Wednesday 8 January 2014

Antur dan-ddaear yn Llechwedd Herald Gymraeg 8 Ionawr 2014


 

Agorwyd chwarel Llechwedd ym 1846, ac er ein bod yn son am y safle fel “chwarel”, sydd yn wir am rannau ohonno, mae hefyd angen cyfeirio at y ceudyllau, sef yr elfen fawr o weithio o dan ddaear – sydd yn amlwg yn ardal Chwareli Stiniog wrthgwrs. Buan iawn daeth Llechwedd yn un o’r gweithfeydd mwyaf arloesol a threfnus o ran y broses o drin llechi ac un o’r nodweddion amlycaf o hyn yw’r Torrwr Llechi neu’r llif, ‘Greaves Trimmer’,1856.

            Yn ei lyfr rhagorol a hanfodol ‘A Gazeteer of the Welsh Slate Industry’ mae Alun John Richards yn cynnig yr ystadegau canlynol, sef erbyn y flwyddyn 1882, cyflogwyd 553 o ddynion yma ac eu bod wedi gwella’r grefft a’r broses i greu 50 tunnell o lechi y dyn y flwyddyn, gan wella ar y graddfa o wastraff o’r arferol 12-1 i lawr i 9-1.

            Os am fynd i grwydro neu i chwilio am olion Archaeolegol Diwydiannol sydd yn parhau i fod ar y wyneb yn unrhywun o chwareli llechi Cymru, llyfr  Richards yw’r llyfr i chi. Ceir cyfeirnod map ar gyfer pob safle a hefyd disgrifiad o’r olion gweledol gan Richards sydd yn ddefnyddiol tu hwnt i unrhywun sydd ddim yn arbenigwr yn y maes, sef y mwyafrif ohonnom.

            Heddiw rydym oll yn gyfarwydd a’r teithiau tanddaearol sydd yn cael eu cynnig gan ‘Quarry Tours Ltd’, profiad mae nifer ohonnom wedi ei gael yn ystod ein dyddiau ysgol, os oedd rhywun yn mynychu yr ysgol ar ol 1972, ond profiad sydd yr un mor wefreiddiol heddiw ac yr oedd yn nyddiau’r ysgol.

            Yn ddiweddar cefais gyfle, anarferol mewn un ystyr, wrth weithio ar brosiect ‘Ein Treftadaeth’ ar gyfer Cadw / Cyngor Gwynedd / Cyngor Conwy i fod yn rhan o drefnu gweithdy busnes yn Llechwedd. Y syniad oedd, dod a phobl busnes, sef busnesau lleol, at eu gilydd yn Llechwedd i gael gweld beth yw’r cynnig a gwerth economaidd Treftadaeth yng Ngwynedd a Chonwy.

            Fel rhan o weithgareddau’r diwrnod trefnwyd i’r mynychwyr gael cinio dan ddaear (syniad rhagorol fy nghyd-weithiwr Mandy Whitehead), rhywbeth fydda yn ychwanegu at awyrgylch a phrofiad y diwrnod. Er nid yn ‘focs bwyd chwarelwr’ yn yr ystyr traddodiadol, nac yn baned o de wedi ei stiwio a’i ail gnesu am oriau, yr hyn gafwyd oedd lobscows a hynny yn un o’r orielau / ceudyllau. Son am hwyl, son am brofiad a son am fod yn falch o gael rhywbeth cynnes lawr ein corn cwac (er i mi ac un neu ddau arall hebgor ar y lobscows a chael cawl llysieuol).

            Ond y peth amlwg wrth drefnu’r gweithgareddau oedd pam mor hawdd oedd cyd-weithio a chriw Llechwedd. Mae’r lle yn trawsnewid yn raddol, heddiw rydym yn cael ein croesawu wrth gyrraedd gan ddwsinau o feicwyr mynydd mwdlyd sydd wedi herio’r mynydd gan “ddisgyn” o ben Bwlch y Gorddinan i lawr at Llechwedd ar y llwybr beic newydd. Dyma’r tirwedd ol-ddiwydiannol, yn creu’r economi newydd – gwyliau antur dan olfal Antur ‘Stiniog.

Cofiwch mae Llechwedd yn parhau i fod yn chwarel waith, felly ar ol dymchwel yr holl ffordd i wastadedd cymharol maes parcio Llechwedd mae’r beicwyr mynydd yn gorfod osgoi loriau’r chwarel yn cludo eu llwyth allan. Felly mae’n dirwedd ddiwydiannol gyfoes hefyd, yn dirwedd sydd yn fyw ac yn esblygu.

 

 
 

Y gwr sydd yn hwyluso popeth i ni yw’r rheolwr Michael Bewick, dyma chi engraifft gwych o ddyn busnes sydd yn dallt y dalltings - rhaid symud hefo’r amser, rhaid meddwl am syniadau newydd a phan mae Mandy yn cynnig cael cinio dan ddaear mae Michael nid yn unig yn ymateb yn y positif, mae’n sicrhau fod y peth yn digwydd heb unryw drafodaeth pellach na unrhyw gur-pen.

Canlyniad mwyaf cyffrous y diwrnodd i Mandy a finnau, heblaw am ddiwrnod llwyddianus o waith, oedd cael cynnig gan Michael i ddychwelyd i Lechwedd i gael golwg ar rhai o’r lefelau eraill sydd ddim ar agor i’r cyhoedd ac yn fwy penodol, hen gaban, lle mae olion materol (pethau) y chwarelwyr yn dal yno. Olion materol dyn yw ‘archaeoleg’, ac roedd hwn yn gynnig lle roedd yr archeolegydd ynof wrth ei fodd.

Felly pythefnos yn ddiweddarach rydym yn ol yn Llechwedd gyda ambell dywysydd arall sydd yn gweithio ym maes tywys twristiaid drwy’r corff WOTGA (Tywysion Swyddogol Cymru) i gael antur o dan ddaear yng nghwmni Michael. Y tro yma does dim tren bach yn mynd a ni lawr, rhaid cerdded lawr un o’r hen inclens yn ddwfn i gronbil y ddaear, gyda golau ffagl yn unig.

Mae’n serth a llithrig a thywyll. Petae ond gola i weld faint o wen oedd ar fy wyneb ! Dyma ni yn archwilio hen dwneli, yn croesi hen gledrau a phob nawr ac yn y man yn dod ar draws ddarn o gadwyn haearn neu ysgol haearn yn disgyn o’r to i’r llawr. Rhain oedd yn dal y chwarelwyr ar wyneb y graig yn y ceudwll neu yn cael eu defnyddio i ddringo i’r man gwaith. Popeth wedi rhydu, y cadwynni yn ddiblygu.

Distawrwydd llethol, dim ond swn ein traed ar y llechi yn cloncian ac ambell i ddrip  dwr. Mae’n anhygoel pam mor ddistaw a thywyll yw hi go iawn oan rydym yn sefyll yn llonydd a diffodd y ffaglau. Anodd iawn cael lluniau yn y fath dywyllwch ond o’r diwedd dyma gyrraedd un o’r cabanau gyda sosban, darn o ledr ar gyfer penglin rhywun a paced o sigarets wedi eu gadael. Fel yn caban Ponc Awstralia, Dinorwig dyma amgueddfa, lle mae’r holl wrthrychau wedi eu gadael ar y diwrnod olaf o’r gwaith – neb di bod yn ol ers hynny.

Cyn bo hir bydd y ceudwll yma yn cael ei drawsnewid i fod yn wal ddringo tanddaearol, eto engraifft o’r busnes yn symud yn ei flaen, ond y cynllun yw fod yr “archaeoleg” yn cael ei gadw yn y fan a’r lle, ac efallai rhyw fath o gysgod perspex yn cael ei godi dros y caban er mwyn ei gadw yn saff am flynyddoedd i ddod. Ein bwriad ni ar y cyd a Llechwedd yw gwneud ffilm fer o’r olion tanddaearol fel bod modd i mwy fwynhau y profiad (o’r ystafell fyw yn glyd !).
 
 

No comments:

Post a Comment