Thursday 22 March 2018

NME RIP, Herald Gymraeg 21 Mawrth 2018





Y newyddion a oedd yn bell o fod yn ‘syfrdanol’ wythnos yn ôl oedd fod y papur / cylchgrawn cerddorol NME (New Musical Express) yn dod i ddiwedd ei oes fel papur printiedig. O hyn ymlaen ar-lein yn unig y bydd modd darllen yr NME.

Peidiais a malio am yr NME yng nghanol y 1990au. Pan ddigwyddodd ‘Cool Britannia’, Oasis, Pulp, Blur a’r holl grwpiau ‘Britpop’ roedd y peth drosodd i mi. Rhyw atodiad oedd ‘Cwl Cymru’, dim fod bod yn cŵl yng nghyd destun cerddoriaeth o Gymru yn beth drwg ond roedd yr NME mwy fel comic na chylchgrawn erbyn y cyfnod yma.

Fedra’i ddim cofio pryd darllenais yr NME ddwetha, sydd yn beth od o ystyried yn fy nyddiau 6ed Dosbarth ddiwedd y 1970au roedd y papur wythnosol yn hanfodol. Roedd John Peel ar Radio 1, Nos Lun tan Nos Iau yn hanfodol a roedd yr NME ar ddydd Mercher yn hanfodol. Yng nghefn gwlad Cymru dyma oedd yr unig ffordd o wybod beth oedd beth fel roedd Punk yn troi ac yn esblygu yn Post-Punk.

Anodd cyfleu pa mor hanfodol oedd hanfodol – ond roedd Peel a’r NME yn holl bwysig, yn allweddol, yn cadw rhywun i fynd – dyma’r Brifysgol ysbrydol a diwylliannol – yr gwrthwenwyn i diffaethwch diwylliannol Gymraeg a Chymreig – yn oes y deinasoriaid denim fel cyfeiriodd Gruff Rhys at y cyfnod yma.

Heblaw am yr ysbrydoliaeth a’r wybodaeth am y gerddoriaeth newydd cefais rhywbeth arall o’r NME. Cefais flas ar yr arddull sgwennu. Ar y dudalen gefn fewnol rhestrwyd y cyfranwyr. Yn 1978 y golygydd oedd Neil Spencer (y gwr adolygodd y Sex Pistols am y tro cyntaf). Ar y staff roedd Tony Parsons a Julie Burchill. Cyflogwyd Parsons a Burchill fel yr ‘hip young gunslingers’, neu dyna’r stori oleiaf.

Tafod neu deipiadur miniog oedd gan Burchill. Hi fwy na neb ysbrydolodd fy ngholofnau yn Y Faner yn ddiweddarach yng nghanol y 1980au. Fel rwyf wedi son sawl gwaith, chefais i rioed fy ngolygu na sensro gan Emyr Price y golygydd – a dweud y gwir chefais ddim ond anogaeth ganddo a rhywdd hynt i herio’r Byd Cymraeg.

Heddiw byddaf yn chwerthin wrth feddwl am yr erthyglau ffwrdd a hi haerllug yma yn Y Faner ond go iawn doedd dim byd newydd yna na fydda rhywun yn gael yn wythnosol gan yr hen Julie yn yr NME. Y dacteg oedd herio, cega, lladd ar, enllybio a darnio diwylliant Cymraeg canol y ffordd. Digon o waith fod mwyafrif o ddarllenwyr Y Faner wedi deall y ‘reference-point’. Doedd enw Julie Burchill ddim yn un cyfarwydd i’r Byd Cymraeg.

Sais braidd oedd Parsons. Llundeiniwr. Dim diddordeb yng Nghymru dybiwn i. Er dwi ddim yn gwybod hynny. Nath Parsons rioed fy nharo fel rhywun byddwn yn ei hoffi. The Clash oedd ei grwp o yn hytrach na’r Sex Pistols ac ar y pryd (1978), yn fy marn chwyldroadol bach i, roedd hynny yn gwneud Parsons chydig bach o fabi mam – dyna oedd fy marn am unrhywun oedd yn hoffi’r Clash dros y Pistols. Yr opsiwn hawdd.

Bellach mae Parsons yn sgwennu erthyglau yn cyfiawnhau safbwyntiau UKip. O blaid Brexit. Mae o bellach wedi troi mewn i’w dad. Little Englander bron a bod. Siomedig ond ddim yn sypreis mawr chwaith. Efallai mae’r Mwyn ifanc oedd yn iawn i ddrwgdybio Parsons. Wrth heneiddio mae Parsons fel Rotten, fel Morrissey, fel Noel Gallagher ôll yn eu tro wedi dilyn llwybr tuag at wneud esgusodion am Brexit. A dyna ddiwedd ar wrando arnynt gan Mr Mwyn i chi!

Gohebydd arall na ddalltais ei erthyglau erioed oedd Paul Morley. Amhosib oedd dehongli na dilyn ei erthyglau a fe ddaeth yn adnabyddus am sgwennu darnau anealladwy. Rhyfedd o fyd, ond roeddem yn derbyn Morley yn hyn o beth. Dim siawns o ddallt am be mae o yn son ond mae Morley yn ‘cŵl’. O Fanceinion. Gwisgo mewn du.

Bellach mae Morley yn ‘pundit’ - rhywun sydd yn ymddangos ar raglenni radio a theledu i drafod y diwylliant pop. Punk, post-Punk a Manceinion yw arbenigedd Morley. Go brin gwelwch chi raglen am Joy Division / New Order heb Morley. Dwi ddim yn meindio Morley – os unrhywbeth rwyf yn gallu uniaethu ac ef. Dwi hefyd yn gwneud rhan sylweddol o fy mywoliaeth yn trafod diwylliant. Dwi’n cael fy nahlu mwy am siarad am be dwi’n neud neu wedi wneud nac ydwyf am wneud y pethau hynny.

Papur inc oedd yr NME, felly roedd rhywyn yn cael bysedd du wrth ei ddarllen. Wrth sgwennu’r golofn hon dwi’n edrych ar gopi o 19eg Awst 1978 hefo Steve a Paul o’r Pistols ar y dudalen flaen. 18 ceiniog oedd pris yr NME. Llai na 20ceiniog felly. Anodd credo rhywsut. 18 ceiniog am y fath addysg.


Erthygl David Quantick

Yn fy swyddfa mae rhai cannoedd o gopiau o’r NME yn dyddio rhwng 1977 a 1987. Rhai yn cynnwys adolygiadau, lluniau a chyfweliadau gyda’r Anhrefn, y grwp roeddwn yn aelod ohonno rhwng 1983 a 1993. Y tro cyntaf i ni gael cyfweliad yn yr NME, fe gyfeiriodd David Quantick atom fel Welsh rarebeat. Yn ei ffordd bach ei hyn roedd Quantick yn garedig – ond roedd rhaid i’r NME gael penawd bachog / doniol.

Anghofiaf faint o ‘Cwm Dancing’, ‘Tom Jones’, ‘Shirley’ a ‘daffodils’ fu mewn penawdau ond roedd ein hyder an ffydd yn drech ac unrhyw ohebydd NME gyda geirfa greadigol ystradebol. Poenodd ddim o hyn y grwp!

Perthyn i’w gyfnod oedd yr NME – fydda’i ddim yn ei golli.



Photoshoot cyntaf Anhrefn i'r NME
LLuniau: Bleddyn Butcher


1 comment:

  1. Helo, dwi'n dod o UDA, rwyf am rannu'r dystiolaeth wych hon am sut y helpodd Dr.Agbazara i mi ddod â'm cyn-gariad yn ôl, Yn ystod fy chwilio am ateb, daeth i gysylltiad â manylion Dr.Agbazara a thrwy ei help, daeth fy nghariad yn ôl i fi o fewn 48 awr. Felly, gyda'r rhain, rydw i mor falch i roi gwybod i unrhyw un sy'n chwilio am ffordd i ddod yno gariad i gysylltu â Dr.Agbazara ar WhatsApp: { +2348104102662 } neu drwy e-bost at: { agbazara@gmail.com } Rwyf mor hapus o leiaf fy hun ac mae fy nghariad yn ôl i'w gilydd eto ac yn mynd i wario dathliad y Flwyddyn Newydd gyda'i gilydd Diolch i Dr.Agbazara unwaith eto ....

    ReplyDelete