Un o'r pethau da am drydar yw'r wybodaeth sydd yn cael ei rannu a'i drosglwyddo. Dyma neges yn dod gan @YGPlasNewydd am daith gerdded Glan Faenol http://beta.nationaltrust.org.uk/things-to-see-and-do/view-page/item600092/268075/
Roeddwn wedi treulio'r bore yn mynd drwy fanylion teithiau Mona Antiqua ar gyfer Haf 2012 - cyfres o deithiau archaeolegol, hanesyddol ar fws o amgylch safleoedd CADW ar Ynys Mon rwyf i a chriw NWTGA wedi bod yn baratoi ar gyfer Menter Mon. http://www.northwalestouristguides.com/
Erbyn amser cinio dwi angen "awyr iach" a dyma feddwl am y neges @YGPlasNewydd a ffwrdd a fi .......
Dyma barcio'r car yn Glan Faenol a chroesi'r cae am y guddfan gwylio adar. Wrth ddringo'r grisia i mewn i'r guddfan mae rhywun yn gweld dros Wal y Faenol a throsodd am Sir Fon. I fyny i'r Dwyrain mae adeilad Plas Llanfair (HMS Indefatigable) cartref Clarence Paget, y gwr adeiladodd y golofn i Nelson sydd hefyd i'w gweld ar lan y Fenai.
“England expects that every man will do his duty”
Ond does dim cysylltiad rhwng Nelson a'r Fenai, dim ond fod Paget yn ystyried Nelson yn arwr ac yn gerflunydd amatur brwd. Mae Twr Ardalydd Mon a thwr Eglwys Santes Fair i'w gweld hefyd a drws nesa i'r eglwys, y cae lle bu'm yn cloddio hefo George Smith a chriw GAT yn gynharach eleni ar safle lloc Oes Haearn, neu dyna oedd y tebygrwydd nes i ddyddiadau Radiocarbon awgrymu gall y lloc fod o'r Canol Oesoedd ? Dwi ddim wedi fy argyhoeddi yn llwyr chwaith am hyn - pam ddim llestri Canol Oesol felly ????? (I'w drafod ymhlellach !)SUGAR & SLATE Yn ei ddydd roedd Wal y Faenol ymhlith y mwyaf o'i fath - i gadw'r werin allan / y cyfoeth i mewn, yn ddatganiad, yn arwydd o'r cyfoeth ac o edrych o'r guddfan mae rhywun yn edrych dros y wal a thros y Fenai ar Stad arall, Plas Newydd ac arian Mynydd Parys ayyb yn hytrach na Chwarel Dinorwic yn achos Plas Newydd. Rhaid fod y Pagets a'r Assheton-Smiths yn gymdogion dros y dwr, o'r un meddylfryd, o'r un haen ond mae'n ddoniol mewn ffordd fod modd iddynt chwifio ar eu gilydd o lan y Fenai - o un stad i'r llall - mae'n edrych mor agos ond rhy bell i weiddi ? yn sicr rhy bell i nofio i'r rhan fwyaf ohonnom .......
Ond mae Assheton-Smith dal wedi adeiladu ei wal hyd yn oed ar hyd y Fenai lle does fawr o gyfle i neb ddod ar ei dir onibai fod cwch ganddynt ....
Sgwni beth yw hyd y wal ? - rwyf am holi .......
Mae'r llechi ar ben y wal, y miliynau ohonynt, yn edrych fel silff lyfrau wedi ei ffosileiddio, llyfrgell wedi ei anfarwoli mewn llechi,
A beth fyddai rhywun yn ei ddweud heddiw wrth Assheton-Smith ?
Darllenwch "The North Wales Quarrymen 1874-1922" R.Merfyn Jones (1982)
- Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru 1874 - Gwyl Y Faenol - Steddfod Genedlaethol -
Cyd ddigwyddiad pur i mi fod wrth cofeb Craig yr Undeb y diwrnod blaenorol - doedd hyn oll ddim yn fwriadol - ni a nhw - y Rhyfel Dosbarth - Undebaeth ...... na cerdded Llwybyr Glas Peris hefo'r hogia ar eu beics oedda ni diwrnod cynt - ond roedd rhaid cael llun wrth Craig yr Undeb.
Fe rybuddiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod y llwybrau yn gallu bod yn fwdlyd. Oedd digonedd o fwd, llithro o gwmpas, pyllau o ddwr mwdlyd .... gwych, yn union fel fydda rhywun yn ddisgwyl ar bnawn oer tamp ym mis Ionawr. Gwisgais ddwy got a throwsus tywydd gwlyb - doedd dim yn fy mhoeni ...
Roedd y llwybrau drwy'r coed yn fendigedig, yr haul yn isel a neb o gwmpas.
Cwblhais y daith o fewn tua awr heb gerdded rhy gyflym - yn yr Haf gall rhywun ddod a'i bicnic - a'i sbeinddrych i wylio adar .........
No comments:
Post a Comment