Wednesday, 29 March 2017

“Nid i’r doeth a’r deallus yr ysgrifennais ond i’r dyn cyffredin”. Herald Gymraeg 29 Mawrth 2017






“Nid i’r doeth a’r deallus yr ysgrifennais ond i’r dyn cyffredin”.

A dyna chi ddyfyniad, Daniel Owen wrthgwrs – dyma a welir ar waelod y cerflun o Daniel o flaen llyfrgell Yr Wyddgrug. Dyma’r tro cyntaf i mi sylwi ar hyn go iawn. Rwyf wedi edmygu cerflun Daniel a’i het hyfryd fflat droeon ond am ba bynnag reswm,’rioed di darllen yr ysgrif yn iawn.

Wrth feddwl ymhellach am y dyfyniad, mae rhywun yn naturiol yn ochri gyda agwedd cydraddol neu egalataraidd Daniel, onid hawdd i ni gyd ddychmygu rhywsut ein bod yn rhan o’r ‘werin bobl’ yn hytrach na rhyw garfan arall ‘elite’. Ond wedyn wrth feddwl ymhellach am y dyfyniad mae rhywun yn dechrau gofyn cwestiwn mwy sylfaenol – pwy yn union yw eich cynulleidfa?

Yn sicr o safbwynt fy hyn fel colofnydd, pan ddechreuais gyfrannu colofnau lled heriol yn Y Faner yng nghanol y 1980au fy unig fwriad oedd ‘gwylltio’ y ‘sefydliad Cymraeg’. Feddyliais i ’rioed am ddarllenwyr na chynulleidfa ac a bod yn onest nes i ’rioed ddisgwyl y byddai fy nghyfoedion yn darllen Y Faner. Doeddwn ddim yn disgwyl cynulleidfa.

Tri deg mlynedd (a mwy) yn ddiweddarach, gyda’r golofn hon yn yr Herald Gymraeg, mae meddylfryd hollol wahanol ynghlwm a’r broses o sgwennu. Heb os, y prif fwriad yw diddanu, addysgu a gwneud i’r darllenydd feddwl – ond rydwyf yn hollol falch fod pobl yn darllen y golofn, fod unrhywun yn darllen y golofn. Heb gynulleidfa / darllenwyr – does gennym ddim byd.

Yn amlwg nid ‘plesio’ y darllenwyr yw’r prif fwriad, ond does dim dwy waith fy mod yn falch iawn o glywed pan fydd pobl yn dweud wrthof eu bod wedi mwynhau darllen rhyw golofn arbennig neu yn mwynhau holl golofnwyr yr Herald Gymraeg yn wythnosol. Does dim cwestiwn o wahaniaethu rhwng y doeth a’r deallus a’r dyn cyffredin – rwyf yn gwerthfawrogi cefnogaeth holl ddarllewnyr yr Herald Gymraeg. Ha! – mae pawb ohonnoch yn ddoeth a deallus!

Felly hefyd gyda fy sioe radio BBC Radio Cymru ar nosweithiau Llun. Y prif nod heb os pob Nos Lun yw cadw cwmni i bwy bynnag sydd yn gwrando ac yn aros hefo mi dros y dair awr. Cael ‘sgwrs’ hefo’r gynulleidfa yw’r nod a phlethu hynny hefo caneuon da sydd yn gwneud i bawb deimlo yn hapus neu’n well ac yn gysurus.





Dros y blynyddoedd fel colofnydd mae caffis bach Cymru wedi cael cryn sylw gennyf ac wythnos yn ôl cafodd holl golofnwyr yr Herald Gymraeg (Bethan, Bethan, Angharad, Tudur a minnau)  gyfle i gymdeithasu yng Nghaffi Sam ar Stryd Fawr, Llanberis. Am le bach hamddenol. Cafwyd sgwrs, yn y dull hen ffasiwn traddodiadol Gymreig, a rhoi y Byd yn ei le a thrafod hyn a llall.

Well i ni son am y bwyd yntydi. Wel dyma chi flasus, cafodd sawl un o’r criw y darten ffacbys a thomato (you say tomatoe) a rhaid dweud fod hwn yn un o’r pethau mwyaf blasus rwyf wedi ei brofi ers talwm. Ddylia hi ddim bod yn beth mor anghyffredin a hynny i fwynhau blas bwyd, ond tydi bwydydd yr archfarchnadoedd ddim yn cyrraedd y nôd bellach. Tydi eu tomatos, sut bynnag da chi’n eu hynganu, ddim hefo’r un blas (os oes blas o gwbl) a’r hyn a geir o’r tŷ gwydr.

Rhywbeth arall ‘anarferol’ am Caffi Sam (eto, na ddylia fod yn anarferol ond mae o mewn gormod o gaffis) oedd fod gofal mawr wedi ei gymeryd wrth osod y bwyd, y salad yn arbennig, ar y plât. Roedd y salad ymyl yn bleser yn ei hyn. Nid deilen o letys wedi brownio a threuan o domato di-flas archfarchnadaidd ond gwledd o ddanteithion iachus ac ysgafn.
Dwi ddim yn cofio pryd fwynheais y profiad bwyta gymaint ers amser. Wrth reswm roedd y cwmni a’r sgwrs yn rhagorol OND roedd bwyd Caffi Sam yn caniatau i rhywun fwynhau y foment o gnoi a llyncu, o flasu ac arogli. Ewch yno a mwynhewch.

Wrth i ni fwyta gyda criw yr Herald sylwias fod cerddoriaeth Echo and the Bunnymen a Public Image Limited yn chware yn y cefndir a rhaid oedd gofyn pwy oed wedi dewis y ‘tiwns’. BBC 6 Music oedd ymlaen ganddynt yn Caffi Sam. Pwy all ddadlau hefo hynny – onibai eu bod yn dewis Lisa Gwilym, Georgia Ruth neu Huw Stephens ar BBC iPlayer – ella dylia nhw!




Yn anfwriadol yr wythnos hon rwyf wedi dechrau dilyn rhyw drywydd sydd yn ymwenud a phleser a phrofiad sydd yn arwain yn daclus at ddiwgyddiad Psylence yn Pontio Bangor nos Wener dwetha lle roedd y grwp arlosol electronig Cymraeg Datblygu yn chwarae yn fyw (cyfeilio o fath) tra roedd ffilm ‘Kiss’ gan Andy Warhol yn cael ei ddangos ar y sgrin fawr.
Erbyn diwedd y cyngerdd / digwyddiad celfyddydol dyma gael cyhoeddiad o’r llwyfan mai dyma gig olaf Datblygu. Gobeithio nad yw hyn yn wir. Gobeithio cawn weld Datblygu yn perfformio rhywbryd eto yn y dyfodol ar rhyw lwyfan neu’i gilydd. Mae eu hangen.

Efallai mai’r hyn sydd yn ddiddorol am Datblygu yw eu bod wedi llwyddo i greu caneuopn pop cofiadwy a darnau o gelfyddyd perffaith dros y blynyddoedd heb erioed gyfaddawdu. Anodd dychmygu fod Datblygu wedi poeni gormod am y gynulleidfa dros y blynyddoedd – mae nhw wedi creu a wedyn dewis y gynulleidfa oedd tiwnio i mewn. Roedd Sinema Pontio yn orlawn o’r ‘doeth a’r deallus’ a oedd yn mwynhau pob eiliad o berfformiad Datblygu.

Mae gŵyl Psylence yn haeddu gwell triniaeth na hyn felly fy mwriad yw son mwy am yr ŵyl wythnos nesa.



Wednesday, 22 March 2017

'Wagstaff's' @ MOSTYN, Herald Gymraeg 22 Mawrth 2017




Tydi brutalist na brutalism ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi. Chwilio oeddwn am y disgrifiad Cymraeg o’r arddull pensaerniol concrit o’r 20fed ganrif sydd yn cael ei alw yn Brutalist Architecture. Tyfodd, neu esblygodd, ‘pensaerniaeth garw’ o arddulliau Modern hanner cyntaf yr 20fed ganrif ac yn gyffredinol iawn rydym yn son am ‘bensaerniaeth garw’ yn ei anterth rhwng y 1950au a chanol y 1970au
.
Soniais sawl gwaith yn y golofn yma am waith Basil Spence yn Atomfa Trawsfynydd – dim ond un gair sydd i ddisgrifio hyn – a ‘garw’ ydi hynny. Chefais i rioed fawr o gefnogaeth na chydymdeimlad am wyntyllu fy hoffter o bensaerniaeth Spence yn ‘Traws’. Pawb rhy wrth-niwclear i gydymdeimlo a’r hen Basil!

Ar ei (gymharol) newydd wedd, mae’r grisiau a’r cyntedd yn y MOSTYN, Llandudno hefyd yn ymylu ar fod yn ‘arw’ gyda concrit yn llwyr deyrnasu’r dirwedd bensaerniol. Peth da yw hyn gan fod yr oriel hefyd yn un heriol. Sawl gwaith rwyf wedi mynychu arddangosfeydd yn y MOSTYN a gofyn yr un peth – ‘Ydi hyn yn gelf?’ – ac eto peth da yw hyn. Drwy’r weithred o herio mae rhywun yn cael ei orfodi i feddwl.

Caf fy atgoffa o’r Almaen, rhywle fel Stuttgart, pob tro byddaf yn mynychu’r MOSTYN. Er mai Llandudno yw hyn go iawn, tref lan-y-môr Fictoraidd, mae’r teimlad oddi fewn i’r MOSTYN yn un Dada, avant-garde Ewropeaidd. Yng ngogledd Cymru fedrith hyn ond fod yn beth da.




Rhan o Gyfres *Hanes MOSTYN yw’r arddangofa gyfredol ‘Wagstaff’s’. Dyma sut mae Mostyn yn esbonio’r Gyfres * Hanes MOSTYN sydd “ers 2013 wedi archwilio treftadaeth adeilad MOSTYN, tref Llandudno a chysylltiadau ymhellach i ffwrdd. Mae’r gyfres wedi cyflwyno arteffactau a delweddau hanesyddol ochr yn ochr a gwaith gan artistiaid cyfoes gan ffurfio llinyn rhwng y gorffennol a’r presennol”.

Siop Gerddoriaeth, yn gwerthu pianos,offerynnau a recordiau oedd Wagstaff’s yn wreiddiol ym Manceionion ond sefydlwyd siop yn Llandudno yn ystod y 1940au cynnar ar ôl i’r siop ddinesig gael ei ddymchwel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ei thro daeth Wagstaff’s i 2 Stryd Vaughan – sef safle presennol y MOSTYN.

Diddorol felly gan fod yr arddangosfa mewn ffordd yn dod a’r siop yn ôl i’w gartref (dros dro). Wrth gerdded o amgylch yr oriel mae’r ffin rhwng arddangosfa a chelf yn cael ei ddrysu – beth yw’r hanes a beth yw’r celf? Lle mae’r ffin rhwng amgueddfa ac oriel. Be di’r ots? Dyma yr union brofiad rwyf yn ei ddigwsyl (ac yn ei gael bob tro) gan y MOSTYN.

O ran fy hoff ddarn o gelf – beth am gynnig ‘peiriant’ Gareth Griffith. Ysbrydolwyd Gareth i greu peiriant (celf nid ymarefrol) ar gyfer profi sain a thôn cywir pibellau organ capel neu eglwys yn dilyn ei ymweliad a chwmni adeiladu organnau Henry Wills & Sons yn Lerpwl. Cawn ddarn o gelf trawiadol a sylweddol o ran maint sydd yn atgoffa rhywun o gymeriad ‘Noo Noo’ o’r Teletubbies yn ein wynebu wrth i ni gerdded i mewn i’r brif oriel. Daw synnau o’r gwaith celf ond does dim elfen rhyngweithiol o beth ddeallais.




O ran fy hoff arteffactau, beth am gynnig cloriau recordiau y Rolling Stones. Ar label Decca , cawn y pump cyfarwydd ond yr hyn sydd yn ddiddorol gyda cloriau fel ‘After-Math’ yw fod Brian Jones yr un mor flaenllaw a Jagger ac yn hyd yn oed mwy golygus na’r Jagger ifanc.

Heb os, mae arddangosfa’Wagstaff’s’ yn ein cludo yn ôl i oes a fu, pan roedd siopau cerdd yn lefydd arall fydol hudolus a rhamantus (cyn yr holl electronics). Ond yr hyn sydd yn wirioneddol ddiddorol yw fod hwn yn brofiad pleserus er fod y ffin rhwng arddangosfa a chelf yn anelwig iawn.

https://www.mostyn.org/exhibition/wagstaffs




Wednesday, 15 March 2017

Merched Chwarel, Herald Gymraeg 15 Mawrth 2017




Darllenais ddyfyniad yn ddiweddar gan yr arlunydd Banksy a oedd yn awgrymu “fod pethau da yn dod os da chi’n disgwyl ddigon hir”, efallai wir, ond yn sicr mae pethau diddorol yn digwydd heb i rhywun eu disgwyl. Wythnos yn ôl cefais wahoddiad i fynychu gweithdy yn yr Amgueddfa Llechi yn Llanberis yn dwyn yr enw ‘Merched Chwarel’. Doedd gennyf fawr o syniad beth i’w ddisgwyl.

Yr arlunydd Lindsey Colbourne yrrodd y gwahoddiad. Yn cydweithio a hi roedd tair artist arall, Marged Pendrell, Lisa Hudson a Julie Williams. Lindsey rwyf yn adnabod drwy’r prosiect ‘Digging Down’ lle bu Lindsey yn creu gwaith celf yn seiliedig ar wrthrychau wedi eu darganfod mewn tomen sbwriel Fictoraidd yn Nant Peris. Julie rwyf yn ei hadnabod drwy ei gwaith yn peintio lluniau meini hirion Môn gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a disgyblion ysgol o’r ynys.

Dyma ein llwybrau, ein crwydriadau hanesyddol, ein seicoddaearyddiaeth archaeolegol yn cyd-redeg unwaith eto. Yn ddiddorol iawn, roedd y pedair artist wedi rhestru ‘seicoddaearyddiaeth’ fel un o amcanion eu maniffesto / gwaith celf / gwaith ymchwil. Gofynais iddynt am yr elfen ‘seicoddaearyddiaeth’ achos rwyf yn ddilynwr brwd o’r ddamcaniaeth yma o grwydro ac arsylwi ar y dirwedd ond doeddwn ddim yn disgwyl hyn yng nghyd destun hanes y chwareli llechi.

Dychmygais daith gerdded gyda merched yn unig yn crwydro llwybrau Dinorwic neu Dorothea. Dychmygais gôr o ferched yn unig yn canu mewn ceudwll yn Llechwedd. Dychmygais rhywbeth tu hwnt i’r hyn rydym yn ei wybod / adnabod, y pethau gor-gyfarwydd o ddarllen Kate Roberts a T Rowland Hughes.

Nod yr artistiaid gyda’r prosiect ‘Merched Chwarel’ yw darganfod beth yn union yw dehongliad y ferch ar y gofod / gwagleoedd anferth sydd yn cael eu creu drwy’r broses chwarelyddol. Y mynydd gwag. Rydym yn cyffwrdd ac archaeoleg yma – beth yn union mae’r dystiolaeth yn ei awgrymu? Mae cysylltiad teuluol gan rai. At ba ganlyniad celfyddydol fydd y cysylltiad teuluol yn arwain?

Soniai’r artistiaid benywaidd am greu celf drwy gerdded a phwysigrwydd felly y broses o gerdded drwy’r chwareli a phrofi a dehongli – anadlu’r awyrgylch a chreadigrwydd wedyn yn deillio o hynny. Rydym yn son felly am seicoddaearyddiaeth sydd yn ymestyn tu hwnt i’r profiad yn unig – mae hyn yn seicoddaearyddiaeth sydd yn arwain tuag at greu celf.

O ddarllen y maniffesto, sydd i’w weld ar lein ar safle lindseycolbourne.com/merched-chwarel cawn ddeall fod Iaith a Diwylliant yn agwedd holl bwysig o brosiect Merched Chwarel. Mae’n rhaid iddi fod felly. Ond yn ychwanegol cawn gydnabyddiaeth fod damcaniaethau yr arlunydd Iwan Bala ynglyn a ‘chadwraeth estheteg’ yn cael ei ystyried fel rhan allweddol o’r prosiect.

Peth braf yw gweld artist Cymreig yn cael  parch a chydnabyddiaeth ond mae hyn hefyd yn angenrheidiol er mwyn gallu symud yr agenda yn ei flaen. Heb os, mae prosiect hynod gyffrous ar y gweill yma – a gallaf awgrymu hynny ar sail celfyddydol yn unig. Ond yn bwysicach byth, mae yna gwestiwn sylfaenol yn cael ei ofyn yma. Wrth gerdded i mewn i’r ystafell gyfarfod yn yr Amgueddfa Llechi sylweddolais cyn llied roeddwn yn ei wybod am rôl y ferch yn y chwarel. Tu hwnt i’r amlwg ‘gadw tŷ’ a’r pethau amlwg ddarllenais gan Kate.Yn amlwg heb Mam yn ‘cadw’r tŷ’ mi fyddai bywyd y dynion yn disgyn yn ddarnau o fewn dyddiau ond ………

Rhyfedd o beth yw sylweddoli fod talp anferth o hanes wedi ei golli yma. Drwy or-ramantu am y bywyd caled dynol yn y chwareli rydym wedi llwyr anwybyddu rôl y ferch. A dyma ordfod syllu yn uniongyrchol i’r drych dynol. A oedd yna unrhyw rôl i’r ferch o fewn ffiniau’r chwarel go iawn?

Beth bynnag ddigwyddith hefo prosiect Merched Chwarel, mi fydd yna gelf diddorol yn cael ei greu a chwestiynau diddorol yn cael eu codi.



 https://lindseycolbourne.com/merched-chwarel/



Wednesday, 8 March 2017

Cei Llechi, Caernarfon, Herald Gymraeg 8 Mawrth 2017




Gwahoddiad gan Gŵyl Ddewi Arall (rhan o Gŵyl Arall, Caernarfon) i arwain taith gerdded o amgylch y Cei Llechi ac i ddangos yr hanes diwydiannol orfododd mi ddechrau edrych go iawn ar hanes y darn yma o Gaernarfon. Rwyf yn dweud ‘gorfodi’ achos er cymaint fy niddordeb mewn archaeoleg diwydiannol, doeddwn ddim wedi astudio’r adeiladau sydd yn ymestyn i’r de ar hyd ‘Lôn Gas’ gyda unrhyw fanylder.

Y man cychwyn, a hynny bron yn ddi-eithriad bellach, yw cael golwg ar safle we ‘Archwilio’, sef cofnodion yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru. Drwy chwyddo’r map o amgylch Afon Saint / Seiont yng Nghaernarfon a chyfyngu’r chwilota i’r cyfnod ôl-Ganol Oesol, buan iawn mae rhywun yn dod ar draws yr adeiladau hynny sydd yn perthyn i’r Chwyldro Diwydiannol a’r cyfnod Modern.

Ar ôl cymeryd nodiadau, yr ail gam yw mynd i grwydro. Dyma ni yn nôl yn nhiriogaeth seicoddaearyddiaeth ond fod hyn yn seicoddaearyddiaeth i bwrpas a chyda dechrau a diwedd penodol. Rhaid trefnu taith gerdded sydd yn dechrau a gorffen. Gyda seicoddaeryddiaeth pur byddai rhywun yn dilyn ei drwyn yn hytrach na dilyn ‘map’. Ond, mae’r canlyniadau yn ddigon tebyg.

Rydym yn edrych i fyny ar adeiladau neu gerrig gyda dyddiadau. Rydym yn edrch ar yr hyn sydd o dan ein traed. Rydym yn sylwi ar y nodweddion bach hynod. Rydym yn ail edrych ar y cyfarwydd a gweld rhywbeth o’r newydd. Rhy hawdd yw mynd heibio adeilad bach diddorol. Ond o ddeall yr hanes mae’r adeilad yna yn ddeg gwaith mwy diddorol. Fydd rhywun byth yn mynd heibio heb sylwi eto.

Ar Ddydd Sul y daith gerdded mae hi’n bwrw glaw. Ond doedd dim angen i mi boeni, wrth i mi gyrraedd siop lyfrau Palas Print (ein man cychwyn) mae tua ugain o bobl / cerddwyr wedi eu lapio, hefo sgidiau cerdded, sawl un gyda ymbarel, pawb mewn dillad glaw addas – doedd dim ail feddwl, dim Plan B – roedd pawb am gychwyn – dim troi’n nôl.

Roedd rhywbeth braf iawn mewn cael eu sel bendith cyn cychwyn a hynny cyn i mi ddweud gair – yn amlwg roedd y criw yma yn barod i gerdded, roedd yr hwylia yn dda a doedd ‘chydig o law’ ddim am eu rhwystro. Mae rhywbeth braf iawn mewn cyd-gerdded. Dyma gyfle i gyfarfod pobl newydd, torri sgwrs hefo rhywun diethr a siawns bydd pob un ohonnom yn dysgu rhywbeth newydd.



Wrth sefyll ar y Cei Llechi y ‘wers’ gyntaf oedd sylwi ar yr hen gledrau rheilffordd sydd yn ymddangos nawr ac yn y man drwy’r tarmac ar y maes parcio. O gychwyn ar ben gorllewinol y Cei a cherdded tuag at Swyddfa’r Harbwrfeistr (1840) mae sawld cledren yn gwthio allan drwy’r tarmac. Weithiau mae rhwd y cledrau yn gadael ei hoel drwy’r tarmac. Yn sydun iawn rydym yn gweld mai yma roedd Rheilffordd Nantlle yn dod i derfyn ar y Cei Llechi.
Wedi hen ddiflanu mae’r hen graen ar ben gorllewinol y Cei sydd yn cael ei nodi ar fap John Wood 1834 felly rhaid ‘dychmygu’ y bwrlwm fu yma unwaith wrth i filoedd ar filoedd o lechi Dyffryn Nantlle gael eu hallforio dros y Byd. Wrth sefyll ar y Cei Llechi rydym yn sefyll a’r rhywbeth adeiladwyd yn ystod degawdau cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn hynny tir corsiog / traeth mwdlyd a chydig o greigiau fyddai wedi sefyll ar lan Afon Saint (yr enw cywir).

Erbyn 1837 roedd rhan ogleddol y Cei Llechi wedi datblygu ond proses dros y degawdau oedd hyn. Dechreuwyd y datblygu go iawn gan Henry Paget, Ardalydd Môn, y gŵr gollodd goes ym Mrwydr Waterloo a sydd yn cael ei gofio yn aml am y modd atebodd Dug Wellington wrth i Wellington gyfeirio ‘By God Sir you’ve lost your leg’ a Paget yn ateb’ By God Sir, so I have’.

Doedd fawr o Gymraeg rhwng y ddau gan fod Paget yn cael perthynas a Charlotte, chwaer yng nghyfraith Wellington. Stad Plas Newydd ar Ynys Môn felly oedd yn berchen ar y darn yma o dir. Erbyn i ni gyrraedd hen adeiladau de Winton, ychydig i’r de o’r Cei Llechi,  rydym yn sefyll ar hen safle Cei Arglwydd Niwbwrch. Ond cyn cyrraedd safle de Winton rhaid oedd sylwi ar adeilad hyfryd yr Habwrfeistr.



Wedi ei godi yn 1840 yn yr arddull clasurol, y pensaer yn achos yr adeilad yma oedd John Lloyd a’r cloc ar y wal wedi ei greu gan David Griffiths. Credaf fod dealltwriaeth o’r arddulliau a nodweddion pensaerniol yn rhan bwysig o werthfawrogi’r dirwedd hanesyddol felly roedd cyfle yma i amlygu nodweddion fel y corbelau o dan y pediment (neu dalog) clasurol.

Cyn pen dim roedd y cerddwyr hapus (a gwlyb) yn edrych ar golofnau clasurol o’r arddull ‘Corinthian’ ar flaen hen swyddfeydd de Winton. Bellach yn wag a golwg braidd rhy ddigalon arno bu’r adeilad yma ar un adeg (cymharol ddiweddar) yn glwb cymdeithasol ar gyfer Clwb Rygbi Caernarfon. Fe ganais yno gyda’r Anhrefn droeon. Ond y nodweddion Fictoraidd oedd am hawlio ein sylw.




Y colofnau ‘Corinthian’ yw’r rhai gyda’r dail acanthws neu ‘droed yr arth’ yn ymledu o ben y golofn. O’r drefn glasurol ar gyfer colofnau, Doric, Ionic a Corinthian, y rhai Corinthian yw’r rhai mwyaf addurnedig a dyma werthfawrogi felly pwysigrwydd yr adeilad fel swyddfeydd o statws gan gwmni de Winton.

Dyma chi stori arall, y cwmni haearn a pheirianneg a sefydlwyd gan Owen Thomas a fu’n rhan mor allweddol o’r diwydiant llechi felly efallai caiff hon golofn arall yn y dyfodol.




Wednesday, 1 March 2017

Stink Pipes neu Stench Poles, Herald Gymraeg 1 Mawrth 2017



Mynd i redeg yn ardal Rhyd Ddu, hebio Llyn y Gadair a draw wedyn i berfeddion Coedwig Beddglelert ddechreuodd y ‘diddordeb diweddaraf’. Byddaf yn gadael y car yng nghanol y pentref a rhedeg heibio hen gartref T. H. Parry Williams cyn troi am y llwybr heibio Llyn y Gadair (a enwogwyd yn soned T. H). Ger y tŷ olaf ar ochr yr A4085 cyn y llwybr sylwais ar hen bolyn haearn-bwrw.

Wrth basio heibio droeon, roedd yn amlwg fod angen cofio’r iPhone tro nesa  er mwyn cael llun o’r polyn – a dyma wneud hynny. Cuddir y polyn yn rhannol gan goeden (celyn?) ond cefais lun o waelod y polyn a’r ysgrif Hartley’s Stoke ar yr haeran bwrw.
Y cam nesa wrth reswm oedd rhannu’r llun o’r polyn anhygoel yma ar Facebook. A dyma ddysgu gwers. Cysylltodd gŵr o Lanrug gan ddweud fod dau bolyn tebyg i’w gweld ym mhentref Llanrug. Ond yr hyn oedd yn ddiddorol oedd fod y cyfaill o Lanrug yn gwybod beth oedd eu pwrpas. Dyma oleuni.

Yr hyn a welir yn Rhyd Ddu yw polyn gwasgaru oglau drwg a nwyon o’r sustem carthion / carffosiaeth . Mae polion o’r fath yn dyddio o’r cyfnod Fictoraidd. Y syndod yw fod cymaint wedi cael llonydd. Ceir enwau doniol arnynt yn y Saesneg gyda amrywiath ffurf o ‘stink pipe’ neu ‘stench pipe / stench pole’. Rwyf am gynnig ‘pibell ogla’ neu ‘pibell ogla drwg’.



Dim ond y Fictoriaid fydda’n mynd i’r fath drafferth o greu polion haearn-bwrw mor addurnedig gyda colofnau rhychog yn aml ar waelod y polion (gyda stamp gwneuthurwr) a wedyn rhyw fath o fowlen heu goron ar y top er mwyn i’r ogla drwg gael ei wasgaru. Saif y colofnau yma i uchder o 6-8medr.

Ymateb oedd hyn mewn gwirionedd i Haf poeth 1858 (yr hyn a elwir the Great Stink) pan roedd yr Afon Tafwys yn Llundain yn gorlifo a charthion a dechreuodd yr holl beth eplesu ac achosi’r fath ddrewdod fod angen datrys y broblem. Dyma arwain at adeiladu y twneli carthion gan y peirianwyr Goldsworthy Gurney a Joseph Bazalgette. Gurney ddyfeisodd y pibellau ogla ac o ddilyn rhain o amgylch Llundain heddiw rydych yn dilyn hen gwrs carthion y Fictoriaid dan ddaear.

Yr un fydda’r rheswm felly yng Nghymru, a buan iawn daeth mwy o ymatebion ar Facebook. Polion neu bibellau o’r fath wedi goroesi yng Ngroeslon a Rhos Isaf ger Caernarfon – rhai yng ngerddi pobl hyd heddiw. Diolchaf iddynt am ymateb. Cefais ymatyeb gan ambell un (fel fi) yn dysgu rhywbeth newydd ac yn gwerthfawrogi cael esboniad.

Gyda llaw mae’r ddau bibell ogla yn Llanrug ar Lon Groes gyferbyn a maes parcio Ysgol Brynrefail ac ar y ffordd am Pont Rythallt rhyw 50medr o’r Glyntwrog.



Er cymaint fy niddordeb mewn henebion ac archaeoleg, doeddwn rioed di sylwi ar rhain o’r blaen. Nid dyma’r sgwrs arferol wrth y bwrdd bwyd neu wrth gymdeithasu ond dyma brofi unwaith eto fod gwir angen edrych o’n cwmpas wrth grwydro (neu redeg os yw’r fath beth yn bosib). A chyn i rhywun ddechrau fy nghyhuddo o fod yn ddi-chwaeth fy niddordebau archaeolegol mae hyd yn oed grwp penodol ar gyfer hyn ar Flickr o’r enw ‘stinkpipes’ – rwyf newydd ymuno. Cawn Blog penodol hefyd dan yr enw  Stinkpipe Collector Blog felly nid y fi yw’r unig un o bell ffordd.


Dangosir hefyd yr ymateb ar Facebook fod yna ddiddordeb gan Gymry Cymraeg mewn nodweddion hanesyddol o’r fath a mae nodweddion Fictoriaidd yn aml yn rhai rydym wedi eu hosgoi neu eu hanwybyddu gan fod y naws yn aml iawn yn llai ‘Cymreig’ i bethau Fictoraidd.

http://stinkpipes.blogspot.co.uk/

https://www.flickr.com/groups/989635@N21