Apel sydd gennyf yr wythnos hon, apel am wybodaeth, ond
gadewch i mi ddweud y stori gyntaf. Yn ol ym mis Mai cefais ebost gan y
newyddiadurwr Mike Williams sydd yn gweithio i’r North Wales Chronicle yn gofyn i mi roi cymorth iddynt ar stori fod
‘cleddyf’ wedi ei ddarganfod ym Methesda. Wrth reswm roedd hyn yn swnio’n
ddiddorol a dyma dderbyn lluniau gan Mike drwy ebost.
Roedd yn hollol amlwg o’r lluniau, nad cleddyf oedd wedi ei
ddarganfod, ond bayonet, a’r tebygrwydd fyddai fod hwn yn perthyn i gyfnodau’r
Rhyfel Mawr neu’r Ail Ryfel Byd, ond heb ei weld anodd fyddai bod yn sicr.
Felly,draw i Fethesda a ni er mwyn gweld y bayonet yn y cnawd fel petae. Cefais
groeso mawr gan Mrs Llinos Jones yn Ffordd yr Elen a chefais ddeall fod
gweithwyr wedi cael hyd i’r bayonet ymhlith rwbel wrth adeiladu gorsaf drydan
fechan yng gardd Mrs Jones.
Cyn i’r tai yn Fforddyr Elen gael eu adeiladu yn y 1970au
mae’n debyg mai tir comin fydda yma ac yn fuan iawn yn ystod ein sgwrs daeth yn
amlwg nad rhywbeth o deulu Mrs Jones oedd y bayonet ond rhywbeth oedd wedi cael
ei ‘daflu allan’ rhywbryd dros y blynyddoedd. Meddyliais yn ol i fy mhlentyndod
a’r atgofion hynny o chwarae ar dir comin lle roedd hen geir neu hen
rhewgelloedd wedi eu taflu – peth ddigon cyffredin ddechrau’r 1970au.
O safbwynt archaeolegol, mae hyn yn golygu nad oes stori na
chyd-destyn i’r gwrthrych. Pwy a wyr pryd a chan bwy gafodd y bayonet ei daflu
allan – a dyma’r rheswm am yr apel. Y cam nesa oedd mynd a’r bayonet draw i Fangor
at Esther Roberts yn Amgueddfa Gwynedd a dyma ddechrau’r broses o hel
gwybodaeth am y gwrthrych gan droi at arbenigwyr ar wrthrychau. A dweud y gwir roedd un o staff yr Amgueddfa
gyda diddodrdeb mewn bayonets a roedd cymhariaeth sydyn ar Google yna agrymu
mai bayonet o wneithuriaid Twrcaidd oedd y gwrthrych dan sylw.
Yn dilyn asesiad arbenigol, rydym yn awgrymu mai bayonet o
arddull 1887 a ddefnyddiwyd ar reiffl ‘Mauser’
gan y Twrcs yw hwn, sef yn ystod y Rhyfel Mawr. Y stori yn aml iawn yw fod milwyr
o Gymru, neu lle bynnag, oedd wedi bod yn brwydro yn Gallipopli yn dueddol o
ddod a pethau fel hyn yn ol adre hefo nhw ar ol y Rhyfel fel cofrodd. Rydym
hefyd yn gwybod fod yTwrcs wedi brwydro yn y Dardanelles, Mesoptamia a
Phalesteina, felly rhaid bod yn ofalus i beidio neidio yn syth at y ‘canlyniad
amlwg’.
Felly os am dderbyn y ddamcaniaeth mai cofrodd yw’r bayonet,
a fod rhywyn, ddegawdau wedyn wedi penderfynu rhoi fflych i hen bethau taid – a
fod y pethau hynny wedi eu taflu ar ochr y bryn (ar dir common / gwastraff)
rydym yn ei chael hi’n anodd i gwblhau y stori. Heb gysylltiad ac unigolyn t
roll sydd gennym yw’r gwrthrych. Heb ofal pellach cadwriaethol mae’r gwrthrych
rhydlyd yn mynd i ddirywio, mae hynn yn sicr, ond heb mwy o stori bydd hwn hefyd
yn gynharol ddi-werth,
Yn arianol, does dim gwerth o gwbl i’r gwrthrych, mae’r
cyflwr rhy ddrwg, ond mae son fod nifer o filwyr ifanc o ardal Bethesda wedi
brwydro yn Gallipopi yn ystod y Rhyfel Mawr. Fe all fod rhywun yn gwybod am
hanes rhywun yn ardal Stryd y Dwr / Ffordd yr Elen / Carneddau fu yn rhan o
frwydr Gallipopli. Os felly byddwn yn gwerthfawrogi clywed gennych. Byddai
unrhyw wybodaeth bosib yn ychwanegu at y wybodaeth am y darganfyddiad diddorol yma ym Methesda.
Diddorol iawn!
ReplyDeleteMae Amgueddfa Lechi Cymru yn ymchwilio i brofiadau personol o'r RhBC fel rhan o rhaglen Amgueddfa Cymru i farcio'r canmlwyddiant.
ReplyDelete