Tuesday 27 October 2020

Enwau Lleoedd ym Maesyfed a Brycheiniog, Llafar Gwlad 150

 


 

Tybiaf fod pob colofnydd yn gobeithio am ‘ymateb’ i unrhyw erthygl. Efallai fod modd gwthio hyn ymhellach a fod y weithred o ysgrifennu erthygl bron yn weithred chwyldroadol. Beth yw’r pwynt os nad yw’r erthygl yn gwneud i bobl feddwl neu ddysgu neu ddarganfod rhywbeth neu rhywle newydd? Ceir pleser o ddarllen, deallaf hynny yn iawn a bydd y mwyafrif yn fodlon a hynny. Bydd lleiafrif yn ymateb. A dyna chi beth braf.

Gerallt Pennant oedd ar y ffôn, wedi darllen fy erthygl yn y rhifyn dwethaf o Llafar Gwlad (149) ac yn benodol gyda gwybodaeth pellach am ystyr yr enw Rhosbodrual ar gyrion Caernarfon. Atgof plentyn oedd gan Gerallt fod rhai o is-adeiladau fferm a oedd wedi gweld dyddiau gwell efallai, yn cael eu cyfeirio atynt fel rhiwal neu hoywal. Cyfeiriodd Gerallt at Cydymaith Byd Amaeth, Cyfrol 3 gan Huw Jones lle ceir sawl esboniad i’r enw gan gynnwys amrywiaethau tafodiaethol.

Sied fferm gyda drws agored i ddal wageni ac offer fydda’r hoywal neu’r hiwal (yr huwal yn Ynys Môn) a mae’n debyg fod elfen o hyn yn tarddu o’r gair hofel sef adeilad bler. Cawn enw arall gan Huw Jones, sef hual ar gyfer llyffetheirio neu rwystro anifeiliad rhag grwydro, ceffylau rhan amla, a hyn fydda’r llyffethair ar y ddwy droed blaen.

Esboniad gwahanol a geir gan Glenda Carr yn Hen Enwau Arfon Llyn ac Eifionnydd (2011) lle mae’r hual yn loc ar gyfer cadw anifeiliad – yn debygach i ‘animal pound’ yn y Saesneg. Ond mae’r rhwystr neu ‘restraint’ hefyd yn cael ei grybwyll gan Carr. Rhaid cyfaddef o ran yr enw Rhosbodrual rwyf yn tueddu at yr esboniad o’r rhos lle cedwir anifeiliaid. Nid arbenigwr enwau lleoedd mohonnof a thros y blynyddoedd wrth drafod safleoedd archaeolegol rwyf wedi cal budd mawr o lyfrau fel Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, J. Lloyd-Jones (1928).

J. Lloyd Jones sydd bennaf gyfrifol yn fy marn i am ddatrus y cwestiwn sawl ‘C’ sydd yn Cricieth / Criccieth gan ddateglu mae tarddiad yr enw yw’r crug-geith neu’r graig gaeth. Dwy ‘G’ sydd i fod yn Cricieth felly a dyna ddiwedd ar y ddadl honno!

Crug arall sydd wedi bod o ddiddordeb i mi yn ddiweddar yw Crug Eryr neu Crugerydd, Llanfihangel-Nant-Melan, yn yr hen Sir Faesyfed a hen gantref Cymreig Oesoedd Canol Maelienydd. Rwyf yng nganol ysgrifennu fy nghyfrol nesa ar archaeoleg de-ddwyrain Cymru ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch ac yn ceisio canfod safleoedd y cestyll a llysoedd Cymreig. Tydi’r cestyll Cymreig ddim mor amlwg yma a rhai tywysogion Gwynedd a Deheubarth. Rhaid gwneud llawer mwy o waith ymchwil ac unwaith eto dyma enwau lleoedd yn rhan hanfodol o’r broses.



Castell mwnt a beili yw Crugerydd yn y dull Normanaidd sydd yn cael ei gydnabod / grybwyll fel castell a adeiladwyd gan Cadwallon ap Madog, tywysog Maelienydd yn y 1150au. Cantref i’r gogledd o Frycheiniog rhwng afonydd Gwy a’r Hafren oedd Maelienydd. Ymwelodd Gerallt Gymro yn 1188 gan gyfeirio at y castell fel Crucker Castle. A beth am yr enw, Crugerydd neu Crug Eryr? Gall fod yr enw yn deillio o domen neu graig / bryncyn yr aradwr neu amaethwr yn ei ffurf Crugerydd neu fod hwn yn graig yr eryr yn ei ffurff Crug Eryr

Wrth deithio ar yr A44 allan am Llanllieni (Leominster) o gyfeiriad Rhaeadr a chyn cyrraedd Forest Inn mae’r castell i’w weld ar yr ochr dde i’r ffordd. Rydym rhyw filltir cyn cyrraedd y gyffordd a’r A481 o Lanelwedd. Dyma ardal dyffrynnoedd Summerhill Brook ac Afon Arrow a mae’r castell ei hyn yn rheoli Dyffryn Edw sydd yn tarddu ger Creigiau Llandegley ychydig i’r gorllewin ac yn un o isafonydd y Gwy.

Mesurai’r mwnt 26m ar draws ac uchder o 4.4m a mae’r buarth wedyn sydd i’r de-ddwyrain yn mesur 40m ar draws gyda ffosydd amddiffynnol yn ei amgylchu. Nid yw hwn yn gastell mawr  ond fe atgoffir rhywun o gastell Tomen y Rhodwydd, un o gestyll Owain Gwynedd ger Llandegla.

Wrth edrych ar enwau lleoedd, mae’n amlwg fod yr elfen ‘llys’ yn ystyriaeth wrth geisio darganfod safleoedd y llysoedd Cymreig. Castell Bronllys yw un engraifft amlwg, lle cawn gastell Normaniadd ond a oes hanes Cymreig i’r safle?



O ble daw’r enw Bronllys? Does dim cofnod o’r enw cyn y 13eg ganrif ac er fod ambell drafodaeth wedi bod ynglyn a tharddiad yr enw fel Llys Brwyn – Brwyn yn enw personol o bosib does fawr o hygrydedd i’r ddamcaniaeth yma. Cytunaf fod angen cadw meddwl agored a pharodrwydd i drafod ond does dim tystiolaeth pendant ar hyn o bryd fod llys Cymreig yma ar y safle cyn i Richard fitz Pons godi ei gastell mwnt a beili ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif.

Byddai Bronllys oddi fewn i gantref Selyf yn nheyrnas Brycheiniog fyddai hefyd yn cynnwys cantrefi Talgarth a Chantref Mawr, felly dyma chi y posibilrwydd o dri lleoliad llys gwahanol. Efallai ei bod yn anodd ar hyn o bryd gwneud y cysylltiad Cymreig yng nghastell Bronllys ond mae’n safle hawdd i’w gyrraedd a’r ymyl y A479 a pharcio cyfleus a mae’r tŵr crwn werth ei weld. Atgoffir rhywun o dŵr crwn castell Dolbadarn gyda’r wal yn ymestyn allan, sef y batter, yn atgyfnerthu gwaelod yr adeilad. Ysgrifennais am ddylanwad y cestyll Normanaidd ar gestyll Llywelyn ab Iorwerth yn Cam i’r Deheubarth (Pennod 10). Heb os mae tebygrwydd yn arddul tyrau fel Wakefield, Penfro a Bronllys a gorthwr Llywelyn yn Nolbadarn.

Castell mwnt a beili o bren a phridd oedd yma yn wreiddiol a mae ardal y beili neu’r buarth bellach ar dir preifat felly does dim modd ei weld. Walter III a briododd un o ferched Llywelyn ab Iorwerth sydd mwyaf tebygol gyfrifol am godi’r tŵr carreg yma. Felly o bell dyma ni y cysylltiad Cymreig – roedd un o ferched Llywelyn yn byw yma. Priodas wleidyddol dybiwn’i rhwng y Normainiaid a thywysogion Gwynedd. Druan ohonni. Cefnodd Walter ar Llywelyn yn ddiweddarach gan ochri gyda Harri III.

Atgyfnerthwyd castell Bronllys yn ystod gwrthryfel Glyndŵr er mwyn gwrthsefyll y Cymry. Roedd cryn gefnogaeth i Glyndŵr yn yr aradl mae’n debyg a fel cymaint o gestyll arall doedd fawr o bwrpas na galw amdanynt gyda dyfodiad y Tuduriaid.

Canlyniad y gwaith ymchwil diweddar yw sylweddoli fod enwau lleoedd yn ystyriaeth bwysig os nad hanfodol wrth geisio dehongli archaeoleg a hanes Cymru a tydi’r ateb ddim bob amser yn amlwg nac yn hawdd i’w ganfod.

 

 

No comments:

Post a Comment