Thursday, 26 January 2012
Hanes y Blew @ ffansyn LLMYCH 80au hwyr.
Cyfweliad gan Huw Prestatyn (Llmych) hefo Dafydd Evans o'r Blew, rhywle yn Llangadog, rhywbryd ddiwedd yr 80au. Mi oeddwn yno fel llygad dyst, voyeur pop Cymraeg, ffan ..................
Yn dod cyn bo hir i'r Blog
mater o gael amser i deipio .....
Yn dod cyn bo hir i'r Blog
mater o gael amser i deipio .....
Post Diwylliannol Post Punk (Scorcher)
Welsh Rock at the moment is almost exclusively aimed at middle class children rather than working class kids” Scorcher 1982.
Mae hyn rhai blynyddoedd cyn i’r diweddar Emyr Price roi gofod i mi herio’r Sefydliad Cymraeg yn y Faner, yn wir yn ol ym 1982 doedd fawr o neb yn cymeryd sylw na diddordeb yn y ffansins oedd yn cael eu cyhoeddi, y casetiau oedd yn cael eu rhyddhau na’r grwpiau newydd “tanddaearol” oedd yn trio rhoi llais i’r gynulleidfa anweledig Gymraeg, (sef unrhywun oedd ddim mewn neuadd breswyl Prifysgol Cymru).
Tybiaf fod y Sefydliad mwy na thebyg heb glywed am fodolaeth y grwpiau tanddaearol neu os oedd unrhyw ymwybyddiaeth o gwbl ganddynt, mae’r teimlad oedd “anwybyddwch nhw a mi ddiflanan ddigon cyflym”. Ond gyda’r cyhoeddiad Scorcher, dan olygyddiaeth Ian Bone a oedd yn ddiweddarach i lansio’r papur Class War, fe gafwyd, efallai am y tro cyntaf, erthygl drwy gyfrwng y Saesneg ym lambastio’r Byd Cymraeg.
Gan fod hwn yn gylchgrawn anarchaidd ac yn rhyw fath o rhagflaenydd i Class War, fe benderfynais alw pawb oedd yn gweithio i’r Cyfryngau Cymraeg yn “hipis allan o gysylltiad”. Dim byd newydd na chwyldroadaol – roeddwn i a nifer arall wedi bod yn pledu cyhuddiadau o’r fath mewn ffansins ers dechrau’r 80au ond – roedd rheini yn y Gymraeg – fydd neb yn eu darllen !
Ond gyda cyhoeddiad Saesneg dyma ysgwyd ychydig ar y Sefydliad Cymraeg – yn bennaf am nad oedd neb yn rhyw sicr iawn beth oedd cylchrediad Scorcher. Wrth ddarllen yn ol, rwyf yn weddol sicr mae hwn yw un o’r darnau gwaethaf i mi sgwennu erioed ond, fe gafod effaith ………
Bedd Ceiriog Herald Gymraeg 25 Ionawr 2012.
Carodd eiriau cerddorol - carodd feirdd
Carodd fyw’n naturiol
Carodd gerdd yn angerddol
Dyma ei lwch - a dim lol.
Mae yna ddisgrifiad gwych o John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn llyfr ardderchog Eryl Wyn Rowlands “Y Llew oedd ar y Llwyfan”, sef llyfr am hanes y canwr Llew Llwyfo wrthgwrs, lle mae Rowlands yn cymharu’r ddau gymeriad yma fel rhai “oedd yn hoff o godi eu bys bach”. Disgrifiad sydd yn cyfeirio at eu hoffter o’r ddiod feddwol, y gwydryn bach sydd yn cael ei godi at geg sych gyda’r bys bach am i fyny – hynny yw, yn hytrach na son am yfed panad o de o gwpan-tseina.
Yn ddiweddar mae yna dynfa wedi bod i dorri ar y siwrne am Gaerdydd ar hyd yr A470 drwy adael y ffordd a mynd i mewn i bentref bach hynafol Llanwnog, Sir Drefaldwyn. Buais yno ddwywaith rhwng yr Haf a’r Dolig. Y tebygrwydd yw fod pentref Llanwnog yn dyddio o gyfnod sefydlu’r Eglwys yno yn y Canol Oesoedd Cynnar. Cyn hynny y ganolfan weinyddol i’r ardal fyddai Caersws, yn dyddio yn ol i gyfnod y Rhufeiniaid a’i dwy gaer Rhufeinig (Caersws 1 a Chaersws II).
Mae’r cyfeiriad hanesyddol cyntaf am Eglwys Sant Gwynnog yn dyddiio i ganol y drydedd ganrif ar ddeg ond y tebygrwydd yw fod yr Eglwys yn dyddio yn ol i’r 8fed neu’r 9fed Ganrif, yn sicr mae’r fynwent gron a’r enw Llan yn awgrymu fod yma “gell” neu sefydliad yn dyddio yn ol i Gyfnod y Seintiau. Awgrymir hefyd fod rhai o’r blociau tywodfaen sydd yn rhan o adeilad yr Eglwys yn debygol o fod wedi cael eu cludo yma, a’u hail ddefnyddio wedyn, o’r Gaer Rhufeinig yng Nghaersws.
Y tro cyntaf i mi fynychu’r Eglwys, carreg fedd Ceiriog oedd y peth pwysicaf ar fy rhestr, ond doedd dim syniad gennyf ym mha ran o’r fynwent gorweddai Ceiriog. Fel arfer mae rhywun a sawl dewis, cerdded yn ol ac ymlaen yn systemataidd gan edrych ar bob carreg yn ei thro. Neu mae modd chwilio yn sydun am y cerrig mwyaf amlwg, y rhai mwyaf crand neu rhai ac arwydd y beirdd arnynt. Ond yn yr achos yma chefais fawr o lwc.
Drwy gyd ddigwyddiad a thrwy fynd yn ol at borth y fynwent gan feddwl am “ail ddechrau yn systemataidd y tro hwn” dyma sylwi ar fwrdd-gwybodaeth ar ochr y lon. Dyma ddarllen hwn yn sydyn a sylwi fod llun o fedd Ceiriog arno a fod coed i’w gweld tu cefn i’r garreg fedd. Dyma oedd y penllinyn angenrheidiol – dyma edrych am goed o amgylch y fynwent ac o fewn eiliadau dyma fi’n sefyll ger fedd Ceiriog, os nad yn sefyll am ben yr hen greadur.
A dyma ni yn dod at y llinellau hyfryd uchod. Darllenais unwaith, darllenais eil-waith a darllenais eto. Dyna eiriau hyfryd. Dyna eiriau fyddwn yn hapus iawn i gael ar fy ngharreg fy hyn, er na fedraf honni fod yn un sydd a chrap llawn ar farddoniaeth chwaith, ond yn sicr fe garaf gerddoriaeth pop Cymraeg yn angerddol !
Ond y linell a wnaeth hyd yn oed mwy o argraff oedd y llinell hon
Dyma ei lwch - a dim lol.
Beth oedd ystyr hyn meddyliais a phwy gyfansoddodd y deyrnged yma ? Mae’r rhan fwyaf o gerrig bedd yn son am “er serchog cof am”, yn gofyn am gysur ysbrydol, o gael mynd i’r Nefoedd mewn ffordd, ond gyda Ceiriog dyma ei lwch a dim lol, chwerthais yn uchel.
Dyma profiad yr archaeolegydd yn aml, darganfod darnau o gyrff, neu sgerbwd neu lwch-weddillion rhyw greadur o’r Oes Efydd. Dim lol. Corff wedi mawr. Wedi pydru, wedi mynd. Rhywsut yn y gerdd fach hon o deyrnged i Ceiriog roedd yna hiwmor, elfen o wirionedd os mynnwch, braidd yn anghyffredin efallai ?
Ar fy ail ymweliad a Llanwnog ym mis Rhagfyr roedd hi’n twllu’n gynnar, erbyn i mi gyrraedd bedd yr hen Ceiriog roedd hi’n dywyll iawn. Hawdd iawn fyddai dychmygu Christopher Lee yn dod o amgylch y fynwent drwy’r niwl. Ond er y tywyllwch, roedd yn amlwg i mi y tro yma, fod carreg fedd Ceiriog yn erydu’n ddrwg. Bellach mae’r gair “Dyma” wedi hanner ddiflannu, a mae “Carodd” ar fin diflannu – un Gaeaf caled arall a bydd y geiriau yma yn golledig.
Oherwydd erydu’r tywydd mae’r geiriau yn codi oddiar wyneb y garreg fel stamp o amlen a wedyn yn raddol yn disgyn. Efallai i mi beidio sylwi cymaint yn ystod fy ymweliad cyntaf ond y tro hwn dyma deimlo bydd y gerdd hyfryd yma yn diflannu o fewn ychydig o flynyddoedd, sgwn’i oes rhywbeth gallwn ei wneud ?
Ac wrth adael dyma gofio am y llun hynod hwnnw o Ceiriog, fel dywedai Eryl Wyn Rowlands amdano, “yn ei ysblander sgwarog”, sef y llun enwog o Ceiriog yn eistedd yn dal ei het a wedi ei wisgo mewn trywsus a gwasgod sgwarog. Mae’n lun trawiadol a bythgofiadwy. Un o luniau John Thomas yw hwn, o’r casgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol, a Ceiriog yn eistedd allan yn yr ardd.
Petae rhywun yn gofyn – beth sgwennodd Ceiriog ? Faint ohonnom sydd yn gallu ateb yn syth ? Ond mae ei waith yn gyfarwydd i ni gyd, mae hyd yn oed awgrym mae ef oedd yn gyfrifol am eiriau Cymraeg i ‘Men of Harlech’ a hynny ym 1890 a hynny cyn cyhoeddi’r geiriau Saesneg ym 1893 ? Ond gyda mwy o sicrwydd rydym yn ei adnabod fel awdur geiriau “Dafydd y Garreg Wen”, am gyfieithu “God Bless The Prince of Wales” a’r cyfieithiad arall enwog “Clychau Aberdyfi” o’r gan “The Bells of Aberdovey” gan Charles Dibden.
Yn fy anwybodaeth yma, oes yna gymdeithas ar gyfer Ceiriog ? Oes yna gyfeillion i Eglwys Llanwnog ? oes yna unrhywun all helpu i gynnal a chadw carreg fedd yr hen Ceiriog ?
Wednesday, 18 January 2012
"Seleb" Kulture
Herald Gymraeg 18 Ionawr 2012.
A gan fod hi’n ddechrau blwyddyn arall, pa well ffordd o lenwi colofn a rhoi proc i’r dyfroedd na dychwelyd at yr hen ddadl bytholwyrdd honno “safon iaith”. Dyma fi’n digwydd taro ar erthygl Cymraeg yn ddiweddar gyda’r penawd “Selebs”, a dyma awgrymaf, o bosib, os nad yn sicr, y gair gwaethaf i’w fathu, mabwysiadu, cynnwys, ddefnyddio yn yr Iaith Gymraeg. Yn sicr di’r gair yma ddim yn gyfieithiad nacdi ?
Heblaw am greu’r gair gwaethaf yn yr Iaith Gymraeg, gwaeth na “so” neu ymadroddion fel “ar ddiwedd y dydd” neu hyd yn oed “mae fi gyn” fy ymateb cyntaf oedd nad oedd y fath beth yn bosib, does dim y fath beth a “selebs Cymraeg”. Os da chi’n siarad Cymraeg rydych yn un o’r werin, yn un ohonna ni, mae pawb yn gyfartal ar Faes yr Eisteddfod yn eu Wellingtons yn y mwd a’r glaw. Does dim angen am y fath air yn y lle cyntaf o fewn y cyd-destyn Cymraeg !
Er mwyn dechrau’r drafodaeth dyma ‘drydar’ mae hwn oedd y gair gwaethaf i’w fathu i’r Gymraeg a fel mae pethau yn y byd trydar, dyma ymateb o fewn eiliadau. Dyma @emyryoung yn gofyn “be sy’n bod ar ‘enwogion’?” a wedyn ymateb gan @galwgaritryfan yn awgrymu “Tipyn mwy llithrig na'u galw nhw'n "hoelion wyth (neu geiniog a dima') y byd adloniant!”
Rhaid cyfaddef fy mod yn eithaf hoff o’r disgrifiad “Hoelion Wyth”. Yn ol Wicadur mae’r geirdarddiad yn deillio o hoelion wyth modfedd, sef hoelion mawr, oedd felly yn hoelion pwysig yn dal pren ac ati at eu gilydd mewn adeiladwaith. Mi oeddwn i o hyd dan yr argraff fod holeion wyth yn cyfeirio at y pregethwyr gorau yn ol yn nyddiau rhyw ddiwygiad crefyddol o bwys. Ond wedyn mae sawl defnydd o “hoelion wyth”.
Yn wir mae yna Gymdeithas Hoelion Wyth yn ardal Sir Benfro, cymdeithas sydd a phwyslais ar fod yn Gymdeithas Gymraeg, gwledig, i ddynion y werin, gyda phwyslais ar hwyl ac ysgafnder gwerinol. Yn ol eu safle We mae pump cangen ganddynt ac yr enw ar y gangen yng Ngogledd Sir Benfro yw “Wes Wes” – a mae nhw’n hoff o beint a “sefyll lan dros y Gymraeg”. Dwi’n disgwyl ymlaen yn eiddgar am wahoddiad i gael rhoi darlith ar archaeoleg iddynt !
Fe ryddhaodd Jim O’Rourke a’r Hoelion Wyth record hir o’r enw Pentigili ar label Loco ym 1984 a mi oedd llyfr o’r enw ‘Hoelion Wyth’ gan Robin Williams a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer ym 1986. Felly dyma ddisgrifiad llawer mwy Cymreig a pherthnasol i ni yn y Gymdeithas Gymraeg na’r erchyll “selebs” ac er fod yna awgrym ar Blog ‘Pethe Hwyrach’ fod yna or-ddefnydd o’r disgrifiad “hoelion wyth” a thuedd anfaddeuol a hynod ddigwylidd gan rai weithiau i awgrymu eu bod yn un o’r hoelion wyth, mae’n llifo’n ddipyn haws ac yn llawer mwy addfwyn na’r Wenglish “selebs”.
Mae rhywun yn gallu parchu’r hoelion wyth, mae yna awgrym fod rhywbeth wedi ei gyflawni ganddynt, cyfraniad i’r gymdeithas neu i ddiwylliant neu’r Iaith Gymraeg ond gyda “selebs” yr ymateb cyntaf yw awydd afresymol (neu hollol rhesymol) i roi clustan iddynt – cyn gofyn – be goblyn mae rhain wedi ei wneud ……….yn union ???? – neu yn amlach na pheidio – Pwy ? pwy ydi’r boi yma hefo’r gwallt gwirion a gormod o stwff dal gwallt ynddo a chroen rhy oren i fod yn naturiol ? Pwy di’r ferch fronnog (ffug mwy na thebyg) yma sydd yn “enwog am fod yn enwog” yn ol y cylchgronnau “seleb”ond dwi rioed di clywed amdani ??
Fel arfer y Cyfryngau sydd yn penderfynu pwy sydd yn “seleb” neu ddim, does dim etholiadau na phleidlais go iawn gan y werin bobl. Y dewis, os yn ddewis o gwbl, yw pleidlais ffon, (dyna lle mae’r arian mawr wrthgwrs fel sylweddolodd Simon Cowell yn fuan iawn), engraifft perffaith fel mynegodd Paul Weller gyda’i grwp The Jam “fod y bobl eisiau yr hyn mae nhw’n ei gael” gyda awgrym sicr ganddo o ddiffyg dewis go iawn yn y mater. Mae’r Cyfryngau yn eu creu nhw ac yn eu gwthio nhw – ac yn fuan wedyn yn eu claddu nhw hefyd, yn ddi-drugaredd ac yn aniolchgar. Mae eich 5 munud o enwogrwydd drosodd !
Ond y cwestiwn mawr wrthgwrs yw pwy yn union yw’r “selebs Cymraeg” honedig ? Bydd gallu siarad ambell air neu frawddeg yn y Gymraeg yn hanfodol wrthgwrs. Bydd ambell un arall mwy neu lai yn rhugl yn y Gymraeg (anodd credu) ond nid o reidrwydd yn siarad am unrhyw beth o ddiddordeb, ond y fantais fwyaf wrthgwrs fydd ymddangosiad ar Big Brother. Fe fydd hyn yn chwystrelliad anferth i’w gyrfa – dyma’r ffordd gyflyma bellach o fod yn enwog heb orfod cyflawni unrhywbeth.
Felly gyda gofal mawr, derbyniwch yr anrhydedd o fod yn “seleb” ond bydd gweddill y werin bobl yn gwybod yn syth fod hyn yn gyfystyr a chysgu a pheldroediwr tra’n briod a’i frawd neu rhywbeth tebyg, neu ymddangos ar yr erchyll Big Brother wrthgwrs. Y peth trist am “selebs”, a dyma’r ffaith ynde, nid hoelion wyth mohonnynt, ddim o gwbl, ond pobl sydd yn “enwog am fod yn enwog” , heb ronyn o dalent a heb wneud unrhyw fath o brentisiaeth allan yna yn y Byd go iawn ac yn amlach na pheidio yn adnabyddus am gysgu a rhywun arall “fwy enwog”.
Mae sawl rheswm dros ymwrthod ar holl syniad o “selebs Cymraeg”,mae’n ddisgrifiad sy’n gostwng safon yr Iaith a mae ganddom rhywbeth llawer gwell – yr hoelion wyth – ond hefyd, oes wir angen i ni fod mor wasaidd i’r elfennau gwaethau o’r diwylliant ffwrdd a hi, di-werth, Eingl Americanaidd Gyfalafol ?
Thursday, 12 January 2012
Esgidiau Meirw (llun gan Dave Hopewell GAT)
Mae mwy a mwy o wybodaeth yn dod i'r fei ynglyn a'r Domen Sgidia ger Ffridd y Bwlch. Dyma lun drwy garedigrwydd Dave Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd o'r "garreg fedd" gymharol ddiweddar. Mae yna gwestiwn ar hyn o bryd lle yn union mae'r garreg hon ?
Hefyd yr wythnos hon (Herald Gymraeg 11/1/12 tud 22) mae llythyr gan Pegi Lloyd-Williams o Flaenau Ffestiniog yn son am ei chyfnod yn gweithio i Gwmni Ackett yn Neuadd Frachnad Blaenau yn didoli'r sgidia.
Rwyf yn ddiolchgar iawn i Pegi am ei sylwadau. Gobeithio gallaf drefnu sgwrs gyda Pegi.
Mae Dr Dafydd Roberts o'r Amgueddfa Lechi hefyd wedi bod yn cysylltu a staff Sain Ffagan am gyngor pellach ar y sgidia a Steffan ab Owain wedi bod yn rhoi cyngor i mi ynglyn ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig a'r domen.
Ond mae yna gwestiynau hefyd :
Pam cludo'r sgidiau i'r Cei Llechi ym Mhorthmadog
Ychydig o longau oedd yn dod mewn i'r porthladd erbyn yr Ail Ryfel Byd.
Sut cludwyd y sgidia i fyny i Blaenau - ar y tren bach ?
Pam eu llosgi ar ben y Bwlch ?
Yn ol tystiolaeth Dave Hopewell mae yna hen domen llechi o dan y domen sgidia - felly roedd hyn yn sylfaen sych efallai ar gyfer y llosgi ?
Rydym dal angen tystiolaeth pendant fod yr esgidiau yn rhai Americanaidd - dyna fydd y cam nesa gyda Sain Ffagan.
Cofnodi'r holl storiau.
Hefyd yr wythnos hon (Herald Gymraeg 11/1/12 tud 22) mae llythyr gan Pegi Lloyd-Williams o Flaenau Ffestiniog yn son am ei chyfnod yn gweithio i Gwmni Ackett yn Neuadd Frachnad Blaenau yn didoli'r sgidia.
Rwyf yn ddiolchgar iawn i Pegi am ei sylwadau. Gobeithio gallaf drefnu sgwrs gyda Pegi.
Mae Dr Dafydd Roberts o'r Amgueddfa Lechi hefyd wedi bod yn cysylltu a staff Sain Ffagan am gyngor pellach ar y sgidia a Steffan ab Owain wedi bod yn rhoi cyngor i mi ynglyn ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig a'r domen.
Ond mae yna gwestiynau hefyd :
Pam cludo'r sgidiau i'r Cei Llechi ym Mhorthmadog
Ychydig o longau oedd yn dod mewn i'r porthladd erbyn yr Ail Ryfel Byd.
Sut cludwyd y sgidia i fyny i Blaenau - ar y tren bach ?
Pam eu llosgi ar ben y Bwlch ?
Yn ol tystiolaeth Dave Hopewell mae yna hen domen llechi o dan y domen sgidia - felly roedd hyn yn sylfaen sych efallai ar gyfer y llosgi ?
Rydym dal angen tystiolaeth pendant fod yr esgidiau yn rhai Americanaidd - dyna fydd y cam nesa gyda Sain Ffagan.
Cofnodi'r holl storiau.
Subscribe to:
Posts (Atom)

