Wednesday, 9 October 2013

Eglwys Gadeiriol Llanelwy Herald Gymraeg 9 Hydref 2013


 

O bryd i’w gilydd byddaf yn galw mewn i Eglwys Gadeiriol Llanelwy, fel mae rhwyun, yn teithio o gwmpas y wlad, a mae’r eglwys yn le gwych i dreulio rhyw hanner awr yn ‘sbrotian’. Fel arfer y Beiblau sydd yn dwyn fy sylw, Salesbury, Morgan, Parry,  ond wythnos yn ol dyma benderfynu astudio’r gwrthrychau a nodweddion o fewn yr Eglwys gyda chydig fwy o fanylder.

            Ar ochr ddeuhol corff yr eglwys dyma gist neu feddrod gyda milgi “tew” yn hela ysgyfarnog wedi ei gerfio ar wyneb y gist. Does neb i weld yn sirwr beth yw hanes y feddrod ond yn ol y son mae un tebyg yn Abaty Glyn y Groes. Wrth ei ymyl mae beddrod i Archesgob Anian (o bosib) sydd yn marw yn 1293 a mae hanes diddorol iawn i Anian.
 

            Yn ol y son, yn dilyn Cytundeb Trefaldwyn 1267, roedd Anian a Llywelyn ap Gruffydd wedi dod i gytundeb a sedd Anian felly yn sicr, ac yn 1269 roedd Anian yn rhan o’r broses o gyfamodi rhwng Llywelyn a’i frawd, Dafydd ap Gruffydd,ond erbyn 1276-77 roedd Anian yn ochri gyda’r Brenin wrth i Llywelyn gael ei ddatgan yn ‘Rebal’. Doedd perthynas Anian a’r frenhiniaeth ddim i bara yn hir achos wrth i Edward 1af ymateb i wrthryfel 1282 mae’r Gadeirlan yn cael ei llosgi gan filwyr y brenin.

            Dwy flynedd yn ddiweddarach mae Anian ac Edward 1af yn cyfamodi diolch i Archesgob Peckham ac wrth i Anian newid ei wrthwynebiad i ail leoli Abaty Aberconwy i Maenan. Felly os mae cist Anian yw hon, mae’n garreg fedd i gymeriad a chwaraeodd ran flaenllaw yn y cyfnod cythryblus hwnnw yn ystod rhyfeloedd Llywelyn ap Gruffydd ac Edward 1af.

            Cofeb ychydig fwy ‘dadleuol’ sydd ger llaw, i Henry Moreton Stanley (1841-1904) sydd yn cael ei ddisgrifio fel ‘Explorer of Africa’ ar y gofeb. Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglyn a chofeb Stanley ger y llyfrgell yn Nimbych ac yn ddiweddar iawn bu sawl achos o “weithred-gelfeddydol” fel gwrthdystiad yn erbyn Stanley, neu oleiaf yn awgrymu fod angen bod yn ymwybodol o ochr fwy anymunol, llai dyngarol y dyn. Fel byddaf yn ei ddweud o hyd, rhaid delio hefo’r hanes ond dydi hynny ddim yn golygu fod rhaid cytuno a’r gweithredoedd neu’r cymeriadau.

 
            Dreuliais i fawr o amser hefo Stanley cyn symud ymlaen at gerflun rhyfeddol o’r ‘Crist Noeth’ gan Michelle Coxon. Mae hwn yn fy atgoffa o ‘Ecce Homo’ Jacob Epstein yn yr ystyr ei fod yn gerflun trawiadol, heriol, amgen,arswydys bron. Mae ‘Ecce Homo’ Epstein yn hen gadeirlan Coventry wrth gwrs, sef yr adfail, yr un a chwalwyd gan fomiau’r Almaenwyr ac er fod mwy o gig ar gerflun Epstein mae’r ddau yn creu delwedd eith anghysurus o Grist.

            Rhyfeddais fod cerflun Coxon wedi cael caniatad i fod yma bron. Mae’n fwy addas ar gyfer ‘Tate Modern’. Does fawr o gysur ynddo os di rhywun yn “credu”. Does gennyf fawr o grefydd yn fy esgyrn, felly dydi’r cerflyn yn poeni dim arnaf ond rhaid cyfaddef os di rhywun yn chwilio am gysur, mae’n debyg fod rhywbeth fel y reredos hyfryd tu cefn i’r allor yn cynnig rhywbeth tawelach ei naws, rhywbeth llai ymosodol i’r llygaid.

 

Treulias amser yn y gangell, yn astudio’r seddau ac yn enwedig sedd yr Archesgob a wedyn yn nodi’r gwrthgyferbyniad llwyr a’r ‘sedilia’ sef y seddau cerrig sydd ar ochr ddeheuol y gangell wedi eu gosod o fewn bwa miniog – ydi hwn yn yr arddull ‘gothig’ holais, sef y bwa miniog  ?

A dyma gyrraedd wedyn ochr ogleddol yr Eglwys, y capel i’r chwith o’r gangell ac yma mewn blwch gwydr cawn engreifftiau o gyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd 1567, Beibl William Morgan wrth reswm a Beibl Richard Parry 1626. Does dim modd osgoi pwysigrwydd cyfieithu’r Beibl, 1588 yw 1066 y Cymry Cymraeg (os nad 1282) pwynt mewn hanes sydd yn golygu fod yr Iaith am oroesi. Diolch i William Morgan fod gennym yr hawl i wylio operau sebon yn y Gymraeg heddiw yn 2013.

Ar y lawnt tu allan i’r Eglwys Gadeiriol mae’r gofeb hynod drawiadol, tywodfaen coch, i’r gwyr hynod yma a chwaraeodd ran yn y broses o gyfieithu’r Beibl. Cawn gerflun o Dr John Davies Mallwyd, dyn y bu’m yn edrych ar ei garreg fedd yn ddiweddar yn Eglwys St Tydecho, Mallwyd wrth wneud y daith A470.

Dechreuais astudio’r cerfluniau unigol, Morgan yn ei wisg “Archesgobaidd” ond yr hyn am trawodd rhywsut oedd fod Salesbury yn edrych fel un o gyfoedion y Stiwardiaid, bron fel rhyw dandi yn llys Siarl 1af. Am ychydig o hwyl rhoddias ei lun i fyny ar y We gan awgrymu mae o’r holl bobl fu’n cyfieithu’r Beibl, mae Salesbury oedd wedi gwisgo orau !

Cefais un ymateb doniol ar trydar, sef “wrthgwrs, hogyn o Lansanan oedd o” ond byddaf yn rhoi y lluniau yma ar weplyfr  a trydar er mwyn creu diddordeb a thrafodaeth, er mwyn annog pobl i fynd i weld safleoedd, i gymeryd fwy o ddiddordeb ac i ddarllen tirwedd Cymru yn ei holl amrywiaeth a gogoniant.

 

No comments:

Post a Comment