Ychydig dros wythnos yn ol roedd erthygl yn y Guardian
(Tachwedd 20) am daith gerdded neu daith dywys ‘seico-ddaearyddol’ wedi ei
harwain gan yr awdur a’r seico-ddearyddwr Wil Self o amgylch dinas Bryste. Fel
y gwyddoch, seico-ddaearyddiaeth yw’r ddamcanaiaeth neu’r ddisgyblaeth (os yw
hynny yn bosib?) o grwydro’r strydoedd Dinesig a darganfod y lle. Roedd Self
wedi gorfodi ei gynulleidfa i roi eu gwynebau yn erbyn wal er mwyn ‘teimlo’ a ‘phrofi’
y lle. Hawdd chwerthin, mae Self yn ddipyn o gymeriad, ond mae modd cymeryd
rhywbeth o hyn, ac un peth gall pawb ei wneud yw trio ymweld a rhywle newydd
neu gwahanol pob tro mae rhywun yn teithio.
Does dim o’i le ac ail ymweld a llefydd chwaith, ar yr
ail-ymweliad mae pethau yn gallu bod yn fwy amlwg, mae’n haws dehongli, mae
rhywun yn gallu prosesu pethau yn well. Un awgrym ar gyfer Caerdydd yw mentro
fyny i bentref Llandaf er mwyn ymwled a’r Gadeirlan. Beth bynnag sydd yn denu
rhywun i Gaerdydd, boed yn waith, cyfrafod, cynhadledd, chwaraeon, cyngerdd mae’n
werth felly creu ychydig o amser i weld (ymweld a) rhywbeth arall – a’r Eglwys
Gadeiriol sydd dan sylw yr wythnos hon.
Wrth ymweld a’r eglwys gadeiriol cawn gasgliad bendigedig (5
ohonnynt) o ffenestri lliw o wneuthuriad William Morris & Co. Gall yr
ymwelydd fwynhau’r ffenestri yma yn yr un ffordd a mae’r ymwelydd yn mwynhau
darnau o gelf mewn Oriel neu Amgueddfa. Cawn hyd i’r ffenestri ar hyd ystlysau deheuol
a gogleddol yr eglwys. Hawdd eu hadnabod achos mae’r naws ‘Cyn-Raffaelaidd’ mor
amlwg.
Fel arfer, rydym yn son am ffenestri lliw o wneuthuriad
Morris & Co, ond yn amlach na pheidio y cynllunydd yw Edward Burne-Jones, a
mae cynlluniau Burne-Jones yn amlwg yn Llandaf. Ond yma cawn hefyd engreifftiau
o waith Ford Madox Brown, sydd yn llai cyffredin ar ffenestri lliw, er gallaf
feddwl am ffenestr sydd yn cynnwys ei waith (cartwns) yn Llanllwchaearn ger y
Drenewydd. Lluniau o Seimon a Jiwdas yn un o ffenestri’r Ystlys Ogleddol yw
rhai o waith Madox Brown.
Un arall o arlunwyr y frawdoliaeth Cyn-Raffaeliaid yw Dante
Gabriel Rosetti ac yn Nghapel Euddogwy cawn engraifft gwych o’i waith ar ffurf triptych
wedi ei beintio rhwng 1856 ac 1864. Cawn lun o’r genedigaeth a Dafydd Frenin
ond yn ddiddorol iawn, a fel sydd mor gyffredin gyda’r Cyn-Raffaeliaid,
defnyddir wyneb William Morris ar gyfer Dafydd Frenin a wyneb Burne-Jones ar
gyfer y bugail sydd yn cyfarch yr Iesu. Yn yr un modd mae bron pob merch
ganddynt yn seiliedig ar Janey Morris neu Lizzy Siddal, sef y merched glaer-wyn
walltgoch sydd mor amlwg yn rhan o waith y Cyn-Raffaeliaid.
Gellir dadlau fod yn werth ymweld ar eglwys gadeiriol er
mwyn gwerthfawrogi triptych Rosetti yn unig. Bonws hyfryd yw cael y ffenestri
lliw. Ond yn Eglwys Gadeiriol Llandaf mae darn arall o waith sydd yn gorfod bod
yn un o’r darnau gorau gan y Cyn-Raffaeliaid erioed – a hwn yw’r ceflun seramig
gan Burne-Jones. Cerflun ar ffurff paneli porslen tu cefn i’r allor yng Nghapel
Dyfrig yw’r gwaith yma yn dangos Chwech Diwrnod y Greadigaeth. Does ’na ddim
panel ar gyfer Dydd Sul yn amlwg! Eto cawn wyneb a wynebau Janey Morris (dybiwn
i) yn disgleirio yn llythrenol oherwydd y proslen. Dyma chi ddarn o waith celf
sydd yn wirioneddol rhyfeddol a bendigedig, mor agos i berffeithrywdd neu yn
sicr mor agos i berffeithrwydd a sydd angen bod.
Awgrymaf fod Burne-Jones ar ei orau yma, ac amlygir y ffaith
fod stiwdios William Morris yn feithrinfa i grefftwyr ac i wneuthuriad yn
ogystal a chreadigwrwydd a chelf. Hyfryd bethau go iawn, dyma ‘ddarn’ lle
gallwch dreulio amser yn hawdd yn rhyfeddu ac ymgolli. Heb os roedd y
cymeriadau yma, Morris a Burne-Jones, yn ddynion gyda gweledigaeth a’r gallu ganddynt
i wireddu’r weledigaeth honno. Rhyfeddol.
Er cymaint mae Llandaf yn bererindod bwysig i ddilwynwyr
celf y Cyn-Rafaeliaid mae’r safle hon hefyd yn byrlymu o nodweddion arall diddorol.
Tu allan i’r eglwys yn y wal dde-orllewinol cawn engraifft wych o ddrws gyda
bwa patrymog Normanaidd (Romanesque) yn dyddio i’r 12fed ganrif. Yr hyn sydd
hyd yn oedd yn fwy rhyfeddol am y drws / bwa yma yw’r ffaith iddo wrthsefyll
bom Almeinig ym 1941. Dwi ddim yn hollol siwr beth oedd tranc y ffenestri lliw
yn ystod yr Ail Ryfel Byd?
Ac yn olaf, a dyma chi brofiad gwefreiddiol, wrth gamu i mewn
i’r eglwys drwy’r drws gorllewinol mae rhywun yn edrych ar hyd yr eglwys. O’n
blaen mae cerflun y ‘Majestas’ (Mawredd
Crist) gan Jacob Epstine (1957). A dyna chi un o ryfeddoadau Cymru. Arhoswch ar
y grisiau cyn camu i mew n achos dyma’r lle gorau i werthfawrogi gwaith Epstein.
Hyfryd. Hollol hyfryd.
Anghofiwch seico-ddaearyddiaeth a Wil Self am funud. Mae
modd crwydro i bwrpas. Dyma daith sydd werth ei gwneud pan ddaw’r cyfle –
cymerwch y cyfle hynny!
No comments:
Post a Comment