Monday 28 May 2018

Herald Gymraeg 16 Mai 2018 Digwyddiadau Mai 68



Chwech oed oeddwn’i yn 1968, felly dwi ddim yn cofio digwyddiadau Mai 1968 o gwbl. Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd effaith y digwyddiadau ym Mharis a rhannau eraill o Ffrainc ar gymedithas cefn gwlad Sir Drefaldwyn lle cefais fy magu. Efallai y dyliwn holi? Efallai dyliwn edrych ar rifynnau o’r Daily Post yn ystod Mai 1968?

Deng mlynedd yn ddiweddarach roeddwn yn dechrau clywed am y ‘Situationists Internationale’ a fu’n rhan o’r chwyldro yn ystod Mai ’68. Ond nid mewn llyfrau hanes y dysgais amdanynt ond drwy recordiau pop y Sex Pistols. Rwan. rwyf yn ymwybodol iawn fy mod wedi cyfeirio at y Sex Pistols a Punk Rock dros y blynyddoedd yn y golofn hon – efallai hyd at syrffed – ond dyma lle cefais rhan bwysig o fy addysg.

Dwi ddim yn cofio (nac yn gwybod) am unrhwyw grwp pop Cymraeg a ganodd am ddigwyddiadau Paris. Tueddu i ganu am y frwydr iaith ac am Gymru oedd grwpiau Cymraeg y 1960au hwyr a’r 1970au cynnar. Ddigon teg ac ofnadwy o bwysig ond roedd rhaid aros tan Geraint Jarman er mwyn cael edrych tu hwnt i ffiniau Cymru. Canodd Jarman am Amsterdam a Berlin. Diolchaf iddo.

Efallai mai record Steel Pulse ‘Ku Kluk Klan’ (1978) oedd un o’r gwerslyfrau pwysicaf. Dyma ni yn Sir Drefaldwyn ac yn dallt hi – roedd hiliaeth yn anghywir, yn wrthyn. Y wers nesa oedd ‘Glad To Be Gay’ (1987) gan y Tom Robinson Band neu TRB fel oedd pawb y neu galw. Dyma ni yn Sir Drefaldwyn yn dallt fod bod yn hoyw yn OK.

Digon o waith fod grwp Cymraeg o’r cyfnod wedi canu unrhywbeth mor agored a chân TRB. Dwi dal i fyw mewn gobaith fod na rhywbeth Cymraeg yn bodoli a mai fi sydd heb ddod ar ei draws eto. Ond, fedra’i ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd y ddwy record yma o ran fy ‘addysg gwleidyddol’. Roedd The Clash yn rhannu llwyfan gyda grwpiau reggae, roedd John Lydon bob amser yn sôn am ei hoffter o gerddoriaeth ‘dub’. Dyma ni yn 1978, Sir Drefaldwyn yn dallt hi.

Rheolwr y Sex Pistols oedd Malcolm McLaren, ei bartner oedd y cynllunydd dillad Vivienne Westwood. Adran gelf y Pistols oedd y cynlluynydd graffeg Jamie Reid. Bu cryn ‘fenthyg’ ar syniadaeth a delweddau’r Situationist Internationale gan Malcolm a Jamie. Yn ei ffordd roedd Vivienne hefyd, ac yn parhau i fod felly hyd heddiw, yn ‘Situationist’.

Beth bynnag oedd cryfderau’r gerddoriaeth yn eiriol neu o ran sŵn guitar Steve Jones rwyf yn dal i ddadlau fod syniadau Malcolm, dillad Vivienne a chelf Jamie wedi bod yr un mor bwysig i mi a chaneuon y Pistols. Cyflwyno rhywun i gelf a syniadaeth celf oedd y triawd yma. Ysbrydoli rhywun i greu. Ysbrydoli rhywun i ddysgu a gwthio pethau y neu blaen. Nawr roedd angen trawsblanu’r syniadau i’r ardd Gymreig.

Sawl gwaith cefais y cyfle i ganu ym Mahris gyda’r Anhrefn. Digwyddiadau Mai 68 a dylanwad Jamie Reid yn benodol arweiniodd at eiriau ‘Rhedeg i Paris’. Sion fy mrawd sgwennodd yr alaw, fi sgwennodd y geiriau. Galwad oedd yma i ni ddefnyddio dylanwadau Paris ’68 er mwyn gweithredu yng Nghymru. Ymdrech oedd yma i greu maniffesto a ffordd newydd o edrych ar weithredu yng Nghymru.

Hanner canrif yn ddiweddarach, a yw digwyddiadau Mai ’68 yn berthnasol? Ydynt os oes modd dysgu ohonynt a’u defnyddio fel ysbrydoliaeth i weithredu heddiw.Fel gwers hanes yn unig – dyna’r ôll fydd y digwyddiadau. Rhaid iddynt ysbrydoli os am fod yn berthnasol.
Bu gŵyl ‘Ffilm Mai 68’ yng nghanolfan Pontio dros benwythnos Gŵyl y Banc Mai. Wedi ei guradu gan Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst) cafwyd gwledd o ffilmiau radical / chwyldroadol o’r 1960au. Llwyddais i weld ‘Weekend’ gan Jean Luc Godard (1967) a ‘Daises’ gan Vera Chytliova (1966).

Ffilmiau heriol ar adegau, doniol ar adegau eraill. Ffilmiau o’r 1960au heb os, lliwiau’r 60au, seicadelia’r 1960au, rhyw y 1960au. Nid gwylio cyfforddus mo hyn. Profiad yn fwy na phleser er fod cryn bleser i’w gael o wylio’r ffilmiau. Ond roedd rhywun yn anesmwytho (ar adegau) ac yn chwerthin (ar adegau eraill).

Braf yw cael hyn ym Mangor. Braf fod Pontio yn cyflwyno’r ‘radical’. Yn ein cyfnod o ‘wrthryfela’ yn erbyn y gyfyndrefn Gymraeg (a Chymreig) drwy’r 1980au a’r 199au hyd at Cŵl Cymru dyma oedd y nod mewn fordd. Cael ffilmiau chwyldroadol yn cael eu dangos mewn canolfan gelfyddydau yng ngogledd Cymru yn hytrach na Manceionion neu Partis / Berlin / Amsterdam. Neu un rhan o’r nod.

Y ‘default’ Cymraeg yw tueddu tuag at y saff, y canol ffordd, y cyfarwydd, y hwiangerddol. Dim rhyw a dim rhegi Kate! Heblaw am “cadw dy blydi chips”, T Rowland. Heb os mae yna ‘default’. Dwi ddim yn gweld ‘default button’ yn Ngeriadur yr Academi ond dwi’n gwybnod ei fod yn bodoli.

Heddiw, boed digwyddiadau Mai 68 yn ddylanwad neu ddim, mae cenhedlaeth newydd o gerddorion, artistiaid, beirdd a llenorion sydd yn ymwrthod a’r ‘default button’. Does ond rhaid meddwl am awduron fel Manon Steffan Ross, Catrin Dafydd neu Llwyd Owen. Chwalwyd y ‘default button’ gan gerddorion fel Adwaith, Chroma, Oblong, Yucatan – does dim troi yn nôl go iawn faint bynnag o hwiangerddi pop gaiff eu rhyddhau.

Fy nadl yma mae’n debyg yw fod yr elfen o herio, o chwalu ffiniau, o wthio’r ffiniau yn parhau i fod yn ofnadwy o bwysig o ran diwylliant Cymraeg. Yn wir mae gwthio a chwalu yn hanfodol achos does dim hawlfraint ar Gymreigtod !

No comments:

Post a Comment