Festri Capel Coch
‘Cadw dy blydi chips’, y llinell anfarwol honno gan T Rowland Hughes yn ei nofel ‘William Jones’. O bosib, yn ôl pob son, ac ar gyfer yr erthygl yma – ‘ffaith’, dyma’r tro cyntaf i ni weld rhegi mewn llenyddiaeth gyfoes Gymraeg. Rydym yn anghofio iaith liwgar Dafydd ap Gwylim am y tro felly.
Sadwrn dwethaf roeddwn yn arwain taith gerdded hanesyddol
(lled seicoddaearyddol) o amgylch Llanberis ac ar ôl gadael canolfan Y Festri,
dyma hel pawb at eu gilydd o flaen cartref T Rowland Hughes ar Stryd Goodman.
Mewn ffordd roedd hyn yn gwneud synnwyr perffaith – dechrau hefo ‘Cadw dy blydi
chips’. ‘Chydig bach o ddrama.
Er mai taith hanesyddol yn ymwneud a Chymru a’i Hanes
oedd dan sylw, credaf fod ychydig bach o hiwmor yn bwysig a diolchais yn
ddistaw i mi fyn hyn nad yma ganed Dafydd ap Gwilym. Fydd na neb yn cwyno os
byddaf yn dweud ‘blydi’ a hynny o fewn cyd-destyn llenyddol. Wrth reswm mae
gwaith T Rowland Hughes ac awduron eraill fel Kate Roberts yn glasuron yr Iaith
Gymraeg a fydda na neb am eiliad yn dadlau i’r gwrthwyneb.
Boed yn ‘Traed Mewn Cyffion’, ‘Te yn y Grug’ neu ‘Y
Chwalfa’ cawn ddarlun real iawn o fywyd y gymdeithas chwarelyddol ar ddiwedd y
bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Does fawr o newid
mewn patrwm bywyd – gwaith, capel, tê. Yr effaith fwyaf hir dymor ar bob cymdeithas
yn ystod yr Ugeinfed Ganrif wrth reswm yw’r Rhyfelau Byd. Newidwyd bywyd
cymaintar ôl y Rhyfel Mawr ac yn sicr yr Ail Ryfel Byd yw’r pwynt lle mae’r Byd
Modern yn dechrau go iawn.
Fel plentyn, fel disgybl ysgol ac yn wir am flynyddoedd
wedyn fel ‘rebal rock’n roll Cymraeg ifanc’, teimlais mae fy nhraed i oedd yn y
cyffion. Fedrwn i ddim dygymod a llenyddiaeth oedd mor drwm a di-galon. Deallaf
yn iawn fod pobl wedi dioddef tlodi enbyd ond roedd y culni Methodistaidd sych
Dduwiol oedd mor ynghlwm a’r bywyd Cymraeg yn ormod i’w ddioddef ac yn anoddach
byth i’w ddeall.
Diddorol ynde, achos fel rhywun yn ei bumdegau, bydda
rhywun yn meddwl y byddai modd drallen y pethau yma yn hollol wrthrychol ond
dwi dal yn eu gweld rhyw dywyll, rhy gul – yn rhy agos i’r hyn mae rhywun wedi ‘gwffio’
yn ei erbyn dros yr holl flynyddoedd. Rhowch i mi David R Edwards, Llwyd Owen
neu Euron Griffith.
Doedd y daith gerdded ddim yr achlysur i fanylu ar fy
nheimladau ar effaith y gymdeithas draddodiadol gapelog sych Dduwiol ar
ddiwylliant Cymraeg ond roedd yn sbardun i awgrymu fod y ‘Pethe’ yma wedi
ysbrydoli cynifer ohonnom i greu tirwedd ddiwylliannol arall (amgen) yn y
Gymraeg. Amser symud ymlaen.
Y pwynt nesa ar ein taith gerdded oedd stryd fechan o’r
enw Srtyd Ianci (Yankee). Chefais ddim esboniad o draddiad yr enw ond eglurais
fod sylwi ar enwau yn rhan anatod o grwydro’r dirwedd hanesyddol a ddiwylliannol
Gymraeg / Gymreig.
No comments:
Post a Comment