Yoko Ono
ddywedodd yn ddiweddar “Energy is so important, if you don’t have it, don’t
bother with rock and
roll”. Ddigon teg, ddigon gwir ond beth yn union yw “egni” yng nghyd destyn
rock’n roll, am beth yn union mae Yoko yn son ? Dwi’n cytuno a Yoko gyda llaw,
cytuno 100% a mwy, hyd yn oed os dwi ddim yn siwr sut mae hi yn diffinio “egni”
a byddwn wrth fy modd yn rhoi y CD yma iddi, ‘Caneuon Protest’ a dweud “go on
then Yoko which ones have it, never mind the Language, just listen to the vibes
?”
Beth yw’r
gwahaniaeth felly rhwng ‘egni’ ac ‘angerdd’, ac, a oes modd canu caneuon
protest heb egni neu angerdd neu’r ddau ? Ar y llaw arall, oes pwynt i egni heb
rhywbeth werth ei ddweud ? Oes modd gwneud pwynt gwleidyddol hefo llais /
lleisiau neis neis, rinki- tink piano a clarinets a hynny heb unrhyw awgrym o
egni ? Mwy o gwestiynau nac atebion….. efallai ……. mae hwn yn gasgliad amrywiol
yn gerddorol ond mae rhyw ddolen gyswllt o ran y neges – dwi’n meddwl.
Mae’n
beth rhyfedd, a mae’r drafodaeth uchod yn berthnasol, achos mae canu poblogaidd
/ Pop Cymraeg wedi ei wreiddio mewn caneuon protest, yn sicr y cyfnod yna ar
ddiwedd y 60au, peintio arwyddion ffyrdd, Arwisgo ’69 a’r catalydd mawr, dylanwad
a chysgod hir, dwr oer Tryweryn ’65 – dyna lle mae’r peth yn cychwyn go iawn.
Rhywbryd yn y cyfnod mae canu ysgafn yn ceisio troi mewn i rhyw fath o “ganu
pop”, Mae Dafydd Iwan, Chwyldro, Huw Jones yn sylweddoli fod angen pontio. Mae
nhw’n lleisio yn ysgafn hyd yn oed pan mae’r neges yn gryf. Nid dyma Woody Gurthrie na Bob Dylan yn
Gymraeg chwaith, mae nhw’n dal yn mynnu cadw cysylltiad a’r Noson Lawen a’r canu
ysgafn.
Dydi hyd
yn oed ferswin Stevens o ‘Tryweryn’ ddim y fersiwn gora, eto mae’r llais fel
petae yn dal yn ol ac yn methu’r math o watwareg fydda Guthrie neu Dylan wedi
ei gyfleu yn lleisiol. Efallai fod angen bod dipyn mwy blin i ganu caneuon
protest, llai o Glanllyn a mwy o Greenwich Village, ond eto, dydi hyn ddim yn
broblem i Plethyn sydd yn canu pawb arall dan y bwrdd ar “Tan yn Llyn”.
Efallai mae’r
engraifft gora ar y CD o leisydd sydd yn methu canu ac o ganlyniad yn tanseilio
holl neges y gan yw lleisydd Hergest ar “Dewch i’r llysoedd”. Wedyn mae’r
piano’s rinki-tink ar rhai o’r caneuon yn ddigon i mi fygwth siarad Saesneg am
benwythnos mewn protest. Dwi bron a
gweiddi ar Yoko, “I’m going to speak English for a weekend as a protest art
instillation kind of thing – can I borrow your bed ?”
Daeth
achubiaeth. Dyma boeri geiriau allan. Diolch byth. Dyna sydd ei angen ar y CD yma, ychydig o
angerdd ac egni medda ni, “N.C.B” gan Llygod Ffyrnig, “Cymru., Lloegr a
Llanrwst” gan y Cyrff, oleiaf mae rhywun yn coelio fod rhain o ddifri. ‘NCB’
yw’r gan fwyaf amrwd yn yr Iaith Gymraeg, can sydd yn adlewyrchu diwylliant a diwydiant y Cymoedd, pyllau glo
Cwm Tawe a dyfodol o ddi-weithdra neu o ansicrwydd ar y gora. A’r Cyrff, wel
mae’r hogia yna yn gwybod be di tiwn, Trac 1, Ochr 1 haeddianol.
Efallai
mae Edward H sydd yn haeddu’r clod am groesi’r bont go iawn, y nhw sydd yn rhoi
y “rock’n roll” i mewn i’r Byd Pop Cymraeg a gyda “Ty Haf” er mor ddychanol
yw’r gan dydi’r band ddim yn llithro lawr y llwybr llithrig yna a throi y gan i
mewn i rinki-tink-jazz neu beth bynnag arddull mae llawer gormod o artistiaid yn
arddel ar y CD yma. Diolch byth fod Edward H fel y Tepot Piws yn amrwd, mae’n
gweddu i’r neges.
O ran
“cool” mae Jarman yn serenu gyda “Cenhadon Casineb” ac heb os mae hygrydedd a
Maffia Mr Huws yn gorwedd yn yr un gwely. “Da ni’m yn rhan” gan Maffia, can
arall sydd a tiwn a neges a rhywsut mae rhywun yn gweld y datblygiad o Edward H
drwy Jarman ac ymlaen at Maffia – mae nhw oll hefo rhywbeth i’w ddweud ond
dwi’n credu byddai Yoko yn cytuno fod ganddynt egni ac angerdd hefyd. Efallai
dylia Sain fod wedi rhoi y stwff fwy rock’n roll ar un CD a’r stwff ysgafn ar
CD arall ?
“I’m
just explaining Yoko that I would like to re-arrange the CD into Energy Side
and Lack of …. Side when you have finished
your analysis of all the tracks”.
Cwestiwn arall
sydd rhaid ei ofyn yw lle mae’r artistiad ifanc ? Rwan, derbyn mae casgliad yw
hwn, sef fod Sain wedi rhoi traciau at eu gilydd sydd yn bodoli yn barod i greu
y CD yma ond mae ganddynt artistiad ifanc newydd cyfoes yn rhywle siawns ar
Rasal neu Gwymon onid oes, ond efallainad ydynt yn canu caneuon protest ?
Dwi angen
arall-eirio un o linellau Strummer yn fan hyn “Why not phone up Dyl Mei and ask
him for some good quotation”. Dwi ddim yn gwybod os yw artistiad ifanc Sain yn
canu caneuon protest, peidiwch a gofyn i mi, dwi’m yn rhan o’u gem bach nhw fel
’sa Maffia yn ddweud. Yr unig beth diddorol dwi wedi weld yn ddiweddar yw band
o’r enw Y Ffug yn newid llun wal Tryweryn i ‘ang ofiwch’ (sic) ar gyfer gwaith
celf y band.
Dwi heb glywed
caneuon Y Ffug eto ond ar sail y llun yn unig mae nhw wedi gwneud datganiad
KLFaidd sydd yn fwy perthnasol i’w cenhedaleth nhw na unrhywbeth ar y CD yma.
Os oes yna ganeuon protest allan yna heddiw, mi fydd y caneuon hynny ar label
Afiach nid ar label Sain felly ewch allan i wrando ar Radio Rhydd, Afal Drwg
Efa neu Lembo ……
Rhys Mwyn
No comments:
Post a Comment