Ffrind / cyd-deithiwr: Steve New (yn y Nefoedd bellach) - un o'r rhai da.
Y tro dwetha i mi edrych roedd gennyf 4,172 o ffrindiau ar Facebook. Rwan cyn i bawb chwerthin yn uchel, gaf i eich sicrhau nad wyf mor boblogaidd a hynny – dydi’r rhan fwyaf o rhain ddim yn ‘ffrindiau’, yn sicr ddim yn ‘ffrindiau go iawn’. Go brin fy mod yn nabod hanner nhw (os nad tri chwarter nhw?). Does gan neb gymaint a hunna o ‘ffrindiau’.
Pam felly? Wel, ers y dechrau, o fy safbwynt i, roedd
Facebook yn ffordd o gael gwybodaeth allan, boed hynny am rhyw gromlech neu
faen hir, neu er mwyn postio Blog o’r golofn hon neu fel sydd yn digwydd yn
ddiweddar – yn ffordd o hywrwyddo fy sioe radio BBC Radio Cymru bob nos Lun.
‘Busnes’ dwi’n ei alw o. Felly reit o’r dechrau un,
roeddwn yn edrych ar Facebook fel llwyfan arall ar gyfer hyrwyddo fy ngwahanol
weithgareddau, fel ffordd o rannu syniadau, fel ffordd o drio ysbrydoli pobl,
fel rhan o’r chwyldro diwylliannol ehangach.
Yn hyn o beth, efallai fod Twitter yn well cyfrwng. Yr
oll sydd yn digwydd gyda Trydar yw fod rhywun yn ‘dilyn’ rhywun. Felly gallwch
weld sylwadau rhywun ond does neb yn honni bod yn ‘ffrindiau’. 3,908 o ddilynwyr sydd gennyf ar Trydar. Tydi
hynny ddim yn fy mhoeni gymaint. Efallai mai ‘dilyn’ mae canran uchel o ‘ffrindiau’
Facebook hefyd mewn gwirionedd.
Ond mae’r ddau lwyfan yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Nôl
a ni at yr elfen busnes. Mae angen bod yn trydar a rhoi rhywbeth ar Facebook os
am ddenu pobl i’r gig nesa, y daith gerdded nesa neu i wrando ar y rhaglen
radio nesa. Does dim dwy waith fod rhywun yn treulio gormod o amser ar y
cyfryngau cymdeithasol – ond os dwi’n cael gwaith allan o’r peth mae o werth yr
amser. Dyna batrwm bywyd gwaith bellach.
Mi ges sgwrs yn ddiweddar hefo merch gymharol ifanc a ‘hynod
ddeniadol’ a dyma hi’n dweud ‘da ni yn ffrindiau ar Facebook’. Dwi’n dweud ‘hynod
ddeniadol’ yn ofalus iawn yma. Petae rhywun yn nôl yn nyddiau ysgol fydda rhywun fel hi rioed di sgwrsio hefo rhywun fel fi. Ond rwyf yn hapus briod a
ddim yn edrych. Heblaw mae ‘fi ydi Rhys Mwyn’, go brin fydda’r sgwrs yna erioed
di digwydd – priod neu ddim, heddiw na ddoe.
Doedd gennyf ddim syniad bod ni’n ‘ffrindiau Facebook’.
Doedd gennyf ddim syniad pwy oedd hi. Ymdrechais i fod yn gwrtais a phroffeisynol
ond rhywsut llithrais a chyfaddef mai rhywbeth busnes ydi Facebook i mi. Dwi
ddim yn nabod y rhan fwyaf o’r 4,172 meddais gan ddifaru fod hyn yn gwneud mi
swnio’n braidd yn ffwrdd a hi.
Wedi dod yn ‘ffrindiau’ Facebook ar ôl un o fy narlithoedd
oedd y ferch yma. Rhaid fod hi wedi gwneud y cais a finnau wedi derbyn gan fod
nifer o ffrindiau cyffredin gennym. Ond, dyna’r pwynt, nes i ddim hyd yn oed
sylwi wrth dderbyn y cais. Roedd hi wedi mwynhau fy sgwrs meddai. Rwyf yn ddiolchgar
am hynny. Mwy na thebyg na’i byth weld na sgwrsio hefo’r ‘ffrind’ yma eto.
Efallai y dyliwn bori drwy’r 4,172 a gweld faint ohonnynt
y gallwn eu hystyreid yn rhyw fath o ‘ffrindiau’. Dwi rhy brysur. Awgrymodd un ‘ffrind’
Facebook sydd mewn gwirionedd yn gyd-weithwraig fod angen dau Facebook arnaf –
un personol ac un busnes. Rhy hwyr!
A bod yn onest nes i rioed feddwl am Facebook fel ffordd
o gysylltu a ‘hen ffrindiau’ ond fe wawriodd fod hynny yn bosibilrwydd a do, fe
gysylltais a thair o fy hen gariadon. Roedd yn braf ail gysylltu a fe lwyddom i
gadw mewn cysylltiad (dim mwy/dim llai).
A bod yn onest dwi am aros ar Facebook ar gyfer ‘busnes’.
Os oes yna ffrindiau go iawn yna does dim angen Facebook nagoes.
Dwi di bod yn darllen M Train, Patti Smith, yn ddiweddar a'r profiad yma ysgogodd yr ymdrech uchod i sgwennu rhywbeth ychydig bach fwy cignoeth ac amrwd na'r arfer ar gyfer yr Herald Gymraeg
No comments:
Post a Comment