Tuesday, 14 July 2015

Pam Na Fu Cymru, Herald Gymraeg 15 Gorffennaf 2015



Wrth drafod ac adolygu cyfrol Angharad Price ‘Ffarwel i Freiburg’ peth amser yn ol awgrymais fod ysgriffennu a chyhoeddi’r gyfrol yn “gymwynas a’r Genedl”. Felly hefyd gyda cyfrol ddiweddaraf Simon Brooks, ‘Pam Na Fu Cymru, Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg’, gan fod Brooks wedi mynd i’r afael a’r cwestiwn o sut bu i Genedlaetholdeb Cymraeg fethu i bob pwrpas oherwydd effeithiau a dylanwad Rhyddfrydiaeth Brydeinig yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r Ugeinfed ganrif.

Os di hyn oll yn swnio yn ofnadwy o ddwys, rhaid pwysleisio mai astudiaeth academaidd yw hyn. Rhaid cyfaddef fod darllen y gyfrol yn waith caled, a fod y defnydd o derminoleg academaidd wleidyddol yn ddigon i ddrysu’r dyn cyffredin. Hoffwn allu dweud yn wahanol, ond mae Brooks, fel Price a nifer arall sydd yn perthyn i’r Byd academaidd Cymraeg yn meddu ar ddawn anhygoel o ran meistrioli’r iaith Gymraeg, ond dawn sydd ar adegau, yn gallu ymylu ar fod yn iaith arall.

Credaf yn ddiffuant fod hon yn gyfrol bwysig, a fod angen astudiaeth o’r fath, ond bydd angen cyfieithydd ar y werin bobl. Dydi hyn wrth reswm ddim yn debygol. Safai’r gyfrol felly, fel ‘Ffarwel i Freiburg’, ar silffoedd y rheini sydd yn meddu ar y ddawn o ddarllen gwaith academaidd o’r fath.

Wrth sgwrsio a Brooks yn ddiweddar, adroddodd sut bu iddo, fel hogyn ifanc yn Llundain yn yr 1980au, fynychu un o gyngherddau’r Anhrefn yn y ddinas, a hyn mewn tafarn o’r enw ‘The Fullham Greyhound’. Rwan ta, fe allwn ddisgrifio’r Greyhound fel “twll o le”. Yr arfer ar bnawniau Sul oedd cynnal ‘striptease’ yno a wedyn gigs gyda’r nos. Ar ol i’r stripars droi am adre, roedd y llwyfan yn rhydd i grwpiau fel Anhrefn, Cyrff, Datblygu, Llwybr Llaethog a Traddodiad Ofnus o Gymru i addysgu dinasyddion Llundain fod y Gymraeg wedi ei gyfieithu i’r dull pync o ganu.

Os oedd cyngherddau’r Anhrefn yn un pegwn o’r sbectrwm diwylliannol Cymraeg mae cyfrol Brooks yn begwn arall, ac eto yn eu hanfod mae yna dir cyffredin, sef fod angen cynnal y drafodaeth ynglyn a phwy yw’r Cymry heddiw, a sut mae ymdopi a hyn o fewn y Byd sydd ohonni.

Yn allweddol i ddadl Brooks mae’r cwestiwn o sut bu i genhedloedd bychain Ewrop sicrhau ffyniant eu hiaith yn ystod y cyfnod o dwf mewn cenedlaetholdeb ar ddiwedd y bedwaredd ganrif, a sut wedyn bu hyn fethu yng Nghymru. Sylwer mai ‘Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg’ sydd o dan chwyddwydr Brooks nid ‘Methiant Cenedlaetholdeb Cymreig’.

Erbyn Pennod 5 ‘ Sut y gall Cymru fod’ mae Brooks yn dadansoddi sut bu i Rhyddfrydiaeth ac yn wir Sosialaeth yn y cyd-destyn Cymreig / Brydeinig sicrhau fod y Saesneg yn cymeryd lle y Gymraeg. Cawn ddadansoddiadau mor eang a damcaniaethau Engels ynglyn a chymhathu ac uno pobl ar sail y dosbarth gweithiol ar draul wedyn diwylliant lleiafrifol.

Cawn hefyd drafodaeth o sut bu i’r Cymry (siaradwyr Cymraeg cyn 1850au) newid i fod yn Gymry Cymraeg ac yn Gymry di-Gymraeg.  Erbyn hyn mae’r darllen yn drech aranaf, a dechreuais golli beth yn union yw’r ddadl. Yn y cyd-destyn hanesyddol tybiaf fod Brooks yn agos i’w le ar adegau ond yng nghyd-destyn heddiw, dwi’n siwr bydd Cenedlaetholwyr (mwy adain dde) yn gweld nifer o’r dadleuon fel mel i’w bysedd.


Credaf fod angen ymdrin a’n hanes yn wrthrychol, a heb os mae gwaith Brooks yn werthfawr iawn o ran ehangu’r drafodaeth, ond heddiw, pa werth gwahaniaethu rhwng y Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg onibai fod rhyw obaith y gallwn unwaith eto  godi’r canran o siaradwyr Cymraeg. Yn ystod ein sgwrs cytunodd y ddau ohonnom fod unrhyw chwyldro diwylliannol i hyrwyddo’r Gymraeg heb eto, wireddu ei llawn botensial.

Tuesday, 7 July 2015

Llundain, Paris, Efrog Newydd, Cricieth, Merthyr, Herald Gymraeg 8 Gorffennaf 2015





LLundain, Paris, Efrog Newydd, Cricieth, Merthyr Tudful. Ie wir, beth am ychwanegu Cricieth a Merthyr. Newydd ei gynnal mae’r wythfed ar hugain Gwyl Cricieth a’r tro yma roedd y cyn-Ysgrifennydd Tramor, David Owen, yn rhoi darlith goffa Lloyd George. Dros y blynyddoedd mae nifer o wleidyddion/darlledwyr amlwg wedi rhoi y sgwrs yma, Paddy Ashdown, Edwina Currie a Huw Edwards yn eu plith.

Anodd gennyf feddwl am Cricieth heb ddechrau canu ‘Sawl C sydd yn Cricieth’ gan y Dyniadon. Anodd gennyf fynd i Gricieth heb feddwl am gastell hynod y ddau Llywelyn, ond yr wyl sydd yn hawlio’r sylw y tro yma. Ac, yng nghyd-destyn yr Wyl, onid peth braf yw gweld fod enwogion o’r fath yn cymeryd rhan mewn gwyl fel hon yn nghornel arfordirol deheuol Eifionydd.

Sioe lwyfan Lowri Ann Richards oedd y rheswm i mi fynychu Gwyl Cricieth eleni, cabaret yn dwyn yr enw ‘Whatever Happened to La La Shockette?’. Sioe gyda elefen hunangofiannol yw hon yn olrhain hanes Lowri o ddyddiau cyffrous y ‘Blitz Kids’ yn Soho, Llundain ddechrau’r 1980au hyd at y presennol.

Roedd sawl peth amlwg iawn am sioe Lowri Ann, un oedd ei dawn fel perfformwraig, heb os dyma gyfiawnhau defnydd o’r gair ‘ymryddawn’ yng nghyd destyn perfformiad Lowri Ann. Roedd y canu yn ymestyn o’r canu pop i’r lled-glasurol, roedd Lowri Ann yn dawnsio ac yn ‘actio’ ac yn gyffredinol ddisgelirio dros y ddwy awr o’r sioe.

Braf oedd gweld y Neuadd Goffa yn orlawn ar gyfer sioe o’r fath. Nid fod y sioe at ddant pawb dwi’n siwr, mi oedd na ddipyn o ‘ryw a chyffuriau’, ond fy argraff i o’r noson oedd fod y neuadd yn un hyfryd, ac yn un addas, a dychmygais fy hyn yn mwynhau profiad fel hyn yn un o ddinasoedd mawr Lloegr – cyn cofio fy mod yng Nghricieth.


Merthyr oedd yr ychwanegiad arall at y rhestr, Llundain, Paris ac Efrog Newydd. Soniais yn ddiweddar am wyl ‘Merthyr Rising’, engraifft arall perffaith o ddigwyddiad lleol, hynny yw wedi ei drefnu gan bobl lleol, ond gyda gorwelion llawer ehangach na’r plwyf.

Siom felly oedd clywed drwy’r cyfryngau cymdeithasol fod y murlun ‘Merthyr Rising’ yn Sgwar Penderyn a beintwyd ar gyfer yr wyl eleni, wedi gorfod cael ei guddio gyda paent dan orchymyn y cyngor lleol. Rwan, dwi ddim yn gwybod y ffeithiau yn iawn, ond dyma chi engraifft da, er ddim mor ddifrifol a murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd, o’r awdurdodau yn cael gwared a rhywbeth oedd yn cyfoethogi’r lle.

Defnyddiaf y gair ‘cyfoethogi’ mewn sawl cyd-destyn. Cyfoethogi yn sicr o ran creu ymwybyddiaeth o hanes, ond hefyd cyfoethogi o ran dod a ddipyn bach o liw i dref ol-ddiwydiannol sydd yn gallu bod ar adegau, ddigon llwm. Does ond rhaid treulio hanner awr ym Merthyr neu Gasnewydd i sylweddoli fod rhain yn drefi ddigon tlawd lle mae effaith toriadau Thatcher yn dal i frathu’r werin bobl.
Y pwynt efallai gyda’r murlun yw ei fod yn ddatganiad o hanes a diwylliant chwyldroadol y dref, yng nghrud y chwyldro diwydiannol, yn gysylltiad a’r union werin bobl sydd yn byw yno heddiw – a dyna orchymyn i’w guddio. Dim ond gair fel ‘siomedig’ sydd yn disgrifio agwedd y cyngor. Pa ots am reolau cynllunio neu beth bynnag oedd y broblem – onid oes modd defnyddio synnwyr cyffredin ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant weithiau?

Fel un sydd yn byw yng Nghaernarfon, rhaid cyfaddef nad fy mrwydyr i yw hon mewn ffordd, a mae’r frwydr drosodd cyn cychwyn beth bynnag. Gwr o’r enw Anthony Bunko ddaeth ar achos yma i’m sylw. Awdur yw Bunko, ef sgwennodd gofiant  Stewart Cable, drymar y Stereophonics cyn mynd ymlaen i sgwennu llyfrau am Hugh Lawrie a Hugh Jackman.

Cefais gopi o’i lyfr diweddaraf ‘I was a business / bullshit consultant’ yn ystod Gwyl Merthyr Rising 15. Hogyn arall o’r dref sydd wedi gwneud yn dda iddo fo’i hyn yw Bunko. Rhyfedd rhywsut achos mae Bunko yn son am ei brofiad yn tyfu fyny ym Merthyr,  a fod dangos diddordeb mewn llyfrau, y theatr neu yfed gwin yn ddigon o reswm i rhywun gael ei guro gan hogia arall.

Dydi agweddau’r dosbarth gweithiol ddim bob amser y rhai mwyaf iach. Yn sicr cawn elfennau cryf o gulni a cheidwadaeth cymdeithasol ar adegau, yn enwedig lle mae yna dlodi a di-freintithiaeth. Efallai fod hyn yn hanner esbonio y twf yn y gefnogaeth i blaid fel UKIP mewn rhannau o Gymru. Ar y pegwn arall cawn fewnfudwyr o Doriaid asgell dde hefyd mewn rhannau o Gymru a rhyfedd o fyd sut mae’r Chwith a’r Dde yn gallu rhannu’r un gwelu o ragfarnau noeth ac afresymol.

Rhaid cyfaddef i mi chwerthin yn uchel wrth ddarllen am brofiadau Bunko fel ymgynghorydd busnes. Dyma chi lyfr sydd yn seiliedig ar brofiadau go iawn gyda ambell / sawl engraifft o or-lywio wedi eu hychwanegu. Rhaid cyfaddef hefyd i mi chael hi’n anodd hefo ambell beth roedd Bunko yn sgwennu.

Mae un darn ganddo yn disgrifio ei brofiad yn cyfarfod dyn sydd yn trawswisgo fel merch, y disgrifiad mae o yn ddefnyddio ydi ‘trannie’ (sef Transvestite) ond mae’n cyfeirio at yr unigolyn yma fel ‘it’. Methais yn llwyr ac uniaethu a’r awdur yma, collais y trywydd hiwmor ac fe’m atgoffwyd o greulondeb plant yn y buarth ysgol.

Cyhoeddwyd llyfr Bunko gan Y Lolfa. Credaf felly fod achos Cricieth a Merthyr fel trefi diwylliannol ddigon clir a da o beth yw cael y fath amrywiaeth yma yng Nghymru.


Friday, 3 July 2015

Mwy am Bryn Celli Ddu, Herald Gymraeg 1 Gorffennaf 2015


 

Dwi’n siwr bydd darllenwyr  yr Herald Gymraeg yn chwerthin wrth ddarllen hyn, ond rhaid cyfaddef ei bod yn braf weithiau bod yn anghywir am bethau. Rwyf wedi sgwennu sawl gwaith yn ddiweddar am Urdd Derwyddon Mon a’r defodau mae nhw’n gynnal ym Mryn Celli Ddu, ond dyma tro ar fyd. Dyma ddod i adnabod y ‘prif dderwydd’, Kris Hughes, a wyddo’chi be, rwyf i a Kris yn berffaith hapus i rannu’r Gymraeg, o fewn eiliadau i’r ysgwyd dwylo cyntaf, fe fyddwn yn dweud bod ni’n hen ffrindiau.

Yr elfen arall ddoniol, os nad swreal, yn hyn oll yw mai y corff henebion llywodraethol, Cadw, oedd yn gyfrifol am ddod a ni at ein gilydd. Fe soniais bythefnos yn ol am y gwaith cloddio dan ofal Cadw yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli, a rhaid dweud fod hwn yn un o’r profiadau gorau dwi di gael fel archaeolegydd. Os oedd cael gweithio yn y dirwedd Neolithig yma yn fendigedig o ran y profiad archaeolegol, roedd elfen arall yr un mor bwysig. hefyd wedi cyfrannu at wneud y bythefnos ger Bryn Celli yn brofiad eithriadol.

A beth felly oedd yr elfen eithraiadol arall yma? Wel cael cyfarfod a rhannu sgyrsiau hefo Kris oedd un ohonnynt. Pwy fydda wedi disgwyl bydda Derwydd, hen Pync Rocar (Mr Mwyn) a staff Cadw yn cloddio ochr yn ochr ac yn cofnodi os nad darganfod cerfiadau Neolithig. Felly archaeoleg ddaeth a phawb at eu gilydd. Archaeoleg chwalodd y ffiniau.

Roeddwn wrth fy modd a hyn. Mae rhagfarnau yn bodoli er mwyn eu chwalu. Y tebygrwydd yw fod Kris a finnau wedi dysgu rhywbeth o sgwrsio, ond heb os, roedd cyffro y gwaith cloddio yn golygu ein bod ar yr un ochr, yn rhan o’r un tim. Yn gyd-weithwyr ac yn gyd-deithwyr. Felly wrth fynychu’r ddefod ar fore hirddydd Haf, heuldro’r Haf, roedd y gwr yng nghanol y cylch Derwyddon bellach yn un o fy ffrindiau, dim ots faint o ddylanwad Punk oedd ar Mr Mwyn, roeddwn yn gwennu fatha cath ac yn mwynhau’r ‘profiad’.

Cafwyd cannoedd o bobl yn galw heibio yn ystod y Diwrnod Agored ar 20fed Mehefin. BuiI mi gynnal pediar daith tywys yn ystod y prynhawn ac amcangyfrifaf fod dros 25 wedi mynychu pob un – felly yn sicr dros gant o bobl wedi mynychu’r teithiau tywys yn unig. Ha, medda fi,  neges clir i S4C, mae yna ddiddordeb mewn hanes ac archaeoleg, dewch ac ‘Olion’ yn ol am gyfres arall !

Yr uchafbwynt arall yn ystod y bythefnos ym Mryn Celli oedd cael dod i adnabod Wil sydd yn ffarmio yno. Rwyf wedi sgwrsio gyda Wil sawl gwaith dros y blynyddoedd tra yn ymweld yno a grwpiau neu ddosbarthiadau ond y tro yma cefais fwy o amser i sgwrsio a dod i glywed mwy am hanes y caeau a’r dirwedd o amgylch y cofadail. Beth bynnag ’da ni archaeolegwyr yn feddwl da ni’n wybod, mae’r ffarmwr lleol yn adnabod ei dir llawer gwell na nawn ni byth.

Efallai fod hyn yn swnio yn od, ond er cymaint y wefr a’r fraint o gael cloddio ym Mryn Celli, roedd cael gwahoddiad i rannu panad hefo Wil yr un mor bwysig i mi. Ystyriaf wahoddiad i gael panad yng ngegin rhywun yn fraint o fath arall. Dyma sgwrsio am dros awr a hanner a chlywed hanesion. Dyma gyrraedd adre yn ofnadwy o hwyr, ond eto, gyda gwen enfawr ar fy wyneb.

Pobl sydd yn gwneud hyn yn bwysig yn y diwedd, ein bod yn cael cyd-ddysgu a thrafod, heb rannu’r wybodaeth a heb bobl yn gwrando, sgwrsio neu fynychu teithiau tywys does dim gwerth i’r peth.

Wednesday, 24 June 2015

Cian Ciaran yn y Guardian, Herald Gymraeg 24 Mehefin 2015



Fe soniais yn fy ngholofn bythefnos yn ol (10 Mehefin) wrth adolygu Gwyl Merthyr Rising 2015, fod grwp newydd Cian Ciaran o’r Super Furry’s, a’i gariad Estelle Ios, sef y Zefur Wolves, wedi adfer fy ffydd mewn cerddoriaeth. Cymaint felly bu i mi fynd i weld y grwp yn canu am yr eilwaith mewn llai nac wythnos.

Y tro yma, Canolfan Gymdeithasol Maesgeirchen oedd y lleoliad. Rwan ta, dwi ddim yn amau byddai Maesgeirchen ei hyn yn destyn ar gyfer erthygl os am drafod cynllunio trefol a chymdeithaseg. Bydd rhaid hyn aros. Ond roedd cynnal gig gyda Zefur Wolves yn “MaesG” yn weithred oedd yn ymylu ar fod yn ‘Dada-aidd’. Dyma fynd a diwylliant at y werin bobl, boed y werin bobl isho fo neu ddim.

“Ymwelwyr diwylliannol” oedd y rhan fwyaf ohonnom yn y gynulleidfa, ambell gefnogwr i’r Super Furry’s, ambell un oedd wedi ‘clywed y buzz’ am Zefur Wolves. Roedd y werin bobl mewn cornel, arwahan, fel sydd yn digwydd yng Nghymru, un Genedl o ran rygbi a pheldroed ond gagendor enfawr o ran y diwylliant. I ddatgan yr amlwg (onibai fy mod yn gwneud cam mawr a nhw) ond go brin fod Barn, Golwg a Barddas yn cael eu byseddu yma mwy na di Radio Cymru na S4C ar eu tonfedd.

Roedd Merthyr Rising yn engraifft da o sut mae’r ‘werin bobl’ yn ymdrechu i ail berchnogi eu hanes a diwylliant ond eto, ar y nos Sadwrn pan roedd Zefur Wolves yn perfformio yn Theatr Soar, o flaen rhyw hanner cant, roedd Weatherspoons drws nesa yn gorlifo. Simon Cowell yn hytrach na Gruff Rhys.

Wrth gyrraedd Canolfan Gymdeithasol Maesgeirchen, y cwestiwn cyntaf gefais gan drefnwr y noson, oedd – “a oeddwn wedi darllen yr erthygl gan Cian yn y Guardian?”. Felly ar ol cyrraedd adre dyma chwilota ar Google a dod ar draws erthygl barn wedi ei sgwennu gan Cian yn awgrymu / herio “Pop Needs to get political again”.

Yn ei erthygl, mae Cian yn son fod y gantores Paloma Faith wedi mynd a’r colofnydd Owen Jones (Guardian) gyda hi ar daith er mwyn addysgu ei chynuleidfa am beryglon meddylfryd UKIP. O ran hanes canu protest mae Cian yn cydnabod ‘Strange Fruit’ gan Billie Holiday neu ‘A Change is Gonna Come’ gan Sam Cooke fel caneuon sydd gyda neges gref ond heb yr angen i weiddi.

O ran fy nghyfnod i fel rhywun yn ei arddegau yn ystod y 1970au, mae Cian hefyd yn cydnabod digwyddiadau ac ymgyrchoedd fel ‘Rock Against Racism’ ac artistiad fel The Clash ac Elvis Costello yn gefnogwyr brwd. Byddaf o hyd yn cyfaddef, er cymaint dylanwad Dafydd Iwan, Huw Jones ac Edward (Morris Jones nid H) arnaf, mai recordiau fel ‘Glad T Be Gay’ gan Tom Robinson a ‘Ku Kluk Klan’ gan Steel Pulse oedd mwyaf gyfrifol am roi addysg gwleidyddol i mi fel hogyn ifanc ym Mwynder Maldwyn.

Felly, er nad yw Cian yn gwneud fawr mwy na datgan yr hyn ddylia fod yn hollol amlwg, mae ei erthygl i’w ganmol yng nghanol y difaethwch difater sydd wedi lledu llawer rhy eang ymhlith pobl ifanc. Yr unig beth ar goll yn ei erthygl yw gofyn y cwestwin, pam fod y gwleidyddion (o bob plaid) mor hollol anllythrennog pan mae’n dod i siarad gyda’r etholwyr rhwng 18 a 25 oed?


I’w ganmol hefyd, mae cwestiynnu parhaol a rheolaidd Cian ar ddilysrwydd Wylfa B, chwech chi fawr o hynny gan y gwleidyddion (o unrhyw blaid). Gan obeithio felly cawn weld Cian Ciaran ar y gyfres nesa o “Pawb a’i Farn” – mae’r Pop yn ol yn wleidyddol!

http://www.theguardian.com/commentisfree/2015/mar/09/pop-political-british-musicians-paloma-faith?CMP=share_btn_fb

Wednesday, 17 June 2015

Tirwedd Bryn Celli Ddu, Herald Gymraeg 17 Mehefin 2015.




Y geiriau y byddaf yn eu cysylltu a’r cyfle i gloddio archaeolegol ar safleoedd neu henebion yng Nghymru yw ‘braint’ a ’gwerthfawrogi’. Dau air ddigon syml, ond mae hi yn fraint cael cloddio ar y safleoedd yma, dyma gyfel i gyffwrdd ar gorffennol, yr agosa y gallan fod at ein cyn-deidiau, yr hen bobl. A’r rheswm am yr ail air, yw fy mod o hyd yn gwerthfawrogi y cyfle yma.

Felly dychmygwch sut mae rhywun yn teimlo yn cael y cyfle dros y bythefnos ddwetha i gyd weithio gyda Cadw yn cloddio yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli Ddu yn ceisio gweld os oedd defnydd o’r dirwedd yma o amgylch y siambr gladdu yn ystod y cyfnod Neolithig (Oes y Cerrig).

Er fod ambell adroddiad yn y wasg wedi awgrymu ein bod yn cloddio yn y siambr, y gwir amdani yw fod y siambr gladdu ei hyn wedi ei restru, felly go brin bydd unrhywun yn cael caniatad i dyllu oddifewn i ffiniau’r cofadail ond mae’r caeau o amgylch yn bosib. Bwriad y cloddio felly yw ceisio deall mwy am y dirwedd Neolithig, beth efallai oedd yn digwydd o amgylch y siambr gladdu?

Dyma beth yw gwefr. Disgrifias y profiad ar Trydar fel un cyfatebol i berfformio yn Neuadd Albert, Llundain petae rhywun yn ganwr. Anodd curo hyn. Un o’r nodweddion mwyaf diddorol yn y dirwedd o amgylch Bryn Celli Ddu yw’r graig enfawr naturiol yn y cae drws nesa, rhyw 200 llath i’r gogledd-orllewin o’r cofadail.

Ar ben y graig yma mae nifer o gafn-nodau. Cafn –nodau yw tyllau bach crwn rhyw ddwy fodfedd ar draws sydd wedi cael eu creu gan ddyn yn y graig. Y broses oedd eu curo gyda cerrig eraill, weithiau y crystal ‘quartz’, er mwyn creu twll bach crwn. Yn Saesneg, mae’r dechneg yma yn cael ei disgrifio fel ‘pecking’. Dychmygwch garreg yn cael ei defnyddio bron fel pig aderyn yn cnocio dro ar ol tro nes fod ffurf y cylch yn datblygu yn raddol ar y graig.

Gwaith y bore cyntaf oedd glanhau y baw defaid, y mwsogl ac unrhyw laswellt oedd wedi tyfu ar ben y graig gan guddio’r cafn-nodau. Dyma’r tro cyntaf erioed i waith o’r fath gael ei wneud. Fedra’i ddim cyfleu mewn geiriau pam mor wirioneddol wefreiddiol oedd hyn, son am fod yn agosach i’r nefoedd – roeddwn drwy’r drws ac i fewn !

Rydym wedi cael hyd i rhwng hanner dwsin a dwsin o’r cafn-nodau yma ar ben y graig a’r cam nesa oedd defnyddio peiriant sganio laser, LeicaP40, i dynnu lluniau o’r graig rhag fod mwy o gerfiadau yno efallai nad oedd yn amlwg i’r llygaid noeth. Rydym hefyd yn amau fod rhan helaeth o’r graig wedi ei chwalu rhywbryd ar ol y cyfnod Canoloesol fel chwarael gerrig. Felly pwy a wyr faint o gafn-nodau gollwyd dros y blynyddoedd?

Does neb yn siwr iawn beth yw pwrpas y cafn-nodau yma. Fe welir 110 ohonnynt er engraifft ar gapfaen cromlech Bachwen yng Nghlynnog, mae un arall ar un o feini siambr gladdu Dyffryn Ardudwy tra mae carreg arall hefo dwsin neu fwy ohonnynt ar fferm Penllech yn Mhen Llyn. Cerfiadau yw rhain ond cwestiwn da beth yw’r arwyddocad? Rhaid fod mwy o ystyr iddynt na ‘celf’ yn unig.

Ac wrth son am gelf, mae Ffion Reynolds o Cadw, sydd yn cyfarwyddo’r gwaith cloddio, wedi sicrhau fod gennym artist preswyl yn bresennol drwy gyfnod y cloddio. Dyma un o’r pethau cyffrous iawn am archaeoleg y dyddiau yma, sef fod yr hen ffiniau, hen ffasiwn, cul ac ysgolheigaidd yn cael eu chwalu’n rhacs. Dyma faes sydd nawr yn aml-gyfryngol, yn ceisio cyrraedd y werin bobl – ac yn hwyl.

O Wrecsam daw’r artist Angela Davies a mae Angela eisoes wedi gwneud gwaith preswyl mewn canolfannau hanesyddol fel y gadeirlan yn Llanelwy a Chastel y Waun. Gwych o beth yw gweld artist fel Angela yn edrych ar y gofadail drwy lygaid creadigol, dyma ail-ddehongi os nad ail-ddiffinio’r lleoliad. Eto peth da, chwalu ffiniau, creu posibiliadau, ysbrydoli ……..

Ffion ac Angela

Diweddglo (nid diwedd y stori chwaith) ond diweddglo y bythefnos o gloddio fydd Diwrnod Agored ym Mryn Celli ar yr 20fed o Fehefin, sef y Dydd Sadwrn. Dewch draw, bydd teithiau tywys (gan Mr Mwyn), bydd arddangosfeydd, bydd yna ddipyn o archaeoleg arbrofol a chyfle i greu potiau pridd ac efallai yn bwysicach byth cyfle i drafod Bryn Celli Ddu gyda eraill a diddordeb yn y safle.

Ar fore hirddydd-haf, (Mehefin 21) oddeutu 4-30 y bore bydd yr haul yn dod i mewn drwy’r cyntedd ac i fewn i’r siambr gladdu. Rydym yn argyhoeddedig bellach mai dyma bwriad yr adeiladwyr Neolithig, dros 5,000 o flynyddoedd yn ol, wrth godi a chynllunio’r feddrod. Bydd Derwyddon Mon yno i gynnal defod.

Eto, dyma engraifft gwych o sut mae agweddau wedi newid o fewn y byd archaeolegol, fod Cadw a Derwyddon Mon yn cyd-weithio ac yn rhannu’r profiad. Ar ol sgwennu am ddefod Derwyddon Mon ar y diwrnod byrraf (Rhagfyr 21ain) ym Mryn Celli ar dudalennau’r Herald Gymraeg cefais wahoddiad gan y BBC i gyfweld a’r Derwyddon.


Gwrthod y cyfle wnaeth y Derwyddon. Roeddwn wedi edrych ymlaen i sgwrsio a nhw, i geisio deall ychydig mwy am eu defodau ond dyna fo, rhaid eu bod wedi rhagweld fy mod yn mynd i roi amser rhy galed iddynt, sydd yn siomedig os nad yn awgrymu nad ydynt am fod o dan ormod o chwyddwydr. Dewch draw ar yr 20fed.

Atodiad: newydd gyfarfod a chydweithio gyda Kris Hughes (Urdd Derwyddon Mon) a fel bydda rhywun yn disgwyl da ni wedi gyrru ymlaen yn dda !