Mae sawl rheswm dros ymweld ac eglwys Sant Mihangel yng
Nghaerwys. Rheswm un, i’r rhai gyda diddordeb mewn ffenestri lliw, fyddai
ffenestri Henry Dearle (Cwmni William Morris), ffenestr hyfryd a lliwgar Henry
Gustav Hiller ac wrthgrws y ffenestr yn cofnodi Eisteddfod Caerwys 1523/24 ar y
wal orllewinol. Rheswm dau efallai, fyddai’r cloc haul rhestredig Gradd II. Ond
sgwn’i faint fydda’n gwybod am Rheswm tri?
Nid fod rhain mewn unrhyw drefn blaenoriaeth, ond mae’r
corffddelw sydd yn gorwedd ar ochr ddeheuol y gangell yn gorfod bod yn un o
drysorau cudd Cymru. Yn llythrennol gudd, yn gorwedd fel y mae, ar ochr y
gangell, er o dan fwa addurniedig iawn. Yn ol y son, ac ymhell o fod yn ffaith,
dyma gorffddelw Elizabeth Ferres, sef gwraig Dafydd ap Gruffydd.
Cymeriad diddorol yw Dafydd ap Gruffydd (brawd Llywelyn ap
Gruffydd) achos ei ymosodiad ar Benarlag ym 1282 sydd yn arwain at y rhyfel
olaf gyda Edward I a hynny sydd yn arwain yn uniongyrchol at gwymp Llywelyn ym
mis Rhagfyr 1282 a felly at ddiwedd annibyniaeth Cymru yng Ngwanwyn / Haf 1283.
Dyma rhywbeth sydd yn ein heffeithio (a chorddi) hyd at heddiw. Pa ddisgybl
ysgol yng Nghymru sydd ddim yn cofio’r dyddiad 1282 (medda fi yn obeithiol)?
Rhywsut rydym wedi llwyddo i ddrysu ein hanes. Llywelyn Ein
Llyw Olaf sydd yn cael ei gofio, a dydi anturiaethau Dafydd a’i feibion Owain a
Llywelyn ddim yn cael eu cofio. Dydi pwysigrwydd cestyll Dolwyddelan, Dolbadarn
a Bere yn sicr yn ystod hanner cyntaf 1283 ddim yn cael eu cofio. Dydi pwysigrwydd
y ‘llys’ yn Abergwyngregyn ddim yn cael ei gofio mwy na di’r ucheldir o
amglylch Bera i’r de o Abergwyngregyn lle y’i daliwyd gan filwyr Edward I.
Yr arbenigwr ar gorffddelwau o’r cyfnod yma yw Colin
Gresham. Ei lyfr Gresham, C, A., 1968, Medieval
Stone Carvings in North Wales, Sepulchral Slabs and Effigies of the Thirteenth
and Fourteenth Centuries yw’r ‘gwerslyfr’, ond dydi Gresham ddim yn gallu
cadarnhau mai corffddelw Elizabeth Ferres sydd yn Eglwys Caerwys. Y tebygrwydd
yma yw fod y ‘stori leol’ wedi ei dderbyn / fabwysiadu / troi yn wirionedd dros
y blynyddoedd.
Pwy bynnag sydd yn gorwedd yma, fe allwn ddadlau fod cael
rhywle i gofio am Elizabeth Ferres yn bwysig – fel gyda arch-garreg Llywelyn ab
Iorwerth yn Llanrwst – yn amlwg dydi Llywelyn ddim yn gorwedd yno. Priodol
hefyd yw atgoffa ein hunnan beth oedd tranc Gwladys, merch Dafydd ac Elizabeth.
Fel yn achos ei chyfneither Gwenllian, cael ei gyrru i leiandy am weddill ei
hoes, oedd pennod olaf Gwladys – fel na fu modd parhau’r llinach. Treuliodd
Gwladys weddill ei hoes yn lleiandy Sixhills, Swydd Lincoln.
Ac o un arwres i’r llall, ffaith arall ddiddorol am Caerwys
yw mai yma y ganed Myfanwy Talog, yr actores a leisiodd Wil Cwac Cwac a’r genod
yn Siwper Ted. Roedd Myfanwy yn briod a David ‘Del Boy’ Jason ac yn gyfarwydd i
gynulleidfaeodd Cymraeg fel y cymeriad Phyllis Dorris yn Ryan a Ronnie.
Gan fod Caerwys yn gorwedd oddiar yr A55, y duedd yw fod
pobl yn gwybio heibio. Ond, yn y rhan
yma o’r byd mae’n werth gwneud y detour. Tafliad
carreg i’r gogledd-orllewin o gyffordd Caerwys mae Maen Achwyfan. Milltir neu
ddwy i’r de, dyma bentref Caerwys. Hanner awr ar y mwyaf sydd rhaid i’r detour gymeryd.
Cysylltiad arall diddorol os yw rhywun am wneud cysylltiadau
yw mai Hiller oedd yn gyfrifol am ffenestr goffa John Ceiriog Hughes yn Neuadd
Goffa, Glyn Ceiriog. Ceir ffenestri eraill gan Hiller yn Llansannan, Llanbedr y
Cennin, Degannwy, Santes Marchell ger Dinbych a Llanllwchaiarn ger Y Drenewydd.
Digon o detours felly!
No comments:
Post a Comment