Monday 4 March 2019

Ysgol Magnelau Ail Ryfel Byd y Gogarth, Herald Gymraeg 20 Chwefror 2019





Hwn oedd y diwrnod cyntaf o ‘archaeoleg go iawn’ eleni a rhaid cyfaddef roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gael diwrnod allan yn yr awyr iach (beth bynnag y tywydd) gyda fy nghydweithwyr.

Daeth y gwahoddiad gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a’r bwriad oedd clirio llysdyfiant o amgylch safle’r Ysgol Magnelau ar y Gogarth sydd yn dyddio yn ôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Felly rydym am gael diwrnod ar y Gogarth (beth bynnag y tywydd) a chael diwrnod yn gweithio ar safle milwrol Ail Ryfel Byd. Does dim modd i hyn beidio bod yn ddiwrnod da.

Rheswm arall dros fod yn awyddus i fod yn rhan o’r prosiect yma oedd fod hon yn safle newydd i mi. Ychydig a wyddais o flaen llaw er i mi gofio fy nhad yn son am y gynnau mawr yn tanio ar y Gogarth pan roedd yn aros gyda’i ewythr ym Mhenmaenmawr ar adegau yn ystod y Rhyfel. Does dim gwell na chyfle i ddysgu rhywbeth newydd.



Sefydlwyd yr Ysgol Magnelau Arfodirol ar y Gogarth gan y Magnelau Brenhinol wrth i’r ysgol wreiddiol yn Shoeburyness, Essex orfod symud gan fod yr Almaenwyr yn agosau at arfordir gorllewinol Ewrop. Codwyd y safle yn sydun gan y Peirianwyr Brenhinol ym Medi 1940 gan dyllu i ochr llethrau isaf y Gogarth, gosod llwyfanau ar gyfer adeiladau, gosod ffyrdd a’r holl isadeiledd angenrheidiol. Chwalwyd nifer o’r adeiladau ar ôl y Rhyfel ond yr hyn sydd yn bwysig ar ochr orllewinol y Gogarth yw fod cymaint o olion wedi goroesi hyd heddiw.
Drwy edrych yn ofalus mae sylfaeni adeiladau, sylfaeni ar gyfer y gynnau mawr, cuddfannau tanddaearol yma i’w gweld. Y broblem fwyaf efallai ar y darn yma o’r Gogarth yw fod yr eithin Ewropeaidd yn frith ar y llethrau ac yn tyfu dros a chuddio rhannau o safle’r Ysgol Magnelau Arfordirol.

Bwriad Cadw yn hyn o beth yw gwella’r cyfleoedd dehongli archaeolegol ar gyfer y cyhoedd tra fod Parc Gwledig y Gogarth yn gyfrifol am yr holl dirwedd. Felly roedd yr archaeolegwyr a’r naturiaethwyr yn cyd-gerdded llaw yn llaw yn yr achos yma. Pwysleisiaf pa mor dda yw hyn – mae’r holl amgylchedd a’r dirwedd yn bwysig – does dim blaenoriaeth gan un elfen. Rhaid cael cydbwysedd cadwriaethol – rhaid cadw’r olion Ail Ryfel Byd a’r glaswellt hynod sydd yn tyfu ar y galchfaen (limestone grassland).

Treulwyd rhan health y diwrnod yn clirio ardal y ‘magazine’, sef y storfa arfau (arfdy neu ystordy arfau) felly torri a symud yr eithin a wedyn ei losgi ar lwyfan bwrpasol er mwyn osgoi unrhwy niwed i’r archaeoleg neu’r glaswellt dan droed. Mewn geiriau arall – gwaith caled, ond ar ôl awr neu ddwy roedd rhywun yn dechrau gweld canlyniadau yr holl chwysu.

A dweud y gwir mae digon o waith yma i hyn fod yn brosiect tymor hirach a dyna yn sicr yw bwriad Cadw. Hyn a hyn sydd modd ei gyflawni mewn diwrnod, ond mae pob diwrnod yn gwneud gwahaniaeth. Roedd criw go dda o wirfoddolwyr wrthi yn clirio – pawb hefo’i focs bwyd, pawb i weld yn sgwrsio ac yn mwynhau.



Dros amser cinio cafwyd taith o rhan o’r safle gan Jeff Spencer o Cadw a braf oedd cael darganfod safleoedd eraill oedd wedi eu cuddio gan fieri ac eithin. O fewn hanner awr roedd pawb wedi cael cipolwg go dda ar tua hanner y safle. Yn ei gyfanrwydd mae’r olion Ail Ryfel Byd yn ymestyn am tua kilomedr i gyfeiriad y gorllewin ar hyd llethrau isaf y Gogarth.
Wedi goroesi mae’r tri adeilad ar gyfer y chwiloleadau (searchlight houses) er fod y goleadau a’r peirianwaith wedi hen fynd. Felly mae’r rhan yma o’r safle yn weddol amlwg a hawdd i’w ddehongli. Roedd rhywun yn sylwi fod darnau o’r rendro allanol yn disgyn yn rhydd o’r adeiladwaith ac yn amlwg byddai rhywun yn hoffi gweld mwy o waith cynnal a chadw ar yr adeiladau hyn.

Does dim disgwyl i’r gynnau mawr fod wedi goroesi ond mae’r llwyfannau ar eu cyfer ddigon amlwg ac yn enwedig y bolltau haearn ar gyfer gosod y gynnau – mae rheini dal yna ar y llawr hyd heddiw. Wedi goroesi hefyd mae un o’r adeiladau peiriannau ar gyfer y chiloleadau.



Dwi ddim am ddechrau ar ‘Brexit’ ond yn sicr bydd yr arian sydd ar gael ar gyfer archaeoleg yn debygol o leihau os yw Brexit yn digwydd. Bydd llai byth o arian ar gyfer archaeoleg os bydd Brexit yn mynd a ni dros y clogwyn di-gytundeb. Doedd neb yn trafod archaeoleg wrth drafod Brexit mwy na gafodd y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth ei chrybwyll. Mae’r pethau yma yn bwysig. Mae’r pethau yma yn cael effaith bois bach!

Y gobaith, os bydd y gwaith yn parhau ar y safle yma, yw bydd ein dealltwriaeth o dactegau a hyfforddiant milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn cynyddu. Diddorol mewn ffordd yw fod yr ysgol wedi ei symud yma rhag y bygythiad o’r Cyfandir a’r yr union adeg (1940-41) pan roedd bygythiad arall fod yr Almaenwyr am ymosod arnom o’r Iwerddon niwtral neu di-duedd. Dyma pam fod cymaint o flychau amddiffyn yn ardal Nant Ffrancon, Pen y Pass a’r arfiodir gorllewinol rhwng Borth y Gest a’r Friog.

Diwrnod da felly. Fe gafwyd tywydd braf. Fe ddysgom rhywbeth newydd a’r gobaith yw cawn ddychwelyd cyn ddiwedd y flwyddyn i wneud mwy o waith clirio.



No comments:

Post a Comment