Peth anodd weithiau yw gorfod cyfaddef nad ydym yn gwybod!
Ond, dyna natur gwaith yr archaeolegydd, rydym yn darganfod rhywbeth newydd yn
ddyddiol a mae pob darn o wybodaeth yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r
dirwedd hanesyddol yma yng Nghymru. Ond, mae’r archaeolegyddd gonest yn gorfod
cyfaddef yn aml (os nad yn ddyddiol) fod yna bethau da ni ddim yn ei wybod. Y
pethau yma rydym yn gobeithio eu darganfod wrthgwrs!
Engraifft da o hyn yw’r ffaith nad oes olion y ffordd neu’r
ffyrdd Rhufeinig ar draws Môn wedi eu darganfod hyd yma. Mae’n rhaid fod rhai
o’r milwyr wedi croesi Môn ar droed, er cofiwch fod y môr hefyd yn gyfleus fel
modd o gyrraedd gogledd Môn petae rhywun angen. Ond dyma chi, engraifft o sut
mae pethau yn gallu newid yn sydyn, gan fod archaeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Gwynedd newydd wneud darganfyddiadau pwysig iawn am hanes y Rhufeiniaid yng
Nghymru.
Daeth y darganfyddiadau hyn i’r golwg, nid trwy gloddio
archaeolegol arferol, ond gydag offer electronig. Esboniai David Hopewell o
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd fod offer arolwg geoffisegol yn adnabod
mân amrywiaethau yn nodweddion magnetig y pridd ac yn caniatau i archaeolegwyr
lunio map o’r olion claddedig, a hynny heb gyffwrdd mewn rhaw.
Y darganfyddiad
diweddaraf yw caeran Rufeinig fechan ger Cemlyn yng ngogledd Ynys Môn. Tynnwyd
sylw’r archaeolegwyr at y safle gan Mary Aris, hanesydd lleol sydd yn tynnu
lluniau o’r awyr, wedi iddi sylwi ar
siâp crwn mewn cnydau ar fryncyn isel sydd yn edrych dros arfordir Môn.
Derbyniodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gyllid gan
Cadw i wneud arolwg geoffisegol o’r safle. Cynhaliwyd yr arolwg gan David
Hopewell, ac adroddodd yntau fod y canlyniadau yn rhyfeddol o glîr gan ddangos
amlinelliad digamsyniol o gaeran Rufeinig, gydag argoelion o adeiladau petryal
oedd mae’n debyg yn farics ar gyfer y milwyr.
Gwelir caeranau fel rhain, sydd yn llai na’r caerau
Rhufeinig arferol, mewn mannau arwyddocaol ar ffyrdd Rhufeinig, neu mewn mannau
addas ar gyfer gwylio. Amgylchir y gaeran gan ffôs gron, rhywbeth nas gwelwyd
yn unman arall yng Nghymru. Ond darganfyddwyd enghreifftiau tebyg ar arfordir
gogleddol Dyfnaint (ee Martinhoe), ble tybir fod coelcerthi ar gyfer anfon
negeseuon yn cael eu cynnau oddi mewn i’r clostiroedd. Credir fod y gaeran hon
yn dyddio o’r ganrif gyntaf Oed Crist.
Mae’r darganfyddiad hwn yn arbennig o gyffrous gan mai
dyma’r safle milwrol Rhufeinig cynnar cyntaf i’w ganfod ar Ynys Môn. Cafwyd
disgrifiad lliwgar iawn o ymosodiad y Rhufeiniaid ar Ynys Môn gan y seneddwr
a’r hanesydd Rhufeinig Taciutus, ond hyd yma ni fu unrhyw dystiolaeth o gaerau
na ffyrdd ar yr Ynys. Mae Dave Hopewell yn gobeithio bydd y darganfyddiad hwn
yn arwain at eraill. Fel rheol byddai oddeutu 15-20 milltir rhwng y caerau a’r
caeranau, sef gwaith diwrnod o gerdded, ac fe’u cysylltwyd gyda ffyrdd. Gan
hynny, mae’n bur bosib fod caer yn barod i’w darganfod rhywle yng nghanol Môn.
Dyma’r diweddaraf o sawl darganfyddiad wnaethpwyd gan dîm
arolwg geoffisegol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn ystod y degawd
diwethaf. Ymysg y darganfyddiadau cyffrous eraill, mae’r dreflan Rufeinig sifil
gyntaf i’w chanfod yng nogledd Cymru - ar lan y Fenai - yn ogystal â
threflannau, ffyrdd ac adeiladau eraill o amgylch caerau Rhufeinig led-led
Cymru nas gwyddid amdanynt o’r blaen.
Felly beth yn union mae hyn oll yn ei olygu? Y tebygrwydd yw
fod y gaeran yn perthyn i ymgyrch Agricola yn 77-78 oed Crist. Digon o waith
fod y gaeran yn perthyn i ymgyrch Suetonius Paulinus yn 60-61 oed Crist.
Agricola oedd yn gyfrifol am orffen yr ymgyrch yng ngogledd Cymru ac o’r cyfnod
yma mae’r rhan fwyaf o’r caerau Rhufeinig amlwg yng ngogledd Cymru yn perthyn.
Adeiladau o bren a phridd oedd y caerau cynnar, a wedyn
gyda’r mwyafrif bu cyfnod o ail-adeiladu mewn carreg yng nghyfnod Hadrian yn y
120au oed Crist. Heblaw am Segontium yng Nghaernarfon, ymddengys fod y mwyafrif
o’r caerau yn mynd allan o ddefnydd wedyn ar ol y 130au. Segontium yw’r unig
gaer Rufeinig yn y gogledd sydd yn parhau mewn defnydd drwy’r cyfnpod Rhufeinig
a mae’r gaer yng Nghaergybi yn hwyrach, y farn gyffredinol yw fod y gaer yn
perthyn i’r 4edd ganrif ac wedi ei chodi er mwyn amddiffyn yr arfordir.
Fel rwyf yn ysgrifennu’r golofn hon mae criw ohonnom ar ran
GAT newydd dreulio tridiau yn archwilio caeau i’r gorllewin o Afon Seiont yng
Nghaernarfon yn chwilio am ddarnau o lestri pridd Rhufeinig. Cafwyd hwyl arni
gyda dros hanner cant o ddarnau yn cael eu darganfod. Hyd yma dydi arwyddocad
hyn ddim yn amlwg a does dim awgrym fod yna unrhyw adeilad o dan y pridd ond
oleiaf rydym wedi ychwanegu at y rhestr o ddarganfyddiadau o wrthrychau
Rhufeinig yn ardal Caernarfon. Cawn weld dros yr wythnosau nesa os yw hyn yn
unrhywbeth o bwys.
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi cynnal ail arolwg
gyflawn o’r ffyrdd Rhufeinig yng Ngwynedd, gan wneud sawl darganfyddiad newydd.
Cyhoeddwyd y canlyniadau yn y llyfr poblogaidd : Roman
Roads in North West Wales. Gellir sicrhau manylion pellach am y gaeran, am
y llyfr ac am waith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar eu gwefan : www.heneb.co.uk
No comments:
Post a Comment