Rhwng Nefyn a
Botwnnog, mae’n swnio fel penod mewn llyfr teithio, ond dyna yn union oedd fy
mhrofiad Llun dwetha. Roeddwn wedi gorffen fy ngwaith yn Nefyn yn tywys criw
‘Heneiddio’n Dda’ i weld cromlech Cefn Amwlch ac eglwys hynafol Penllech. Dim
ond 4 o’r gloch oedd hi wrth i ni gyrraedd yn ol i Nefyn, a doedd y cyfarfod
nesa ym Motwnnog ddim tan 6-30 yr hwyr, felly roedd gennyf ddwy awr go dda i’w
“wastraffu” fel mae rhai pobl yn ei ddweud.
Ond yn amlwg, mewn rhan mor
brydferth o’r wlad, mewn ardal sydd mor gyfoethog o hanes a henebion, sut yn y
byd gallai rhwyun hyd yn oed ystyried “gwastraffu” awr neu ddwy ? Yn union, y cwestiwn felly oedd sut i
dreulio’r ddwy awr yma yn y modd mwyaf cynhyrchiol neu bleserus ? Dwi ddim yn
berson “gwastraffu amser” beth bynnag, ond rhag i unrhywun gam ddeall, byddai
treulio’r amser yn crwydro’r Llwybr Afordir neu un o draethau Llyn ddim yn cael
ei ystyried yn wastraffu amser wrth reswm.
Dewis eglwys nes i yn y diwedd,
dewis ddigon hawdd, gan gofio fod Eglwys Llangwnnadl yn un dwi ddim wedi cael y
cyfle i’w thywyllu na’i hastudio yn fewnol. Llangwnnadl gyda dwy ‘n’ er fod yr
arwydd ffordd wedi colli un a’r arwydd pentref yn gywir. “Llangwnnad” ar lafar
i gymaint ond wedyn dwi’n un a ddysgodd y ffordd galed fod Cefn Amwlch yn Cefn
Amwlch yn hytrach na’r enw am y porthladd ar Sir Fon, ac eto dydi hynny ddim i
weld yn poeni pob yn ail person chwaith, hyd yn oed ar Llyn.
Sant
Gwynhoedl sydd yn rhoi ei enw i’r eglwys ac yn ddiddorol iawn mae ei garreg
fedd a ddarganfuwyd ger Llannor yn y 1830au i’w gweld heddiw yn y fynedfa i
Blas Glyn y Weddw. Treuliodd y garreg gyfnod yn yr Ashmolean yn Rhydychen ond yn wahanol
iawn i famor Elgin mae’r garreg wedi cael dychwelyd adre – ar fenthyciad parhaol.
Cyfeillion Llyn a disgynydd o deulu Tir Gwyn, lle darganfuwyd y garreg, Gareth
Williams ymgyrchodd i sicrhau hyn ddechrau’r 90au.
Mae’n
atgoffa rhywun o hanes Coron Enlli, eto ar fenthyciad parahaol i Amgueddfa
Gwynedd (gan yr Amgueddfa Forwrol yn Lerpwl lle mae casgliad Argwydd Niwbwrch).
Gwych, os di’r amgueddfeydd Seisnig ddim am eu harddangos mi wnawn ni yma yng
Gwynedd a chroeso ! Fe sgwenais dro yn ol mae ‘Coron Enlli’ yw fy hoff wrthrych
yn Amgueddfa Gwynedd.
Enw
‘Vendesetli’ yw’r enw ar y garreg, ffurf cynharach o’r enw Gwynhoedl a mae
carreg arall o Lannor sydd hefyd ym Mhlas Glyn y Weddw yn garreg fedd i Eterni
neu Etrenus syddyn rhoi ei enw i bentref Edern ger Nefyn. Mae’r ddwy garreg yma
yn cael eu hadnabod fel y Cerrig Penprys. Y tebygrwydd yw fod y cerrig bedd yma
o’r 5ed neu 6ed ganrif wedi cael eu ail ddefnyddio wedyn i ffurfio cist-fedd, a
dyma ddarganfuwyd ar Gae Maen Hir, Ty Gwyn, enw diddorol os nad priodol i gae
os fu un erioed.
Oddi
fewn i Eglwys Gwynhoedl dyma chwilio yn gyntaf am y garreg a’r groes arni.
Deallais fod y garreg ar y wal ddeheuol ond disgwyliais garreg yn sefyll yn
rhydd efallai yn erbyn y wal, cyn sylweddoli fod y garreg yn y wal, yn
llythrennol ac ar uchder pen neu ysgwydd rhywun. Mae croes wedi ei lliwio yn
goch i’w gweld. Pam mor hen di’r coch, wel dyna chi gwestiwn da a phwy a wyr
faint sydd wedi ail beintio’r garreg dros y canrifoedd ?
Carreg
weddol ddi-siap ond o faint sylweddol yw hon ac mae modd awgrymu gan ein bod ar
Lwybr y Pererinion yma ar ochr ogleddol Llyn fod hon yn un o’r cerrig oedd yn
cyfeirio’r pererinion ar hyd y llwybr tuag at Enlli ? Mae’n dibynu os oedd y
garreg yma yn rhydd cyn iddi cael ei chynnwys yn wal ddeheuol yr eglwys, a
phryd yn union cafodd y wal ddeheuol yma ei godi neu ei ail godi ?
Yn
sicr mae dwy engraifft o gerrig hefo croes arnynt ar hyd Llwybr y Pererinion,
un ger Pistyll yn dyddio o’r 8-9fed ganrif ac un arall tebyg iawn ger Capel
Uchaf. Mae’r engreifftiau yma o groes o fewn cylch ac efallai fod carreg groes
Llangwnnadl yn gynharach yn dyddio o oddeuto 600 oed Crist.
Methais
a chael hyd i Gloch Sant Gwynhoedl, cloch o gopr sydd yn dyddio o’r 9fed
ganrif, neu’r copi, gan fod y gwreiddiol yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng
Nghaerdydd (dwi ddim yn ceisio dechrau dadl yma). ’Es yn ol i’r car i nol fy
‘specs’ ond aflwyddianus eto, sgwni os yr oeddwn yn edrych yn y lle anghywir ?
Fel byddaf yn ei ddweud bob amser, dydi cael esgus i ddod yn ol am dro rhywbryd
eto ddim yn beth drwg felly.
Erbyn
hyn roedd yr awydd am eistedd am ychydig yn yr Haul yn cydio a dyma daro ar
draws garreg fedd Owen Griffiths, Pencraig, ‘meddyg hynod y ddafad wyllt’. Arni
roedd englyn gan Bodfan, a ninnau wedi edrych ar ei garreg fedd yntau yn
gynharach yn y dydd ym mynwent Eglwys Penllech. Son am gymeriadau, Bodfan yn ol
y son yn ymdrochi yn y mor yn ddyddiol, bob tywydd, a hynny yn ei yrru i’w fedd
yn y diwedd a Owen Griffiths o’r teulu hynod yna gyda’r gyfrinach
feddygyniaethol yn mynd o dad i fab.
Da
ei fywyd fu Owen – distaw oedd
Dyn
di-stwr; digynnen
Gwnaeth
fawrdda i Walia wen
Cafodd Nain, Gwen, ei geni a'i magu yn Llangwnnad, a phriododd hi Glyn Owen (yntau o Rostryfan) yn yr eglwys. Dyluniwyd y giat haearn hefyd gan berthynas i mi, ond yn anffodus sgen i ddim cof pwy rwan. Dyma lun: http://www.flickr.com/photos/nwdls/133371124/
ReplyDeleteMae Ty Duw wedi ei sgwennu ar y giat haearn.
ReplyDelete