ffrwd arall yn ymuno o’r gogledd i Bethel. Cofiaf Iwan o’r grwp Cowbois Rhos Botwnnog yn son rhyw dro ar raglen deledu wrth ddisgrifio nodweddion daearyddol Llŷn, fod modd neidio dros y Soch yn hanner uchaf ei chwrs. Onibai am y mieri a’r mwd, bydda’r athletwyr yn ein plith yn neidio’r Cadnant ddigon hawdd hefyd.


Wrth gyrraedd Rhosbodrual ar lôn Llanberis dyma ddod wyneb yn wyneb ac un o ddirgelwch mwyaf enwau lleoedd Cymru. Pawb yn gyfarwydd ac ystyr ‘Rhos’ ac ystyr ‘Bod’ ond be goblyn ydi ‘Rual’ neu ‘rhual’ o bosib. Cofiaf arwain taith gerdded Cymdeithas Edward Llwyd ar hyd yr union lwybr yma rhyw ddwy flynedd yn ôl gan feddwl y byddai rhywun siwr o fod yn gallu datgelu’r ystyr. Hyd yma, yr awgrym gorau yw fod ‘rhual’ yn golygu lloc ar gyfer cadw anifeiliad ond mae sawl un wedi cyfeirio at hual fel rhyw fath o argae (neu sarn neu cob). Rwyf yn ffafrio’r esboniad o’r rhos lle oedd anifeiliaid yn cael eu cadw yn hytrach na unrhyw gysylltiad a’r rhys gerllaw dros y Cadnant?

Gan aros ym myd enwau lleoedd ac ychydig ar hyd y ffordd tuag at Cibyn mae tro bach i’r chwith ar hyd Ffordd Cae Garw. Does dim dadl am ystyr yr enw Cae Garw. Ar ddiwedd y lon fach yma mae rhywun unwaith eto yn yn gorfod croesi’r Cadnant. Ond cyn cyrraedd yr afon mae’r ffordd yn mynd heibio fferm Brynglas ac yn y cae gyferbyn a mynediad y ffarm mae un o ryfeddodau archaeolegol ardal Caernarfon.

Prin iawn yw’r olion ar wyneb y ddaear ond mae’r archaeolegydd craff yn gallu gweld yr olion lleiaf o ddau glawdd ar wyneb y cae. Cornel a dwy ochr gorsaf signal Rufeinig yw rhain (SH 502 634). Rhed y ffordd Rufeinig o Segontium tuag at Caerhun ychydig i’r de rhyw hanner lled cae i ffwrdd. Er fod Ffordd Cae Garw yn hir a syth, rhedeg yn gyfochrog a’r hen ffordd Rufeinig mae’r ffordd a camsyniad yw’r stori leol mai hon oedd yr hen ffordd Rufeinig.

Cloddiwyd yr orsaf signal yn y 1921 gan Mortimer Wheeler, W.J Hemp a Nash-Williams. Dyma chi dri archaeolegydd o fri, bron cystal a chael triawd Penyberth wrthi yn cloddio. Y farn gyffredinol yw fod yr orsaf signal wedi ei lleoli ar gyrion y gaer yn Segontium ac ar hyd y ffordd allan am y dwyrain fel rhyw fath o ragorsaf neu wylfan. Braf fyddai gallu ail-gloddio yma gyda techneegau archaeolegol y 21ain ganrif. Rwyf yn siwr y byddai hyn yn help mawr o ran deal y safle yma yn well.

Gan ddilyn y llwybr troed drwy’r giat mochyn ger Tyddyn Slaters dyma gyrraedd y Cadnant. Golwg ddigon truenus sydd ar yr arwyddbyst llwybr troed a nid hawdd yw cael hyd i’r bont droed dros y Cadnant yng nghanol yr holl goediach. CVhydig sydd yn troedio yma. Rwyf wrth fy modd yn ‘darganfod’ llwybr newydd. Efallai fod y bont bren wedi gweld dyddiau gwell ond eisteddais yma yn yr haul poeth a syllais ar ddwr llonydd y Cadnant – a byddwn wedi gallu ei neidio yn hawdd onibai am y coed.

Daw’r llwybr allan ger fferm Pen y Gelli Isaf a dyma droi yn ôl tuag at Gaernarfon ar hyd ffordd brysur y B4366.  Roedd y llwybr yma werth ei ddarganfod. Afonydd, pontydd ac archaeoleg. Perffaith.

Thursday, 9 July 2020

Siambrau Claddu Plas Newydd, Llafar Gwlad 148




Mae gennyf ddosbarth archaeoleg dan faner ‘Cymraeg i Oedolion’ drwy Brifysgol Bangor yng Nghapel y Traeth, Cricieth. Neu mi oedd nes i’r feirws Corona roi taw ar bob dim. Un o’r pethau rwyf yn argymell gyda aelodau’r dosbarth yw pa mor bwysig yw gofyn y cwestiynau cywir. Rhaid bod yn barod i ofyn cwestiwn. Rhaid herio pob damcaniaeth. Rhaid bod yn barod i ail-feddwl. Dyna sut mae’r holl beth yn gweithio.

Yn ystod un sesiwn / gweithdy yn edrych ar werth hen lyfrau o ran cael hyd i dystiolaeth am safloedd archaeolegol bu’r dosbarth yn trafod cyfrol Henry Rowlands ar Hanes a henebion Ynys Môn, Mona Antiqua Restaurata a gyhoeddwyd yn 1723. Felly heblaw fod hwn yn lyfr hen iawn (a gwerthfawr o ran bod yn gasgliadwy) y cwestiwn cyntaf oedd rhaid ei drafod yw beth yw gwerth y llyfr fel ffynhonnell hanesyddol?

Gan fod y llyfr wei ei gyhoeddi yn 1723 mae Rowlands felly yn cyflwyno darlun o henebion Ynys Môn yn y cyfnod hynny. Dyna’r peth cyntaf, ac o bosib dyna’r peth pwysicaf am y cyhoeddiad. Os yw’r llyfr yn cael ei gyhoeddi yn 1723, gallwn gymeryd yn ganiataol fod yr hyn roedd Rowlands yn ei weld a’i gofnodi yn bethau oedd yn bodoli o fewn ei oes. Yr ail gwestiwn amlwg wedyn yw faint o bethau sydd yn cael eu crybwyll gan Rowlands sydd wedi goroesi hyd heddiw?



Er fy mod yn tynnu coes ‘ffarmwrs’ am hyn reit aml, mae’n ffaith fod caeau a thir amaethyddol wedi cael eu hymestyn yn ystod y 19eg ganrif ac o ganlyniad mae’n weddol sicr fod nifer o gerrig boed yn feini hirion neu yn siambrau claddu wedi cael eu clirio. Fe all fod safleodd sydd yn cael eu disgrifio gan Rowlands fod wedi hen fynd.

Rhywbeth arall amlwg am waith Rowlands yw ei fod yn sgwennu yn gymharol gynnar fel ‘hynafiaethydd’. Doedd y wybodaeth sydd gennym heddiw yn sicr ddim gan Rowlands felly nid hawdd oedd gwahaniaethu rhwng y Neolithig, yr Oes Efydd a’r Oes Haearn. I Rowlands roedd yn haws gwahaniaethu rhwng y ‘brodorion’ Celtaidd a’r Rhufeiniaid. Roedd Rowlands yn ymwybodol o waith Tacitus a’r ymosodiad Rhufeinig ar Ynys Môn yn y 60au cynnar oed Crist.

Er fod Rowlands yn cyfeirio at garneddau fel safleoedd claddu, ac yn ymwybodol fod wrnau wedi eu canfod mewn rhai carneddau mae cryn ddryswch ynglyn a’r siambrau claddu a cherrig yr allor y Derwyddon. Fy marn yma yw maddeuwch i Rowlands. Mae o yn deall mai Môn oedd cadarnle’r Derwyddon. Ond mae o hefyd yn cofnodi safleoedd fel cylch cerrig Bryn Gwyn ger Brynsiencyn yn hollol gywir!

Dyma’r her felly wrth ddarllen gwaith Rowlands, rhaid dehongli’r hyn sydd ganddo dan sylw yn ofalus gan gydnabod fod technegau a’r ddisgyblaeth archaeolegol wedi ei drawsnewid yn llwyr ers ddechrau’r 18fed ganrif. Er hyn, dyma chi fendigedig fod llyfr wedi ei gyhoeddi mor gynnar a 1723 yn adrodd hanes yr ynys.



Un safle drodd mewn i drafodaeth ddiddorol iawn gyda dosbarth Cricieth oedd y siambr gladdu ddwbl ar lawnt Plas Newydd, ger y Fenai, cartref Ardalydd Môn a’r Pagets. Gan fod rhywun mor gyfarwydd a’r byddigions yn codi ffug-gestyll a ffug-dyrrau addurnedig (follys) ar eu stadau byddai codi amheuaeth ynglyn a’r siambr gladdu yn beth ddigon amlwg i’w wneud. Yn sicr, bob tro rwyf wedi arwain teithiau tywys at y gromlech ym Mhlas Newydd rwyf yn crybwyll arferion y boneddigion o dirweddu a chreu gerddi.

A dyma lle mae Rowlands yn hanfodol. Rydym yn gwybod fod y ddwy siambr ym Mhlas Newydd, neu Llwyn Moel fel yr hen enw, yn sefyll yn adeg Rowlands. Mae o yn cyfeirio at y ddwy siambr a hefyd at Bryn yr Hen Bobl siambr arall yn agosach at y Fenai. Bryn yr Hen Bobl yw’r unig siambr gladdu ar Ynys Môn lle mae’r garnedd wedi goroesi dros y gromlech. Mae disgrifiadau Rowlands yn cyfateb a’r hyn a welir heddiw.

Yn ystod y 1790au comisiynwyd y garddluniwr Humphry Repton i wenud gwaith ym Mhlas Newydd gan y Iarll Uxbridge cyntaf. Clywais son yn ddiweddar gan aelod o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhlas Newydd fod Repton wei crybwyll gosod llechan neu gofeb famor ger y gromlech yn cydnabod hanes y derwyddon. Does dim tystiolaeth fod hyn wedi digwydd. Os yw’r strori yn wir fe allwn awgrymu fod y siambrau claddu ar y safle cyn i Repton ddechrau garddlunio. Neu fel rwyf yn tynnu coes weithiau fod hyn yn ‘double-bluff’ gan Repton a mai fo gododd y cerrig.

Drwy edrych ar Mona Antiqua Restaurata gall rhywun fod yn hollol sicr fod y siambrau claddu yn sefyll yma ymhell cyn cyfnod Repton a’r Pagets. Mae llun Rowlands ddigon agos i’r hyn a welir ar y safle heddiw. Gan fod siambrau claddu Bodowyr, Bryn Celli Ddu a Bryn yr Hen Bob oll o fewn tafliad carreg i siambrau Plas Newydd does dim byd anghyffredin mewn gweld cromlech Neolithig yn y rhan yma o Ynys Môn chwaith.

Aelod o’r dosbarth yng Nghricieth ddaeth a hyn i’r amlwg – os di’r siambrau yn cael eu cofnodi gan Rowlands yn 1725 mae hynny wedyn yn profi nad Repton gododd y cerrig fel ffug-gromlech yn ystod y 1790au.

A dyna brofi gwerth hern lyfrau yn syml. Hyd yn oed os oes angen pwyll wrth ddadansoddi, mae’r dystiolaeth ddigon amlwg. Does dim modd dadlau hefo’r dyddiadau a does dim modd dadlau hefo lluniau Rowlands. Mae siambrau claddu Plas Newydd yn rhai go iawn felly!

Llyfryddiaeth:
Garnett, O., 2010, Plas Newydd Counry House and gardens (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Rowlands, H., 1723, Mona Antiqua Restaurata

Wednesday, 22 April 2020

Not The Herald Gymraeg 22.04.20








UPDATE DECEMBER 2020: I understand freelancers are now being paid for contributing to Herald Gymraeg. I have not been asked / invited back to contribute which is disappointing.

Conclusion:

No value in archaeology articles.

Bad news for freelancers. 

Historical parallels spring to mind.




Original Blog Below:


Does dim colofn gennyf yn yr Herald Gymraeg heddiw. Cafwyd wybod ddechrau Ebrill fod cyflogau colofnwyr llawrydd yn cael eu hatal oherwydd y feirws corona. Dwi ddim yn gwybod os rwyf wedi gwneud y penderfyniad iawn ond fy nheimlad i oedd fel rhywun hunnan gyflogedig na ddyliwn barhau i gyfrannu yn ddi-dal. Er fod ni yn meddwl am yr Herald Gymraeg, cwmni Reach PLC sydd yn ein cyflogi. Mae gwerth i'r golofn, mae gwerth i ddiwylliant Cymraeg. Does dim syniad gennyf os caf wahoddiad i sgwennu eto yn y dyfodol?

I have contributed a Pop Music /culture and Welsh history / archaeology column for Herald Gymraeg for over 10 years. As freelance writers we were informed early April that we would no longer be paid by Reach PLC due to pressures resulting from the Corona virus. Rightly or wrongly I have decided not to write for free. What we do has a value. Welsh Culture has a value.

Once things settle after the Corona Virus I think there will need to be a major re-think or re-evaluation of the value of Welsh culture. Current events have exposed the fragility of the Welsh language economy. Those of us within the creative / cultural / heritage industries have been left very exposed.

My work as a freelance lecturer / tour guide / archaeologist have all been cancelled for the Summer of 2020. There is not much of a safety net. Likewise most of my music business activities.

Fortunately my work writing books continues as does the weekly BBC Radio Cymru show - I am luckier than many. But I have a feeling that many of us within the Welsh language eco-climate will need a re-think soon. Its a very fragile climate. The future has to be re-written.







Wednesday, 8 April 2020

Albym Cerys Hafana, Herald Gymraeg 8 Ebrill 2020



‘Cwmwl’ yw albym newydd Cerys Hafana, Dyma albym cyntaf Cerys ond dyma albym rhyfeddol am albym gyntaf. Does dim beirniadaeth gennyf dim ond canmoliaeth. Does dim gair o gyngor gennyf mwy na ‘caria ymlaen hefo’r gwaith da Cerys!’ Mae’r delyn deires yn fyw ac yn iach. Mae enaid ac ysbryd Nansi Richards / Llio Rhydderch wedi cyrraedd cenhedlaeth arall ifanc – y genhedlaeth nesa!

Dechrau eleni ddos i ar draws Cerys am y tro cyntaf. Un o fanteision cyflwyno’r sioe radio nos Lun ar Radio Cymru yw fod y tim cynhyrchu yn BBC Bangor yn fy mwydo gyda stwff newydd, caneuon a thraciau, storiau ac erthyglau. Erthygl yn y cylchgrawn ‘O’r Pedwar Gwynt’ gan Cerys ysgogodd drafodaeth ar y sioe am y diffygion o fewn diwylliant Cymraeg i gynnwys pawb.

Ers ddechrau’r cysyniad o ‘arddegau’, efallai gyda Jazz yn y 1920au neu Sgiffl yn y 50au a wedyn yn sicr Rock’n Roll mae pobl ifanc wedi chwilio am gerddoriaeth, ffasiwn, steil a llefydd i fynd allan sydd yn fodd o ddiffinio eu cymeriadau a’u diddordebau. Mae hyn yn rhywbeth hollol naturiol.

Yn aml iawn, y bobl sydd ddim yn ‘ffitio mewn’ i’r prif ffrwd neu’r canol y ffordd yw’r rhai sydd yn gwthio’r agenda yn ei flaen – rhain yw’r arloeswyr a’r creadigol. Nid drwy gyd-ymffurfio mae newid pethau. Ewch i ddarllen erthygl Cerys neu mae clip o’r sgwrs ar gael ar gwefan BBC Sounds / Recordiau Rhys Mwyn / Clipiau.

Does dim hawlfraint ar Gymreigtod a changymeriad yw cymeryd yn ganiataol fod yr iaith yn ddigon i uno pawb o dan un cwmwl Celtaidd ysbrydol Tir Na Nog-aidd. Nid un teulu bach hapus yw siaradwyr Cymraeg on yn hytrach gwahanol bobl hefo iaith gyfathrebu yn gyffredin. O ddilyn y ddadl yma mae’n hollol rhesymol gweld Mods sydd yn siarad Cymraeg ond does dim disgwyll iddynt fod yn ffans o Eden. Dim o’i le hefo hynny – felly mae hi.

Mae ‘youth cults’ yn rhywbeth rhyngwaldol sydd wedi bod hefo ni ers genedigaeth yr ‘arddegau’. Weithiau mae’r ‘Byd Cymraeg’ yn methu dallt hynny – Steddfod yw popeth – mae hyn yn ddiffiniad llawer rhy gyfyng. Yn amlwg!

Y ffordd orau o ddathlu Cymreigtod yw yn ei holl amrywiaeth, yn ei holl liwiau – a dyma wedyn ganiatau adfywiad i’r delyn deires yn y presennol. Yr ‘here and now’ fel dywed y Sais. Rwan hyn! Dyma’r dyfodol. Beth am wneud datganiadau mawr.



Rwyf wedi dilyn gyrfa y grwp Adwaith o Gaerfyrddin dros y ddwy flynedd dwetha. Grwp sydd wedi datblygu o fod yn ‘addawol’ i ‘eitha da’ neu ‘diddorol’ i fod yn hollol hanfodol. Bellach mae Adwaith yn sefyll allan fel grwp pop sydd yn ymylu ar fod yn berffaith – caneuon, delwedd, agwedd. Funky.

Rwyf yn falch fod ein sioe bach radio ni ar nos Lun wedi gallu cynnig cefnogaeth cyson i Adwaith. Nid cefnogi er mwyn cefnogi yw hyn. Cefnogi achos fod rhywun yn gwybod fod RHAID datgan cefnogaeth yw hyn. Dyma’r dyfodol. ‘This is the Future of Rock’n Roll’ – y math yna o ddatganiad.

A dyma Cerys Hafana – y nesa yn y llinach. Da chi jest yn gwybod fod hi yn seren ddisglair. Fel Nico, Patti Smith, Chrissie Hynde, Polystyrene a Cerys Matthews – mae o gan Cerys Hafana hefyd. Heb os.

‘Emyn y Glaw 1’ yw’r trac cyntaf ar yr albym. Trac ar y delyn deires. Trac llawn egni ac angerdd. Trac sydd yn gosod yr agenda ar gyfer gweddill yr albym. Gyda’r ail drac ‘Ymadawiad/ Hyd y Frwynwen / Dawns Elmo’ mae’r Delyn yn dal i dincian gyda’r un dwyster. Hanfodol yw’r gair allweddol yma dwi’n credu.

Trac 3 yw’r ‘clasur’ Bwthyn Fy Nain / Tŷ Bach Twt. Mae‘r trac yn ‘glasur’ yn barod. Gan atgoffa rhywun o’r Velvet Underground neu ‘Gyda Gwen’ sengl gyntaf Catatonia mae hwn yn Rock’n Roll a gwerin heb unrhyw gyfaddawd. Mae o yna ochr yn ochr a John Cale yn cyfeilio i Nico.

Y gitar drydan yw’r prif offeryn yma – dyna pam y gymhariaeth hefo’r Velvets. Ond mae’n drac gwerin hefyd. Sut cafwyd y sain perffaith yma ar y trac? Achos mae o yn berffaith o ran dal ysbryd angerddol llais Cerys. Dwi’n rhyfeddu a gwirioni – ac yn chwarae eto. Drosodd a throsodd.

Yn dilyn mae ‘Bwlch Llanberis / Tri a Chwech / Marwnad yr Heliwr’. Unwaith eto cawn y delyn deires yn tincian. Nid y delyn mewn gwers ysgol neu llwyfan eisteddfodol sydd yma. Nid darn mewn amgueddfa. Dyma gerddoriaeth gyfoes sydd yn rhoi cic anferthol i’r traddodiadol allan o unrhyw drwmgwsg parchus mae’r gwybodusion yn trio ei warchod.

Dyma gerddoriaeth o’r pridd. Yn fyw ac yn iach. Dyma ysbryd Gwilym Cowlyd a Iolo a Dr William Pryce. Dyma ddathlu Cymreigtod tra’n chwalu pob mur a phob parchusrwydd diwylliannol.

Y piano wedyn sydd yn tincian ar ‘I bhFolach Faoin gGloch’. Hyfryd. Y piano yn creu awyrgylch, ddim rhy bell o sain piano mewn neuadd bentref ond eto yn swnio yn glir – unwaith eto dwi’n gofyn sut recordwyd hyn mor berffaith.

Mae na rhywbeth am llais Cerys – o fewn eiliadau o glywed ‘Y Ferch o Blwy’ Penderyn’ mae rhywun unwaith eto yn gwybod eich bod yn gwrando ar athrylith, ar y peth go iawn, ‘the real deal’, seren ddisglair iawn.

Dyma bwer cerddoriaeth ynde – fel clywed Bob Dylan neu’r Pistols am y tro cyntaf – mae hwn yn hollol hollol rhyfeddol. Prynwch yr albym !

https://open.spotify.com/track/21fpelsJTgF6x8dwqk5AnY?si=Mu0k5LyVTS-k2RY7dWVPzw




Wednesday, 25 March 2020

Gwrandewch Ar Hyn! Pwysigrwydd Diwylliant, Herald Gymraeg 25 Mawrth 2020





Mae hi bron yn amhosib gwybod beth i’w sgwennu yr wythnos hon. Rydym yn wynebu cyfnod o ansicrwydd tu hwnt i unrhyw brofiad yn ein bywydau. Gan fod y sefyllfa a’r amgylchiadau gyda’r feirws Corona yn newid o ddydd i ddydd a finnau yn sgwennu dros y Sul a’r golofn yn cael ei chyhoeddi ar ddydd Mercher, anodd gwybod faint fydd wedi newid yn y cyfamser. Yr unig beth sicr yw’r ansicrwydd.

Rhywbeth weddol amlwg yw fod cymaint ohonnom yng Nghymru yn gweithio yn llawrydd, yn fusnesau bychain ac yn hunan-gyflogedig. A nifer fawr ohonnom wedyn o fewn y sectorau creadigol a diwylliannol. Mi fydd pethau yn galed. Rhan helaeth o fy ngwaith a chyflog i yw darlithio, teithiau tywys a’r gwaith cysylltiedig yn y maes archaeoleg. Hyd yma mae popeth yn ystod Ebrill a Mai wedi ei ohurio. Efallai bydd modd ail-drefnu ambell beth ond bydd llawer o’r gwaith wedi ei golli.

Tydi rhywun ddim yn rhaglweld bydd pethau unrhyw well yn ystod Mehefin. Sylwaf fod rhai yn ail-drefnu digwyddiadau erbyn yr Hydref. Mawr obeithiaf fod eu optimistiaeth yn cael ei wireddu. Rhaid cyfaddef rwyf yn bryderus iawn o wneud gormod o gynlluniau ar hyn o bryd – efallai fod rhaid aros a gweld, ac os bydd modd ail-afael mewn gweithgareddau ddiwedd yr Haf neu yn yr Hydref fod modd trefnu yn sydun.

Dwi’n berson trefnus, sydd wedi hen arfer trefnu pethau yn sydun. Yn hynny o beth dwi ddim yn or-bryderus, ond mae fy ngreddf yn dweud aros a gweld sut mae pethau yn datblygu dros yr wythnosau nesa cyn rhuthro i ail-drefnu rhy fuan a wedyn gorfod gohurio eto am yr eildro. Pwy a wyr? Dwi ddim am gynnig unrhywbeth yma – jest gweld sut bydd pethau yn digwydd.

Ar adegau fel hyn mae’n hollol amlwg fod y flaenoriaeth ar iechyd, teulu, cymdeithas – bydd angen edrych ar ôl ein gilydd ar sawl lefel a mae cyflogau pobl yn amlwg yn rhan o hyn. Hyd yma aneglur ac ansicr yw’r cyfarwyddiadau gan y Llywodraeth o ran yr hunan-gyflogedig. Am y tro rhaid aros a gweld, ond bydd miloedd ohonnom yn colli cyflog dros y misoedd nesa.

Yn y cyfamser mae rhywun yn cadw pellter cymdeithasol, bron a bod yn hunnan ynysu cymaint a phosib hyd yn oedd os ddim yn dangos symptomau amlwg o’r feirws. Da ni’n trio bod mor gall a phosib. Wrth sgwennu’r golofn rwyf yn ymwbodol iawn fod angen amser i ni addasu ar gyfer hyn ôll. Yn ara deg mae’n debyg bydd rhywun yn addasu ei ffordd o fyw ac yn dechrau dygymod a ffyrdd newydd. Rydym mewn cyfnod o sioc a chyfnod pryderus.

Wrth weld y gwaith tywys yn cael ei ohurio, fy ymateb cyntaf oedd y byddwn yn gallu defnyddio’r amser i ddechrau sgwennu’r cyfrol Archaeoleg nesa ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch. Bydd y llyfr yma yn edrych ar olion archaeolegol yn ne-ddwyrain Cymru. Hyd yma ychydig iawn dwi di gallu sgwennu. Trechir fy nghreadigwrydd a’r ‘awen’ gan gyfnodau o or-bryder. Ddigon rhesymol efallai? Dwi heb gyrraedd y pwynt o allu rheoli hyn eto.

Dwi di llwyddo i sgwennu ychydig ar gyfer y llyfr. Ar hyn o bryd rwyf yn gwenud gwaith ymchwil ar siambr gladdu Neolithig o’r enw Pen y Wyrlod ger Llanigon, Gelligandryll. Siambr yn perthyn i’r grwp Cotswold-Hafren. Un o’r pethau mwyaf rhyfeddol am y safle yw mai yma cafwyd hyd i un o offerynnau cerdd cynhara Cymru – sef chwiban o asgwrn dafad. Parhau mae’r drafodaeth o fewn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru os yw’r gwrthrych yma yn offeryn cerdd go iawn neu darn o asgwrn hefo olion danedd anifael arno yn hytrach na thyllau pib.

Darllen yw’r peth arall gall rhywun wneud hefo’r amser sbar. Eto mae’n bosib gwneud hyn ond mae angen cadw draw o’r newyddion a Twitter a’r cyfryngau cymdeithasol neu mae rhywun yn llithro’n ôl i boeni, gor-feddwl a gor-ddadansoddi. Dealladwy mae’n debyg yn y cyfnod cychwynnol yma.

Y llyfr rwyf yn ddarllen ydi ‘Sit Down! Listen To This’. Hanes Roger Eagle ar ffurf cyfraniadau llafar gan y rhai oedd yn ei adnobod. By Roger Eagle yn ffigwr amlwg fel DJ yn y Twisted Wheel ar ddecharu pethau fel Northern Soul. Bu Eagle hefyd yn trefnu gigs gyda artistiaid Blues fel John Lee Hooker, Muddy Waters a Screaming Jay Hawkins ym Manceinion.

Yn ddiweddarach bu Eagle yn rhedeg clwb ‘Erics’ yn Matthew Street, Lerpwl. Bydd fy nghenhedlaeth i yn cofio Erics fel y clwb Punk yn Lerpwl lle roddwyd llwyfan cynnar i bands fel y Sex Pistols a’r Clash yn hwyr yn 1976 ac yn fuan yn 1977. Erics roddodd lwyfan wedyn i’r bandiau amlwg o Lerpwl fel Teardrop Explodes, Mighty Wah! ac Echo and the Bunnymen. Erics a Roger Eagle hefyd roddodd lwyfan cynnar a hwb i yrfaeodd pobl fel Jayne Casey, Bill Drummond (KLF) a Holly Johnson (Frankie Goes to Hollywood).

Brwdfrydedd ac angerdd Roger tuag at gerddoriaeth a diwylliant yw’r peth amlwg mae rhywun yn glywed amdano wrth ddarllen. Disgrifir Eagle fel ‘addysgwr cerddorol’. Ei ‘beth o’, oedd cenhadu dros gerddoriaeth a grwpiau newydd. Soniodd Jayne Casey yn y llyfr fod Eagle wedi dweud wrthi fod diwylliant mor bwysig a bywyd ei hyn. Diwylliant yw bywyd.

Gallaf ddeall hynny yn iawn. Ar ôl y feirws yma fynd heibio bydd gwaith mawr i’w wneud i adfer elfennau o’r diwylliant Pop Cymraeg fu mor bwysig i bobl fel fi yn tyfu fyny a dros y blynyddoedd wedyn.