Rwyf newydd gyhoeddi fy ail gyfrol archaeoleg ‘Cam Arall i’r Gorffennol, safloedd
archaeolegol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a’r gororau’ sydd fel mae’r teitl
yn awgrymu yn canolbwyntio ar ardal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys.
Neu oleiaf gogledd Powys, da ni ddim yn cyrraedd Sir Frycheiniog yn y gyfrol
hon (Cyfrol 3 efallai?) ond daw dyfyniad
gwych Mike Parker o’i lyfr Real Powys, 2011,
(Seren) i’m meddwl bob tro byddaf yn trafod y canolbarth.
Cyfeirio at Llandrindod fel cyrchfan cynadleddau sydd “yr un mor anghyfleus i bawb” wnai
Parker. Wrth reswm does ganddo ond geiriau da go iawn am nodweddion hanesyddol Llandrindod
yn ei gyfrol ond mae’r hiwmor yma efallai yn cyffwrdd a’r rhai o’r pethau
ddaeth mor amlwg wrth i mi sgwennu’r ail gyfrol hon.
Y canolbarth yw’r lle hynny rydym yn gwybio trwyddo ar yr
A470. Efallai cawn baned sydun yn Machinations, Llanbrynmair, ond dim mwy na
hynny. Y canolbarth yw’r diwredd hyfryd honno sydd yn cael ei ‘ail-ddarganfod’
gan y genedl bob tro mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld a Mathrafal. Ond
mae yna bobl yn byw yno hefyd. Cefais fy magu yno.
Un feirniadaeth a gefais am fy nghyfrol gyntaf ar ogledd-orllewin
Cymru oedd fod cestyll tywysogion Gwynedd wedi cael eu hanwybyddu. Ddigon gwir,
y broblem fawr gyda’r gyfrol gyntaf oedd beth i’w gynnwys ac o ganlyniad – beth
i’w adael allan. Penderfynu canolbwyntio ar y cyfnodau cyn-hanesyddol wnaethom
yn y gyfrol gyntaf gan fod cymaint o safleoedd amlwg fel Bryn Celli Ddu,
Barclodiad y Gawres neu Dre’r Ceiri yn haeddu triniaeth.
Ond gyda’r ail gyfrol, doedd y safloedd ‘amlwg’ efallai
ddim mor amlwg a hynny. Dyma gyfle felly i edrych ar safleoedd ‘llai amlwg’ ac
wrth reswm tydi ‘llai amlwg’ ddim yn gyfystyr a ‘llai ddiddorol’. Ac o ystyried
y feirniadaeth a gefais am gestyll tywysogion Gwynedd dyma benderfynu yn fuan
iawn yn y broses sgwennu y byddai’n werth ymdrin a chestyll Ewlo, Caergwrle,
Dolforwyn a Charndochan.
Dolforwyn
Y cwestiwn amlwg wrth reswm yw faint ohonnom sydd yn
gyfarwydd a’r cestyll hyn? Faint ohonnom sydd wedi ymweld a nhw? Does yr un o’r
cestyll yma yn Safleoedd Treftadaeth y Byd, yr un ohonnynt yn denu 176,000 o
ymwelwyr yn flynyddol fel Castell Caernarfon, yr un hefo rampau ar gyfer
cadeiriau olwyn.
Cawn ‘feirniadaeth’ arall, un gyffredinol, ddigon amwys
neu anelwig go iawn, fod y cestyll Cymreig wedi cael eu hanwybyddu a fod
cestyll Edward 1 wedi hawlio’r holl sylw. Teimlais fod hyn yn rhywbeth oedd
werth ei drafod cyn i mi ymdrin a chestyll y tywysogion.
Defnyddiais y Rhagymadrodd fel y man trafod. Dyma yr wyf
yn ei ddweud am ‘anwybyddu’ y Cestyll Cymreig:
“Yn
y gyfrol hon, gobeithiaf ymhelaethu ar y safbwynt Cymreig − yn sicr bydd sylw
yma i’r cestyll Cymreig, sef y cestyll hynny a adeiladwyd gan y twysogion
Cymreig (tywysogion Gwynedd a Phowys) yn ogystal â safleoedd diweddarach
Glyndŵr. Dyma gestyll sydd wedi eu hanwybyddu − dyna i chi air dadleuol, yntê?
Dywed rhai cenedlaetholwyr fod Edward I a’i gestyll yn Harlech, Conwy,
Caernarfon a Biwmares wedi hawlio’r sylw i gyd, gan greu cyfle i roi y bai ar
‘rywun arall’ yn hytrach na holi pam i ni fod mor ddifater a di-hid am hanes
Cymru dros y blynyddoedd.
Gan fod cestyll Edward I yn Eryri yn
Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob
blwyddyn (dros 170,00 yn achos Caernarfon) efallai wir fod ‘yr holl sylw’
arnynt − ond chawn ni byth gwynion am y sylw (neu’r diffyg sylw) a roddir i
gestyll Edward I yn Fflint, Llanfair ym Muallt neu Aberystwyth. Go brin fod
mwyafrif teithwyr yr A470 hyd yn oed yn sylwi ar y domen gastell yn Llanfair ym
Muallt. Gellir dadlau fod y diffyg sylw i gastell Llanfair ym Muallt felly yn
enghraifft pellach o gastell yn cael ei ‘anwybyddu’, ond nid am y rheswm
arferol, sef ei fod yn gastell Cymreig, ond bod llai yno i’w weld neu lai yno i
fodloni’r ymwelydd cyffredin. Felly mae ’na gestyll Seisnig (a Normanaidd) yn
dioddef o ddiffyg sylw hefyd!
Rhaid derbyn bod cestyll Edward I yr
un mor berthnasol i hanes Cymru â’r cestyll Cymreig; maen nhw’n rhan allweddol
o hanes a rhaid wrth olwg wrthrychol a chynhwysfawr o’r hanes hwnnw os am
ddeall y cyd-destun llawn. Fedrwch chi ddim dewis a dethol pa rannau o hanes
i’w hadrodd heb ail-sgwennu hanes fel y gwnaeth y Sais: ‘History is written by the victors’ meddai Walter Benjamin. Ond, fe allwn arbenigo mewn rhai
meysydd, fe allwn ganolbwyntio ar agweddau gwahanol ac fe allwn ddechrau
perchnogi, neu ail-berchnogi, y cestyll Cymreig.
Rhaid
wrth ddealltwriaeth o Llywelyn Fawr a’r Brenin John – a rhaid wrth reswm wybod
am Siwan os am ymdrin â Chymru ar ddechrau’r 13eg ganrif, ac yn yr un modd does
dim posib trafod Llywelyn ap Gruffydd heb feddu ar wybodaeth am Harri III ac
Edward I a chanlyniad pellgyrhaeddol Rhagfyr 1282 i ni fel cenedl.
Rwyf yn hollol argyhoeddedig fod
rhaid i ni fel Cymry Cymraeg ailberchnogi pethau - boed yn siambr gladdu, yn
faen hir neu yn gestyll Llywelyn ab Iorwerth, ond yr wyf yr un mor
argyhoeddedig fod cwyno am Edward I neu feio gwahanol gyrff cyhoeddus neu’r
gyfundrefn addysg yn gwneud fawr mwy na hel esgusion. Dyna’r wers bob amser - ewch
am dro. Ewch i Ewloe i ddarganfod castell Llywelyn ap Gruffydd - does dim i’ch
rhwystro!”
Caergwrle
Rhywbeth arall oedd (a sydd) yn fy mhoeni yn
fawr am y byd archaeolegol yng Nghymru yw’r diffyg Cymraeg yn y maes. Dyma
rhywbeth anoddach I’w drafod achos rwyf yn son am fy ngyd-weithwyr ac yn aml fy
ffrindiau, ond fedra’I ddim peidio teimlo fod hin anodd os nad amhosib
gwerthfawrogi’r dirwedd hanesyddol ac archaeolegol yng Nghymru heb yr Iaith
Gymraeg.
Y ddadl arferol gennyf yw fod angen
dealltwriaeth o gerddi T.H Parry Williams os rydym am werthfawrogi’r dirwedd
hanesyddol yn ardal Rhyd Ddu. Tydi ‘archaeoleg’ ddim yn dechrau a gorffen ar
rhyw ddyddiadau penodol cyfleus. Mae olion materol dyn yn mynd yn nol dros 200,000 mil o flynyddoedd yn achos y
danedd Neanderthalaidd yn ogof Bontneywdd ger Llanelwy ond gallwn ddadlau hefyd
fod graffiti diweddar o arfbais tywysogion Gwynedd ger Castell Dolforwyn hefyd
yn ‘olion materol dyn’ ac os felly, o ddiffiniad, yn olion archaeolegol.
Unwaith eto dyma awgrymais o ran y diffyg
Cymraeg yn y maes:
O
ran y Gymraeg, rhaid bachu ar y cyfle i awgrymu fod unrhyw ymdrech i ddeall y
diwredd hanesyddol ac archaeolegol yng Nghymru heb fedru’r iaith, yn anorfod yn
arwain at olwg gul ar y dirwedd honno. Dwi’n dychmygu’r sefyllfa fel hyn: mae’r
di-Gymraeg yn eistedd yn yr ystafell ffrynt yn gwylio teledu du a gwyn, a’r siaradwyr Cymraeg yn cael
gwylio teledu lliw HD. Cymhariaeth ddigon teg – sut fedrwch chi werthfawrogi
Cymru yn gyflawn heb yr iaith? Dyma her i’r holl archaeolegwyr di-Gymraeg hynny
yng Nghymru: os yw Cymru mor bwysig â hynny, sut nad oes gwell ymdrech ymhlith
y proffesiwn i ddysgu’r iaith?
Yn Gymraeg mae rhegi – yn Gymraeg mae ’i
morio hi
Meirion Macintyre Huws
Efallai fy mod wedi camu i’r dirwedd ychydig fwy gwleidyddol
y tro yma. Anodd peidio wrth drafod y castell hynod hwnnw yng Ngharndochan ger
Llanuwchllyn. Bu tymor arall o gloddio archaeolegol yno Mis Medi dan ofan
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a fe gâf adrodd peth o’r hanes yn fy
ngholofn nesa ar gyfer Llafar Gwlad.
Anodd osgoi gwleidyddiaeth wrth drafod Castell Caergwrle,
wedi’r cyfan, o yma yr ymosododd Dafydd ap Gruffudd ar gastell Penarlag a’r
weithred honno ddechreuodd y rhyfel olaf rhwng tywysogion Gwynedd ac Edward I.
Yr ymosodiad yma ar Benarlag sydd yn arwain yn uniongyrchol at gwymp Llywelyn
ap Gruffudd yng Ngilmeru ym mis Rhagfyr
1282 – digwyddiad pellgyrrhaeddol sydd wedi ei naddu ar isymwybod pob Cymro ers
hynny.
No comments:
Post a Comment