Wednesday 25 January 2017

Safleoedd Saethu WWII Cwm Brwynog, Herald Gymraeg 25 Ionawr 2017





Un peth ydi mynegi barn, peth hollol wahanol yw trafod hanes a ffeithiau. Fe allwn awgrymu fod mynegi barn yn rhywbeth mae rhywun yn ei wneud am y rhesymau ‘iawn’, ac ar yr union adeg o ddatgan barn fod hynny yn adlewyrchiad weddol deg o’r hyn mae rhywun yn ei feddwl neu ei gredu ar yr adeg honno. Mae mynegi barn yn bwysig ond mae bod yn barod i ail-ystyried neu newid barn yn gallu bod yr un mor bwysig.


Mae colofn fel hon yn amrywio a dweud y gwir yn wythnosol o fod yn un sydd yn mynegi barn neu yn adolygu cerddoriaeth, celf neu lyfrau i un sydd yn ceisio taflu goleuni ar faterion archaeolegol neu Hanes Cymru. O ganlyniad mae gwahaniaeth mawr o ran sicrwydd a phendantrwydd yr hyn rwyf yn ei ysgrifennu.

Gyda fy ngwaith dydd i ddydd fel archaeolegydd.  mae rhywun  ar dir llawer mwy sigledig. Rydym yn trio dehongli a chofnodi mewn maes lle nad oes bob amser ateb pendant, neu ffeithiau ar gael, Rydym yn aml yn gorfod datgan (neu cyfaddef os mynnwch) fod llawer nad ydym yn ei wybod. Awgrymaf felly ein bod yn rhan o ‘drafodaeth’ neu ‘broses’o geisio deall y dirwedd hanesyddol Gymreig yn well.

A dyma ni, unwaith eto yn troedio gwaundiroedd Cwm Brwynog ar lethrau’r Wyddfa yn trio (yn raddol ac yn ara deg) gwneud rhyw fath o synnwyr o’r dirwedd archaeolegol hynod hynny. Cyfeiriais felly yn yr Herald Gymraed at Gwm Brwynog  ar y 4dd Ionawr a 11eg Ionawr 2017 ac wrth ddychwelyd i’r ardal hon bron yn wythnosol yn raddol bach mae pethau yn dechrau gwneud mwy o synnwyr.

Dim ond drwy ddarllen ‘Pobl Tu Ucha’r Giât’, (Rol Williams, 2001) y daeth rhai ffeithiau i’r amlwg ond dim ond drwy ddal i gerdded y dechreuais wneud synnwyr o bethau go iawn. Rhag ofn fod darllenwyr yn cael eu camarwain gan golofnau Ionawr 4 a 11 teimlaf fod angen rhannu ffrwyth y cerdded diweddar.

Y safle saethu Commandos o’r Ail Ryfel Byd sydd wedi bod yn hawlio fy sylw diweddar ac wrth gerdded o lwybr Bwlch Maegwm tuag at adfail Capel Hebron y gwelais weddillion dwy wal o frisflociau. Disgrifir rhain ar safle Coflein os wyf wedi drallen yn gywir ond wrth gerdded yma ac acw dros y gwaundir, dyma ddarganfod fod tair wal o’r fath yn bodoli.

Y ddwy wal ar Coflein yw Capel Hebron Rifle Butts I a Capel Hebron Rifle Butts II, a rhain sydd o dan Gapel Hebron, ond mae trydedd wal o’r fath i’w chanfod ar ochr ddeheuol Afon Arddu ychydig islaw’r llwybr dros Faesgwm. Hefyd, a hyn yw’r syndod mawr, mae wal saethu gyda fframiau’r targedau yn dal i sefyll ychydig islaw tyddyn Tynyraelgerth (Tynyraelgarth?).

Os felly a yw cofnod Coflein yn anorffenedig? Os, a dyma’r cwestiwn mawr, os rwyf yn dehongli pethau yn gywir mae tair wal neu lwyfan saethu i’w cael yn Nghwm Brwynog. Dyma’r llwyfannau felly, sydd yn mesur 16x3 medr ac yn sefyll i rhyw uchder o fedr neu ddwy, o ble byddai’r milwyr wedi saethu tuag at y fframiau a’r wal atal bwledi sydd yn union o dan Danyraelgerth. Mae hyn yn gwneud synnwyr achos byddai angen rhyw fath o lwyfan ar gyfer y milwyr /commandos er mwyn saethu yn glir tuag at y targedau ar draws y gwaundir.

Mewn adroddiad gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ‘First World War Military Sites’ (Hopewell / Kenney 2015) cawn gyfeiriad pellach fod rhai o’r llochesau ar gyfer y marcwyr yn dal i sefyll ger y llwybr am Gwm Dwythwch. Mantelet yw’r disgrifiad ar loches o’r fath a chawn gyfeiriad Map OS SH570 586. Yn uwch i fyny Gwm Dwythwch, o dan Foel Gron, cawn olion pellach, ac o bosib cynharach na’r rhai Ail Ryfel Byd sydd yn Hebron.

Unwaith eto, os wyf wedi darllen yn gywir tydi’r tair llwyfan saethu a’r wal ar gyfer atal bwledi a dal y targedau ddim i lawr ar gofnodion Archwilio, sef safle’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol. Os felly bydd angen trosgwyddo’r wybodaeth sydd gennyf iddynt.


Cyfeirias uchod at y wal atal bwledi a’r fframiau targedau sydd yn dal i sefyll ar waelod y cwm o dan tyddyn Tynyraelgerth. Dyma sydd yn rhyfeddol, mae eu cyflwr yn arbenig o dda a gallwn weld yr olwynion oedd yn cael eu troi er mwyn codi’r fframiau targedau i’r golwg ar gyfer yr ymarferion. A dweud y gwir mae’r pediar wal yn hollol glir ar y map sydd ar Archwylio wrth i rhywun edrych yn fanwl o’r awyr ond nad oes cofnod penodol iddynt.

Nid beirniadaeth yw hyn, ond mae’n profi fod angen i ni fod allan yna yn archwilio’r dirwedd hanesyddol / archaeolegol a fod angen i’r cyhoedd fod yn rhan o’r broses. Tydi’r adnoddau na’r amser ddim gan yr archaeolegwyr llawn amser i gyflawni’r holl waith. Efallai fod yna angen mwy o brosiectau cymunedol (Cymraeg) yn y maes!

Felly wrth gyrraedd Tynyraelgerth o gyfeiriad Llanberis bydd y fframiau targedau a’r wal lwyfan yn hollol amlwg ar waelod y cwm. O ran cymharaieth mae’r fframiau yn debyg iawn i’r rhai a welir ym Mehnmaen Uchaf ger Dolgellau.

Ychydig cyn cyrraedd Tynyraelgerth fe ddowch ar draws hen ffynnnon ‘Yr Rali’ fel mae trigolion lleol yn galw’r Aelgerth / Aelgarth. Cyn hynny, ar ochr y llwybr am Faesgwm ac ychydig i’r de-ddwyrain o Hafod Uchaf fe welwch domen llosg sydd yn dyddio o’r Oes Efydd. Dyma chi dirwedd fendigedig i’w cherdded o ran archaeoleg o sawl cyfnod.










Wednesday 11 January 2017

Lonely Boy, Steve Jones, Herald Gymraeg 18 Ionawr 2017





Rhywbeth rwyf wedi ei gredu erioed yw ei bod yn ofnadwy o bwysig ehangu ar y dirwedd ddiwylliannol Gymraeg (a Chymreig dro arall) o ran yr hyn sydd yn cael ei drafod, yr hyn gallwn ei drafod a’r hyn gawn ei drafod. Wrth gyfeirio at yr hyn ‘gawn’ ei drafod rwyf yn rhyw fymryn gellwair-gydnabod llais (neu floeddio)  y ‘Cymry traddodiadol’.

Yn draddodiadol, y ‘Cymry traddodiadol’ benderfynodd o ran llenyddiaeth fod Kate Roberts yn dderbyniol ond fod Dylan Thomas fawr gwell na rhyw gyw Sais gwrth-Gymraeg. Yn yr un modd o ran cerddoriaeth poblogaidd roedd Edward H (neu Bryn Fôn heddiw) yn iawn i glustiau’r Cymry ond da ni ddim yn siwr iawn beth i’w wneud o’r grwp Datblygu (neu Adwaith heddiw)  – gwell eu hanwybyddu. Gallwn sgwennu draethodau am hyn ……

Yn ddiddorol iawn cefais y fraint o sgwrsio hefo Gwenllian o’r grwp Adwaith (grwp ifanc) ar fy rhaglen radio, BBC Radio Cymru, ar nos Lun yn ddiweddar a fe ddywedodd Gwenllian nad oedd unrhyw un o’i chyfoedion nad oedd yn hoff o’r grwp Datblygu. Mae’r oes wedi newid felly.

Wrthgwrs does na ddim cymdeithas swyddogol ar gyfer y ‘Cymry traddodiadol’ ond ar adegau (ac yn hanesyddol) mae rhai ohonynt wedi bloeddio digon i gael llawer mwy o ddylanwad ar ddiwylliant y Genedl a’r hyn sydd yn digwydd yn y Gymraeg nac y dyliant. Dwi ddim yn ama fod rhai ohonynt dal i floeddio, dal i ymwrthod ar 21ain ganrif yn enw ‘traddodiad’.

Dau bwynt sydd gennyf ynglyn a hyn. Chyrhaeddwn ni byth y miliwn o siaradwyr Cymraeg onibai fod na rhywbeth Cymraeg sy’n mynd i apelio i bobl Britton Ferry ac yn ail fyddwn i yn sicr erioed wedi cael cyfrannu i’r Byd Cymraeg petawn wedi gwrando ar y bloeddiwrs!  Gwrthryfela yn eu herbyn ‘nhw’ wnaeth yr Anhrefn – a diolch byth i ni herio!

Sydd yn arwain, yn hwyrach na’r bwriad, at yr hyn yr hoffwn drafod yn y golofn yr wythnos hon. Newydd ddarllen hunangofiant Steve Jones, ‘Lonely Boy’ a theimlo fod yna drafodaeth onest iawn yn y gyfrol am yr effaith pell gyrhaeddol  mae camdriniaeth rhywiol ar blentyn yn gallu ei gael. Mae’n ddarllen poenus ar adegau.

Steve wrthgwrs oedd gitarydd y Sex Pistols, a gallaf glywed y ‘bloeddiwrs’ yn gofyn ‘be sy gan hyn i’w wneud a’r Gymraeg?’. Fy ateb yn syml, yw digon o waith fydda neb Cymraeg yn gallu sgwennu llyfr fel hyn. Ac eto mae’n rhaid fod camdrin rhywiol a llawer mwy yn digwydd o fewn y teulu traddodiadol Cymraeg hefyd.

Mewn ffordd mae hanes y grwp Sex Pistols yn eilradd iawn i’r effaith mae llystad Steve yn gael ar yr hogyn ifanc wrth ‘chwarae yn rhywiol’ hefo’r hogyn ifanc pan mae’r fam allan yn ei gwaith. Yn ddiweddar ar raglen Mark Radcliffe BBC 6 Music cyfaddefodd Steve nad yw wedi cael perthynas hir-dymor a merch erioed. Digon o ryw ond dim perthynas. Dyna chi drist.

Mewn ffordd rydym yn cael cipolwg ar pam fod y Steve Jones ifanc wedi bod mor ddi-flewyn ar dafod ar rhaglen Bill Grundy ac allan o’r pedwar aelod o’r grwp, efallai yr un a lleiaf o ofn a’r lleiaf i’w golli?

Bydd nifer yn gwybod fod Steve a’i grwp y Sex Pistols wedi ysbrydoli nifer ohonnom Gymry Cymraeg yn y 1970au hwyr pan roedd roc Cymraeg yn ymddangos yn ofnadwy o ddiniwed a saff (y deinosoriaid denim). Heb y Pistols fydda na ddim Anhrefn a mwy na thebyg ddim Trwynau Coch na Ail Symudiad chwaith – yn sicr fel grwpiau don newydd.

Wrth ddarllen roedd yn amlwg fod cymaint roedd Steve wedi ei anghofio (neu ddewis anghofio) ond dyma ddeall ychydig mwy am y cymeriad ac am hynny roedd werth darllen y llyfr.



Gwaun Cwm Brwynog, Herald Gymraeg 11 Ionawr 2017




Dyna sydd yn digwydd wrth i rywun ‘ddilyn ei drwyn’, mae drysau arall yn agor, llwybrau eraill yn ymddangos a does fawr o ddewis ond dilyn y trywydd. Wrth i mi gyfeirio at Gapel Hebron, Gwaun Cwm Brwynog, yn yr Herald wythnos dwetha (04.01.17) dyma weld cyfeiriad ar Coflein am y waliau saethu gerllaw ac roedd rhaid darganfod mwy amdanynt.

http://www.coflein.gov.uk/en/site/505908/details/capel-hebron-rifle-butts-iii




Credaf fod dwy wal saethu yma, rhai hirsgwar oddeutu 15m x 2m wedi eu gwneud o flociau ‘breeze’. Dim on un wal sydd yn cael ei grywbyll ar Coflein a does dim cyfeiriad atynt o gwbl ar Archwilio. Anodd cael hyd i wybodaeth archaeolegol amdanynt a dweud y gwir.



Does angen fawr o esgus arnaf i fynd am dro, felly dyma benderfynu dilyn y llwybr am fwlch Maesgwm o Lanberis gan droi wedyn ar hyd y llwybr troed a arweiniai at Gapel Hebron gan groesi Afon Arddu. O fy mlaen sylwais ar fwthyn a choed yn tyfu lle unwaith bu to.

Bron fy mod yn edrych ar fwthyn to-gwellt, mor drwchus oedd y coediach, a hyd yn oed ym mis Ionawr, y dail yn wyrdd tywyll. Hen ffermdy Cae Newydd oedd hwn a bu damwain ddifrifol yma ar Nos Lun Gorffennaf 17, 1952, pan fu ffrwydriad nwy a llosgwyd y tŷ. Y stori yn ôl y son yw fod y mab, Robert Jeffrey yn newid silindr nwy pan ffrwydrodd y silindr gan achosi i’r ffenestri chwythu am allan a gweddill y tŷ i losgi. Cafodd Robert Jeffrey anafiadau difrifol a bu ei fam Catrin Roberts ddioddef hefyd er iddi lwyddo i ddianc o’r tŷ.

Cyn hynny arferai Catrin ‘gadw visitors’ ac yn llyfr bendigedig Rol Williams, (2001) ‘Pobl Tu Ucha’r Giat’ cawn gopi o hysbyseb ar gyfer yr ‘Apartments’ yn Cae Newydd Farmhouse lle gellir mwynhau ‘Teas, Refreshments, Milk and Minerals’. Dyma ein cludo i oes o’r blaen go iawn.Pwy fydda’n dychmygu wrth edrych ar yr adfeilion heddiw?



Wrth ddilyn y llwybr troed am Gapel Hebron, mae’r waliau saethu yn dod yn fwy amlwg. ‘Rifle butts’ yw’r enw ar waliau o’r fath yn y Saesneg a pherthyn i gyfnod yr Ail Ryfel Byd mae rhain pan ddefnyddiwyd y gwaundir yma o dan Gapel Hebron ar gyfer ymerferiadau gan y Commandos.

A dyma arwain at stori arall , sydd yn ddigon hysbys i drigolion Llanber’, sef stori saethu Robert Williams yn 1942. Mae’n debyg iddo gael ei saethu tra yn trwsio rhai o lwybrau Maesgwm er fod y fyddin wedi ‘ymdrechu’ i  sicrhau nad oedd pobl na anifeiliad i’r cyfeiriad saethu yn ystod eu hymarferiadau.

Trawyd Robert Williams yn ei ben gan fwled, ond er gwaethaf hyn, llwyddodd i gerdded yr holl ffordd lawr i Lanberis -  ond bu farw o’i anafiadau. Bu cwest a chawn adroddiad yn y Caernarfon & Denbigh Herald,  sydd yn cael ei ail adrodd gan Rol yn ei gyfrol, ond chafodd Robert Williams druan fawr o gyd-ymdeimlad rhywsut. Efallai mewn amser Rhyfel felly oedd hi. Yn y lle anghywir ar yr amser anghywir.

Er gwaethaf y trychinebau yma, mae’n gwneud darllen a chrwydro diddorol, eto, pwy fydda’n dychmygu cymaint o ddrama a hanes mewn ardal ddigon anghysbell mewn un ystyr. A dyma pam bu modd i Rol Williams allu sgwennu cyfrol, mae yna hanes i’r ardal, hanes diddorol tu hwn a hanes sydd ddim mor amlwg bellach wrth i natur adennill y tir, wrth i’r tyddynod (a’r capel) ddadfeilio ac wrth i’r brwyn guddio’r waliau saethu.


Rwyf yn ddiolchgar iawn i fy nghyfaill Al Pents o’r Felinheli am fenthyg copi o gyfrol Rol i mi ar gyfer ysgrifennu y pwt yma a hoffwn gydnabod yr awdur Rol Williams am fy ngoleuo ar rhai o’r materion uchod.





Wednesday 4 January 2017

"Dim ond anarchwyr sydd yn dlws", Herald Gymraeg 4 Ionawr 2017






Heb emyn na chynulleidfa, na tho bellach, (mae nhw’n dweud fod pobl wedi dwyn y llechi to) digon digalon yr olwg yw Capel Hebron ar lethrau’r Wyddfa. Nid fod rhywun byth yn siwr pwy yn union ydi ‘nhw’, ac a bod yn onest, dwi ddim chwaith yn cofio ddigon clir pryd roedd yna do ar Capel Hebron ddwetha er mae lluniau ar y we o 2014 yn awgrymu fod tri chwarter y to yno pryd hynny.



Ta waeth mae’r hen gapel yn prysur ddadfeilio a mae hynny yn drist. Sefydlwyd y capel yn 1835 fel cangen o Gapel Coch, Llanberis (Methodistiad Calfinaidd) er bu i Hebron wahanu o’r fam gapel yn dilyn diwygiad 1859. Daeth oes Capel Hebron yng Ngwauncwmbrwynog i ben yn 1958. Diboblogi mae’n debyg oedd y rheswm am ddiffyg cynulleidfa yng Ngwauncwmbrwynog.

Saif Capel Coch yng nghanol Llanberis, mae’n adeilad uchel ac urddasol yn yr arddull Glasurol ac yn adeilad wedi ei restru Gradd II. Cawn ddigon o golofnau neu bileri Doric felly ac ysgrif ar y goruwchadail ‘1777 Capel Coch 1893’.  Adeilad yn dyddio o 1893 rydym yn ei weld yn bennaf heddiw er fod y festri neu’r Ysgol Sul ar yr ochr orllewinol yn ddiweddarach ac yn dyddio o 1909 a mewn arddull lled Art Nouveau.

Eto, o cael cipolwg ar y we, deallaf mai yn y Festri bydd holl weithgareddau’r capel yn cael eu cynnal bellach oherwydd cyflwr bregus y capel. Unwaith eto, trist iawn o ystyried pa mor arbenig o ran addurniadau yw’r gwaith plastr ar nenfwd y capel. Anodd cynnal yr adeiladau yma wrthgwrs gyda chynulleidfa sydd yn lleihau, dyna’r ffaith drist amdani.






A finnau, yr anghydffurfiwr eithaf, yr anarchydd, yr anffyddiwr – dwi’n un da i siarad. Fynychais i rioed gapel ar gyfer eu pwrpas gwreiddiol. Y pensaerniaeth a’r archaeoleg, yr hanes a’r cymeriadau sydd o ddiddordeb i mi. Fe addolaf y pensaerniaeth, fe wirionaf gyda’r Art Nouveau ond ni chaf fy ngyffwrdd gan Dduw mwy na chredaf yn y meistr. (‘Dim Duw Na Meistr’ oedd arwyddbost y grwp anarchaidd Crass yn ôl yn y 1980au).

Yr unig beth rwyf yn uniaethu yn weddol hawdd ag e yw’r Iesu radicalaidd, pryd tywyll os nad croenddu, adain chwith, y comiwnydd gwreiddiol pur – y rebel a gredodd fod modd cael gwell na’r hyn a gynnigiwyd gan y sefydliad. Dim o’i le a hynny.







Festri arall yn Llanberis yw ‘Y Festri’ ychydig oddiar Stryd Goodman sydd wedi ei adfer gan griw cymunedol gyda nawdd gan sefydliadau fel Mantell Gwynedd a Chartrefi Cymunedol Gwynedd yn ogystal a llawer o sefydliadau lleol er mwyn creu gofod creadigol ar gyfer y gymuned leol.

Cefais wahoddiad yn ddiweddar i fod yn rhan o’r gweithgareddau oedd yn cael eu trefnu i agor Y Festri yn swyddogol. Roeddwn i ddweud ychydig eiriau ochr yn ochr a Sian Gwenllian yr Aelod Cynulliad lleol. Y gwleidydd a’r anarchydd.

Er mwyn dallt y dalltings awgrymais fy mod yn galw heibio’r Festri ychydig ddyddiau cyn yr agoriad swyddogol er mwyn cael gweld y gofod, sgwrsio ychydig hefo’r pwyllgor / gwirfoddolwyr / trefnwyr. Brwdfrydedd heintus y criw wnaeth yr argraff fawr arnaf. Wrth i mi gerdded i mewn i’r Festri cefais wên gan bawb er nad oedd neb yn siwr pwy oeddwn i. Roedd pawb yn brysur hefo brwshus a photiau paent yn tacluso’r gofod ar gyfer y diwrnod mawr.

Mewn ychydig dyma gyflwyno fy hyn a dechrau cael cefndir y fenter gan un o’r pwyllgor. Roedd pawb arall yn rhy brysur hefo’r potiau paent i gymeryd unrhyw sylw felly awgrymais ein bod yn mynd am banad dros y ffordd i Pete’s Eat. Dwi’n credu i mi ddeall digon a dymunais yn dda iddynt gan addo i’w gweld yn brydlon am 10-30 y bore Sadwrn canlynol ar gyfer yr agoriad.

Roedd angen rhyw 2 neu 3 munud o gyflwyniad. Byddai Sian Gwenllian yn agor y ganolfan yn swyddogol felly roeddwn angen ategu’r hyn oedd gan Sian i’w ddweud heb ail adrodd a heb ddefnyddio’r geiriau arferol fel ‘menter gyffrous’ a ‘phob lwc i’r fenter’. Meddylias yn ofalus am weddill yr wythnos.

Yn y diwedd roedd llunio’r cyflwyniad yn dod yn hawdd. Meddylias am fy argraff cyntaf o gerdded i mewn i’r Festri a’r holl fwrlwm yna hefo’r brwshus paent. Dyma ddechrau’r cyflwyniad drwy ail fyw y profiad lled ddoniol yna gyda’r dorf sylweddol oedd wedi ymgynull yn blygeiniol (yn blygeiniol ar fore Sadwrn) ar gyfer yr agoriad.

Awgrymais mai’r hyn y welais ychydig ddyddiau ynghynt oedd ‘pobl dda yn gwneud gwaith da’. Yn fy ysbrydoli hefyd oedd dyfyniad y cynllunydd ‘Celfyddyd a Chreft’, William Morris, wrth iddo awgrymu mai’r unig bethau angenrheidiol yn y cratref oedd rheini oedd yn ddefnyddiol neu’n brydferth.





Byddaf pob amser yn ceisio taflu rhywbeth ‘diddorol’ a ‘ffeithiol’ i mewn i unrhyw gyflwyniad. Os gallaf eu hysbrydoli i ddilyn ambell lwybr a droediodd William Morris fe fydd hynny yn beth da. Cyflwyniad dwyiethog oedd hwn. Does dim problem o gwbl gennyf hefo hyn. Bydd cyfle felly i ddangos ein bod yn gallu trafod pethau fel y Cyn-Raffaeliaid a William Morris yn y Gymraeg fel petae hynny yr un mor naturiol a chrybwyll fod T Rowland Hughes wedi byw ‘rownd y gornel’ o’r Ferstri.

I gloi fy nghyflwyniad, ac yn fymryn ddireidus, rhoddais ganmoliaeth i’r criw hefo’r brwshus paent am beintio’r tu allan yn goch a du. Doedd y lliwiau ddim yn fwriadol mae’n debyg ond coch a du yw lliwiau’r faner anarchaidd. Gyrrais negeseuon i’w llongyfarch yn y ddyddiau wedyn gan ddwyn dyfyniad arall, y tro yma gan Vivienne Westwood – “Dim ond anarchwyr sydd yn dlws”