Cledwyn Jones (Triawd y Coleg)
Peth braf yw cael sgwrsio, a digwydd bod dros y bythefnos
dwethaf rwyf wedi bod digon ffodus i gyfarfod pobl hynod ddiddorol a wedi
llwyddo i droi y cyfle mewn i sgwrs. Roeddwn wedi derbyn gwahoddiad i roi sgwrs
i Glwb Probus, Dinas Bangor, yn y Fic Porthaethwy ar ol eu cinio Dolig a dyma ddarganfod wrth
gyrraedd fy mod i eistedd drws nesa i Cledwyn Jones (Triawd y Coleg). Roedd hyn
wedi ei drefnu yn fwriadol gan aelodau’r clwb gan fod Cledwyn a finnau wedi bod
(ar wahanol adegau) yn gysylltiedig ar Byd Canu Pop / Poblogaidd Cymraeg.
Felly, rhaid eu bod yn disgwyl ni sgwrsio am ganu, ond i’r
gwrthwyneb treuliwyd yr awr dros ginio yn trafod hanes Dyffryn Nantlle, hen
lyfrau fel un William Ambrose ‘Nant Nantlle’
ac un o feibion Nantlle a ymunodd a’r IRA ym 1916. Dim gair am ganu pop! A
dweud y gwir, roeddwn bell rhy ‘starstruck’
i gychwyn trafod Triawd y Coleg, er fy mod newydd gael copi o’r EP Welsh
Teledisc gan y grwp yn ddiweddar gan rhywun o Fôn oedd yn cael gwared o bentwr
o recordiau feinyl 7”. Yr EP yma sydd yn cynnwys y clasuron ‘Hen Feic Peni
Ffardding’ ac wrthgwrs ‘Triawd y Buarth’.
Mae Triwad y Coleg yn rhan allweddol o haes canu poblogaidd
yn y Gymraeg – o bosib, y nhw oedd y ‘grwp pop cyntaf Cymraeg’. Yn sicr mae eu
dylanwad yn bell gyrhaeddol. Uchafwbynt y prynhawn i mi oedd cael llun hefo
Cledwyn.
Sgwrs arall ddaeth yn sgil rhoi sgwrs i Ferched y Wawr,
Rhosmeirch, wrth i un wraig yn y gynulleidfa ddatgan iddi gael ei geni yn yr
union dŷ lle rydym yn byw nawr yn Twthill, Caernarfon. Wel dyna chi ddiddorol,
felly doedd dim dewis ond rhoi gwahoddiad iddi draw i’r tŷ am gacan a phanad.
Er i ni dreulio rhai misoedd yn trio trefnu dyddiad cyfleus, fe ddaeth y cyfle
i Olwen ymwled a’i hen chartref a threfnais innau fod rhai o drigolion eraill
Twthill yn cael gwahoddiad i rannu atgofion – ac i ddysgu dipyn mwy am hanes eu
tai.
Chwalwyd rhannau o Twthill gan y ‘ffordd-osgoi’ ac yn amlwg
roedd atgofion gan Olwen am y strydoedd oedd yn cysylltu Twthill a thref
Caernarfon ond yn fwy diddorol oedd yr atgofion am yr holl siopau, pob un
heblaw ‘Siop Malcolm’ a ‘Siop Chips Twthill’ bellach wedi diflannu. Dyma
sgwrsio am oes o’r blaen a threuliwyd pnawn Sadwrn hyfryd yn tywys Olwen o
amgylch y tŷ, yn gwneud nodiadau a chael gwybod am beth oedd defnydd yr
ystafelloedd yn ystod ei ieuenctd – yn y 1930au.
Rhaid cyfaddef fy mod wedi teimlo yn freintiedig i gael
cwmni Olwen am ddwy awr fel hyn. Ganed hi yma yn y tŷ dros 80 o flynyddoedd yn
ôl – dyna’r ffaith oedd wedi creu’r argraff fwyaf ar yr hogia. ‘Tŷ ni’ ydi’r tŷ
iddynt felly roedd yn beth od mewn ffordd iddynt gyfarfod rhywun oedd wedi ei geni a’i magu yma bell cyn ein bodolaeth ni.
Rhywbeth arall ofnadwy o ddiddorol oedd atgofion Olwen o 'Amsar Rhyfal', gan son am efacwis, ac ymarferiadau ar sut i loches yn y seleri
yn Twthill oes oedd y ‘Jyrmans’ yn gollwng bomiau. Atgoffwyd ni yn uniongyrchol
o effaith yr Ail Ryfel Byd gan fod y ‘relings’ haearn i gyd wedi eu cymeryd o
flaen y tŷ pryd hynny a ni wedi cael ‘relings’ newydd yn y 1990au.
Heb os roedd y teimlad o fod yn lwcus iawn ac yn freintiedig
i gael y sgyrsiau gyda Cledwyn ac Olwen yn rhywbeth roeddwn yn hollol ymwybodol
ohonno. Mi nes i fwynhau cymaint - dyda’ni ddim yn sgwrsio ddigon rhywsut
dyddiau yma.
No comments:
Post a Comment