Thursday 24 March 2022

Crwydro Caernarfon, Llafar Gwlad 155

 


Rwyf wedi crwydro cymaint o amgylch tref Caernarfon a’i chyffiniau ac awydd cael hyd i ddarnau bach o hanes sydd efallai yn newydd i mi. Her bach – rwyf am ddarganfod pethau newydd.

Yr Alex yng Nghaernarfon yw fy man cychwyn. Rwyf gyferbyn a Morrisons (yr hen archfarchnad Safeways) a chyn safle gorsaf drenau Caernarfon. Estyniad i’r lein rhwng Caer a Chaergybi oedd gorsaf Caernarfon yn dyddio i 1850 a fe’i chwalwyd yn y 1970au. Does fawr o dystiolaeth heblaw’r plac ar wal allanol Morrisons. Tydi’r plac ddim y gorau chwaith – mae’n dathlu agor siop Safeways yn 1994 yn fwy na hanes yr orsaf.

Ond troi fy nghefn ar Yr Alex a Morrisons yr wyf am ei wneud gan fod un o gof-lechi Cyngor Ddinesig Caernarfon ar wal tŷ pen Stryd Rolant. Llechan i gofio am Dilys Wyn Williams yr arweinydd corawl sydd ar dalcen y tŷ. Yn ddiddorol iawn wrth ymchilio mwy i hanes Pafiliwn Caernarfon cefais hyd i record o’r cyngerdd olaf a Dilys oedd y cyfeilydd ar y noson. Fe gewch fwy o hanes Dilyn ar wefan historypoints.org

Wrth ei yrfa canu ddod i ben a thlodi yn gysgod parhaol, bu Llew Llwyfo yn byw yn Stryd Rolant yn y cyfnod oddeutu 1886. Cyfeirir at y sefyllfa drist gan Erwyl Wyn Rowlands yn y gyfrol Y Llew Oedd ar y Llwyfan (2001) wrth i Llwyfo ennill wobr ym Mhrifwyl Caernarfon “gan ddod ac ugain punt i aelwydd dlodaidd Stryd Rowland”. Does dim cof-lech i Llew Llwyfo yma eto nac yn wir yn Rhif 4 Gorllewin Twthill (Rock Cottage) lle bu Llwyfo yn byw am gyfnod.

Ar ben allt serth Stryd Rolant mae llwybr troed (braidd yn fler a braidd yn fwdlyd) yn arwain tu cefn i dai Lon Ddewi ac o dan bryn Twthill, gan ddod allan ar Lon Sydney. Oddi yma detour bach dau funud a mae modd cael cip olwg ar Gerrig yr Orsedd 1959 yn y cae ar ymyl England Road South a Lon Priestly.

Llwybr troed ddigon cul a serth sydd yn cysylltu England Road South a Lon Warefield sydd yn denu fy sylw nesa. Ar waelod y llwybr ger Lon Warefield mae cof-lech arall. Cofnodwyd fod y llwybr troed ar agor i’r cyhoedd yn 1900 gan William Farren Esq. Sylwais fod yna William Ignatius Farren o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wedi colli ei fywyd ym 1918 ar y Gofeb Rhyfel ar Maes Caernarfon. A’i yr un dyn yw hyn? Mae angen mwy o ymchwil.

Rhaid ymlwybro lawr allt at y gyffordd rhwng Lon Warefield a Lon Ddewi wedyn a chraffu i weld hen giat haearn yr Eye & Cottage Hospital. Gwelwn enw’r ysbyty mewn ffram o fwa haearn dros pileri yr hen fynedfa. Bellach mae’r giat wedi cau a gan fod y coed yn uchel, nid hawdd yw gweld y gwaith haearn o gwbl. Maes y Bwthyn yw’r stad o dai newydd sydd wedi cymeryd lle yr ysbyty. Ger y troad i mewn am y stad mae wal frics terracotta gyda’r arwydd ‘Carnarvon Cottage Hospital’. Mae’n debyg mai’r ‘Carnarvon Cottage Hospital’ oedd yr enw rhwng 1888 a 1955 a wedyn y ‘Caernafon Eye & Cottage Hospital’ o 1960 hyd 1981.




Rhed Lon Ddewi i Cae Gwyn, un ffordd hir o dai modern. Sylwais ar bedair cof-lech gwahanol. Mae’r Gymdeithas Ddinesig wedi bod yn brysur yn cydnabod a dathlu mawrion tref y Cofis. Ar bostyn giat Iscraig, Lon Ddewi, mae cof-lech William Morris (1899-1979) awdur, bardd, Prifardd ac Archdderwydd. Cyfaill i Hedd Wyn, mae’n debyg fod cymeriad Morris yn ymddangos yn y ffilm ‘Hedd Wyn’ (1994). Gyda’i awdl Ogof Arthur y cipiodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-nedd (1934).

Yr ail gof-lech ar Lon Ddewi yw’r un i gofio am y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards. Ymhlith cyfansoddiadau Dilys roedd trefniant cerddorol o soned R. Williams Parry Mae Hiraeth yn y Môr a chyfansoddiadau gwreiddiol fel Caneuon Y Tri Aderyn sydd wedi cael ei recordio gan artistiaid poblogaidd fel Charlotte Church ac Aled Jones. Bu ei gŵr, Elwyn, yn weinidog yn yr Eglws Bresbyteraidd yng Nghymru ar y Maes yng Nghaernarfon – adeilad o ddiddordeb pensaerniol heb os.

Val Feld (1947-2001) AC Llafur dros Ddwyrain Abertawe yw’r plac nesa ar ein dro bach ar hyd Llys Gwyn. Yma ym Mhen-y-Bryn oedd cartref Val yn ystod ei phlentyndod. Yn ogystal a fel AC rydym yn cofio am waith powysig Val fel un o sylfaenwyr Shelter Cymru.

Craig Wen, cartref Ellis William Davies yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, yw lleoliad y plac olaf (4dd) ar y darn yma o’n taith. Ar adain-chwith y Blaid Rhyddfrydol bu i Davies wrthwynebu rhai o bolisiau Lloyd George yn ystod y Rhyfel Mawr, Bu’n aleod Rhyddfrydol dros adran Eifion yn Sir Gaernarfon a hefyd Sir Ddinbych. Bu farw yn iGogledd Cymru cyn cael ei ethol i San Steffan. Dyma lu o gysylltiadau diddorol hefo hanes Caenarfon, Gwynedd, y chwareli llechi a Lloyd George.

Ar derfyn cul-de-sac ar ochr ddwyreinol Llys Gwyn mae un o ryfeddodau yr ardal hon o Gaernarfon. Yn wir, rwyf wedi cael cryn drafferth cael hyd i wybodaeth pellach am y tŵr carreg sydd yn codi ei ben yn gellweirys dros yr holl dai modern. Prin bydda rhywun yn sylwi. Edrychai fel ‘folly’. Does dim yn gwneud synnwyr. Meddyliais ei fod efallai yn hen adeilad fferm cyn codi stad tai Llys Gwyn ond y stori dwi wedi ei cael gan rhywun lleol uw mai tŵr neu stiwdio ar gyfer artist neu arlunydd yw hwn. Unwaith eto rwyf angen gwybod mwy.




Gan droi yn ôl at Ffordd y Gogledd mae rhywun yn dod ar draw un o’r arwyddion Croeso Caernarfon gyda llun o’r castell ar floc concrit. Fel arbrawf ‘seicoddaearyddol’ fe gerddais i weld bob un ohonnynt cwpl o flynyddoedd yn ôl. Mae un ar gyrion y dre ar bob ffordd i fewn i Gaernrfon, o Bontnewydd, o Waunfawr, o Lanberis, o Fethel ac o Fangor. Chwech i gyd.

Fy rhyfeddod bach diddorol olaf ar fy nhaith yw Gerddi Menai. Wedi hen ddiflannu mae’r gerddi o dan y datblygiadau tai ond mae rhan o wal y gerddi caeëdig (walled garden) yn dal i sefyll a hefyd y ‘ffenestr siop’. Sportsman Cottage yw’r enw ar weddillion yr adeilad ac unwaith eto o sgwrsio hefo rhywun lleol y stori gefais oedd fod modd prynu cynnyrch o’r ardd yma ar un adeg.

Drwy gyfuno elfennau o daith hanes a seicoddaearyddiaeth mae modd gweld a darganfod cymaint mwy. Nawr, mae angen mwy o wybodaeth!

No comments:

Post a Comment