Friday 20 July 2012

Herald Gymraeg 11 Gorffennaf 2012 Chwarel Ffridd


A finnau newydd droi fy hanner cant, a dweud y gwir dwi fawr o foi penblwydd, ond fe ddaeth amlen frown trwy’r blwch postio ac ynddo lyfr mewn clawr caled, lliw llechan, llwyd-las ac enw cyfarwydd i’r llyfr ‘Cerddi’. Dyma chi argraffiad i’w drysori (penblwydd hapus fel petae), a hynny am sawl rheswm, yn gyntaf diwyg y llyfr gan Wasg Gomer. Wyddochi beth, dio’m ots pam mor ddefnyddiol yw’r iPad, pa mor ddefnyddiol di’r Kindle, fedrith Apple neu pwy bynnag ddim creu un o’r rhain – llyfr, hefo clawr, hefo ogla, hefo tudalennau go iawn, hefo teimlad.

                Ail reswm dros drysori’r llyfr yw fod T.H a Rhyd Ddu yn agos i galon rhywun, am sawl rheswm, a mae hynny yn rhywbeth sydd yn cael ei drafod yn feistrolgar gan Angharad Price yn ei chyflwyniad i’r llyfr yma. Gadewch i bawb ddehongli T.H yn eu ffordd eu hunnan, a defnyddid yr engraifft eithaf mewn ffordd gan Angharad, sef y grwp dawns-electroneg Acid Casuals yn creu cerddoriaeth yn seiledig ar y Ferch yn Rio, hi oedd ar y cei wrthgwrs. Eiconig yw’r gair a ddefnyddir i ddisgrifio’r casgliad a’r bardd.

                A dyma fy ferswin bach i o bwysigrwydd Rhyd Ddu a cherddi T.H. Mae gennyf ddwy stori a dweud y gwir, un yn ymwneud a theulu a’r llall yn ymwneud ac arcaheoleg ddiwydiannol, adeilad arall “eiconaidd” petae pobl ond yn gwybod amdano yn perthyn i chwarel Ffridd (neu Ffridd Isaf).

                Felly dyma dddechrau hefo’r hanes teuluol. Rhai blynyddoedd yn ol roeddwn wedi bod yn cerdded ar hyd Crib Nantlle ac yn dychwelyd i lawr y Garn tuag at Llyn y Gadair. Does dim modd crwydro’r llethrau yma heb feddwl am T.H, pa lwybr, pa graig, pa olygfa a’i ysbrydolodd – ac o na fyddai darn bach o’i ddawn gennym ni bobl gyffredin i ni gael mynegi rhyfeddodau ardal Rhyd DDu yn well na “hyfryd” a “bendigedig”……

                Wrth i mi gyrraedd y llethrau isaf gwelais ddau wr ger ochr y llyn, yn amlwg yn chwilota am rhywbeth yn y brwyn felly dyma gerdded tuag atynt, er mwyn cael gwybod mwy, a rhag ofn y gallwn fod o ryw gymorth. Tad a mab oedd yma, y ddau wedi bod yn pysgota, ac un wedi colli gwydr ei sbectol yn y brwyn. “Wyddoch chi beth” meddwn wrthynt, “petae fy mrawd yma mi fydda yn dod o hyd i’r gwydr mewn eiliad, mae o yn gallu dod o hyd i lens bychain sbectols sydd yn gorwedd ar y llygaid mewn stafell llawn pobl”.

                Sylwais ar yr hogyn, yn gwisgo Crys T  AC/DC a fe sylwodd yntau mae fi oedd “Rhys Mwyn o’r Anhrefn”. Roedd yr hogyn o Garmel a wedi gweld y grwp yn canu yn fyw sawl gwaith. “Duw” medda fi “mae fy nheulu o Garmel, wel Cilgwyn yn wreiddiol ond mae fy nhad o Garmel”, a dyma ddechrau trafod wedyn pwy oedd fy nheulu.

                Roedd y tad yn cofio fy nhaid Morgan Thomas a roedd cysylltiad yma yn syth, oherwydd bu fy nhaid hefyd yn dod dros Ddrws y Coed i sgota yma yn Llyn y Gadair ond yr ail ran o’r sgwrs oedd mwyaf diddorol i mi. “Cofiaf Morgan yn iawn” medda’r tad “fo oedd yn torri ein gwalltia yn y pentre!”. A dyma chi gamu yn ol i Oes y Chwarelwyr, lle roedd pres yn gallu bod yn brin ond pobl hefo sgiliau ac yn fodlon rhannu’r sgilia hynny. Felly roedd gan fy nhaid ddawn torri gwallt. Does ryfedd felly dros y blynyddoedd i mi ddatgan fod steil gwallt yr un mor bwysig a dawn cerddorol i’r darpar seren bop.

                Ar ben fy hyn roeddwn yn cerdded y prynhawn hynny, doedd fy mrawd ddim hefo mi felly chafwyd ddim o hyd i lens y sbectol – ond fe gafwyd sgwrs dda. Byddaf yn dychwelyd yn aml, aml iawn, i gerdded yn yr ardal yma ac yn ddiweddar y Chwareli Llechi sydd yn hawlio fy sylw. Rwyf yn gyfarwydd iawn a Llwybr Rhyd Ddu fyny’r Wyddfa a fel arfer byddaf yn cerdded ymlaen at Chwarel Bwlch Cwm Llan a wedyn yn dringo Bwlch Main am y copa. Os mae cyrraedd copa’r Wyddfa yw’r nod mae rhywun yn tueddu i frasgamu fyny’r mynydd ond yn ddiweddar rwyf wedi bod yn arall-gyfeirio – yn anghofio am y copaon ac yn canolbwyntio ar y llethrau.

                Oddifewn i Chwarel Bwlch Cwm Llan mae sawl nodwedd ddiddorol, mae’r melinau, y llynnoedd dwr i droi’r olwynion yn y melinau, y twnelli yn cysylltu a’r twll chwarel a hyn oll o fewn tafliad carreg i’r llwybr. Ond wrthgwrs os mae’r copa yw’r nod does dim amser i droi o’r llwybr – dyna’r cangymeriad mawr i mi ei wneud dros y blynyddoedd. Dwi di bod ar ben bron bob mynydd yn Eryri ond heb dreulio digon o amser ar y llethrau.

                Ar droed y llwybr yma, yn agos iawn i’r Orsaf Dren yn Rhyd Ddu mae Chwarel Ffridd neu Ffridd Isaf. Mae rhywun yn gweld y tomeni gwastraff wrth ddechrau ar eu taith, a mae rhywun yn gweld yr hollt yn y graig ar yr ochr dde i’r llwybr lle mae’r chwarel fechan ond ychydig iawn, dybiwn i, sydd yn sylwi ar y “cwt pwdwr” ar ben poncyn bach ar ochr chwith i’r llwybr.

                Rhaid diolch yma i Alun John Reynolds drwy gyfrwng ei gyfeirlyfr ardderchog ‘A Gazeteer of the Welsh Slate Industry”, llyfr hanfodol i unrhywun a diddordeb yn hanes y Chwareli Llechi. A dyna fo cwt crwn bach perffaith, adfail bellach, ond adeilad sydd werth ei weld. Y tro nesa rydych yn cerdded yn ardal Rhyd Ddu mae’n werth cymeryd 5 munud i ymweld a’r Ty Pwdwr, mae modd parcio ger yr Orsaf.

                Mewn ffordd felly mae mwy i’r olion na awgymai T.H wrth iddo son am

Dim byd ond mawnog a’i boncyffion brau

Dau glogwyn a dwy chwarel wedi cau.

No comments:

Post a Comment