‘Siop Dillad
Bala’ oedd y gân boblogaidd gan y grwp pop Cymraeg Eryr Wen, ond a dweud y
gwir, siop lyfrau Awen Meirion dwi yn dueddu i gysylltu gyda’r Bala bob amser.
A dyma chi ddiddorol, dyma siop Awen Meirion yn trefnu ‘taith gerdded’ ar gyfer
trigolion Penllyn a Llanuwchllyn yn ddiweddar. Fe ddatblygodd y syniad wrth i
mi dreulio bore hynod ddifyr yn arwyddo copiau o fy llyfr archaeoleg yn siop
Awen Meirion cyn y Dolig.
Dwi’n dweud
hynod ddifyr, achos yn ogystal a gwerthu llyfrau, fe gefais gymaint o sgyrsiau
diddorol yn ystod fy nwy awr yn y siop. Ac wrthgwrs, roedd y rhan fway o’r
sgyrsiau yn troi at y ffaith fod rhywbeth diddorol ar fferm hwn a llall a fod
rhaid i mi ddod draw i gael golwg. Braf oedd cael gwahoddiad felly i rannu
gwybodaeth am dirlun hynafol Trefeurych a Chastell Carndochan yn ystod y daith
gerdded. Brafiach byth oedd gweld cymaint oedd wedi troi fyny.
Yr enw lleol/hynafol
am y tai sydd ar y dirwedd ganol oesol ar lethrau Moel Caws (cyfeirnod map SH 845275)
yw Trefeurych. Gorweddai’r olion yma ger Afon Dyfrdwy ar hyn sydd i’w weld
heddiw yw olion cytiau-hir ac olion waliau caeau. Arolygwyd yr olion gan Kate
Geary ym 1997 fel rhan o asesiad ffermydd oedd yn rhan o gynllun Tir Cymen a mae
Geary wedi adnabod hyd at dri cwt hir ar ochr y dyffryn / ochr y bryn.
Y tebygrwydd
yw fod rhai o’r tai yma wedi eu haddasu yn ddiweddarach (ar ol i bobl adael
Terfeurych) ac eu newid i fod yn gorlannau defaid. Canlyniad hyn yw fod
dehongli’r olion ar y tir yn weddol anodd a chymleth. Does dim cytiau crynion
i’w gweld yma felly mae rhywun yn awgrymu tirwedd ganol-oesol yn hytrach nac un
cyn-hanesyddol.
Does dim
cwestiwn o gwbl fod Carndochan yn un o gestyll tywysogion Gwynedd, a’r
tebygrwydd yw fod y gwaith adeiladau yn perthyn i Llywelyn ab Iorwerth, sydd
wrthi yn adeiladu ei gestyll cerrig o’r 1220au ymlaen. Cawn ddyddiad o 1221 ar
gyfer Castell y Bere o ysgrifau Brut y Tywysogion ond fel arall mae rhywun yn
son am gestyll Llywelyn Fawr ee Dolbadarn a Dolwyddelan fel rhai sydd yn dyddio
o’r 1220au a Chricieth efallai o’r 1230au, (mae’r cyfeiriad cyntaf at Gastell
Cricieth mewn ysgrif 1239).
Un o’r pethau
pwysig am y daith gerdded ac yn y cyd-destyn ehangach hefyd yw fod Carndochan
yn un o gestyll llai amlwg Llywelyn Fawr. Felly yn sicr un nod oedd gwneud yn
siwr fod trigolion ardal Penllyn yn cael cyfle i ymweld a’r safle a gobeithio
cael ychyidig o hanes y gwaith cadwraeth diweddar sydd wedi ei gynnal yno gan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
Ond yn
ehangach na ardal Penllyn mae’r cwestiwn holl bwysig, pam fod yr olion Cymreig
yn llai ‘amlwg’ o ran ymwybyddiaeth hanesyddol. Un rheswm yn sicr yw cyflwr
Carndochan, mewn gwirionedd dim ond pentwr o gerrig ar ben craig sydd i’w gweld
yma. Rhaid edrych yn ofalus iawn i gael hyd i’r waliau sydd yn weddill gan fod
rhan helaeth o rhain yn gorwedd o dan yr holl gerrig sydd wedi disgyn.
Yr ail reswm
efallai yw fod y safle yn weddol anghysbell. Cymerir dri chwarter awr go dda o
chwysu i gyrraedd y castell o gyfeiriad Tan y Castell. Ond mae’r dirwedd a’r
olygfa draw am Llyn Tegid yn drawiadol oddiyma. Does dim esgusion go iawn. Ni
sydd heb hawlio perchnogaeth ar ein hanes. Dyma gam fechan i’r cyfeiriad iawn
gan Siop Awen Meirion. Yn syml beth am ddarganfod ein hanes a’n cestyll
Cymreig, mynd am dro a chael hwyl yn y broses.
No comments:
Post a Comment