Monday, 11 November 2013

Dyddiadur Cloddio Haf 2013. (Llafar Gwlad Rhif 122)



 

 
Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn Llafar Gwlad (Rhif 122, Hydref 2013).

Hen Caerwys Gorffennaf 2013
 

Safle Canol Oesol yw Hen Caerwys, yn Sir Fflint a’r hyn sydd yn od efallai, ond yn sicr yn ddiddorol am yr enw yw fod pentref Caerwys, lle mae’r Eglwys Normanaidd, a Siarter gan Edward 1af yn dyddio o 1290 yn debygol o fod yn hyn na’r safle yma sydd yn cael ei alw yn ‘Hen Caerwys’.

            Darganfuwyd safle Hen Caerwys gan Wilfred Hemp oddeutu 1960 ac ef mae’n debyg oedd yn gyfrifol am fedyddio’r safle gyda’r enw ‘Hen’. Er ein bod bellach yn gwybod fod hyn yn ffeithiol anghywir mae pawb yn gytun mae fel ‘Hen Caerwys’ fydd y safle yma yn cael ei adnabod o hyn ymlaen.         

Yr hyn sydd yma yw olion tai, llociau a waliau caeau, yr hyn gallwn ei ddisgrifio fel tirwedd amaethyddol, olion ffermio o 600 mlynedd yn ol. I bob pwrpas mae’r tirwedd amaethyddol yma wedi ei ‘ffosileiddio’ a’r cyfan bellach wedi ei gladdu o dan y pridd ac o dan y goedwig. Felly o ran dadansoddi’r safle, nid gwaith hawdd yw ceisio gweld cynllun y safle yng nghanol yr holl goediach, tydi lluniau o’r awyr ddim yn mynd i ddangos rhyw lawer ac yn wir wrth ymweld a’r safle anodd iawn yw gweld fawr mwy nac ambell i glawdd ymhlith y coed.

Anodd hefyd yw cloddio y fath safle ac wrth i mi ymuno a chriw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys a CADW, y gwaith caled yw clirio’r tyfiant cyn i ni allu cychwyn cloddio go iawn. Rhaid torri gwraidd a chlirio coediach a does dim on un ffordd o wneud hynny – bon braich a chwys. Yn raddol, ar ol awr neu ddwy o waith, mae rhywun yn cyrraedd y cerrig sydd yn dynodi fod wal neu derfyn o dan y pridd.

Ein gwaith ar y ddau ddiwrnod dreuliais yma  oedd ceisio clirio’r waliau a chael gwared a’r cerrig oedd wedi disgyn er mwyn cael gweld yn union lle roedd y wal. Eto nid hawdd gweld y gwahaniaeth rhwng y wal wreiddiol a’r cerrig sydd wedi disgyn o’r wal, ond yn raddol wrth daflu’r cerrig rhydd i un ochr mae rhwyun (gyda ‘chydig bach o ffydd) yn dechrau gweld ymyl neu ochr i’r wal.

Pwrpas hyn oll yw ceisio gwella’n dealltwriaeth o’r safle, efallai cael hyd i wrthrychau fydd yn rhoi modd i ni gynnig dyddiad i’r defnydd o’r safle ac i drio gweld os oes rhai llociau neu tai yn gynharach neu yn ddiweddarach na’i gilydd. Os yw wal neu olion ty yn gorwedd uchwben adeilad arall rydym oleiaf yn gallu awgrymu fod yr adeilad sydd ar ben y llall yn un diweddarach.

Gobaith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys a CADW yw cael dychwelyd i’r safle i gloddio eto ym 2014 er mwyn gwella’n dealltwriaeth o gymunedau a thirwedd amaethyddol o’r Canol Oesoedd yng Nghymru.

 
Meillionydd Gorffennaf 2013

 
Raimund Karl gyda Dr Robyn Lewis a criw Heneiddio'n Dda Nefyn.


Safle Oes Efydd Hwyr / Oes Haearn ar ochr Mynydd Rhiw, Pen Llyn yw Meillionydd. Safle a ddisgrifir fel ‘cylchfur dwbl’ sydd yma, sef safle amaethyddol yn cynnwys cytiau crynion wedi eu hamgylchu gan ddau glawdd, math o safle sydd yn nodweddiadol o Ben LLyn (mae tua 10 safle o’r math yma ar Llyn). Castell Odo ger Aberdaron, a gloddiwyd gan Leslie Alcock yn y 60au yw’r safle enwocaf o’r math yma, a dyma pam mae Prifysgol Bangor wedi bod yn cloddio ym Meillionydd am bedair Haf bellach  i weld os oes cymhariaeth rhwng Meillionydd a Chastell Odo ac os oes modd i ni ddeall yn well beth oedd patrwm bywyd a’r economi yn y cyfnod yma rhwng tua 800 a 300/200 cyn Crist.

Rwyf yn arwain teithiau ysgolion o amgylch y gwaith cloddio archaeolegol ym Meillionydd ers tair mlynedd bellach a dyma benderfynu mynd i fyny i’r safle am ddiwrnod neu ddau cyn i’r ysgolion ymweld er mwyn ail ymgyfarwyddo a nodweddion archaeolegol y safle. Roedd fy amseru yn ‘berffaith’ achos y gwaith ar y diwrnod cyntaf oedd tyllu’r holl bridd oedd wedi cael ei ol-lenwi i un o’r cytiau crynion ers llynedd, felly gwaith caib a rhaw drwy’r dydd, yn clirio pridd llynedd a dim gobaith mul mewn unrhyw ras o gwbl o ddod o hyd i unrhywbeth diddorol. Ond, fel da ni’n dweud mae’n waith sydd rhaid ei wneud er mwyn clirio’r safle yn barod ar gyfer y gwaith cloddio ac archwilio pellach eleni.

            Diwrnod caled o waith felly, gorweddais yn fy ngwely y noson honno yn “tincian”, roedd y cyhyrau yn gwybod eu bod wedi cael eu gweithio yn galed.felly rhyddhad mawr ar yr ail ddiwrnod oedd cael y trywal allan a phenglinio i glirio darn o hen ffordd garregog oedd yn arwain i mewn i’r safle rhwng y ddwy fynedfa.

            Gan mae yma byddai’r mwyaf o fynd a dod, hynny yw dyn ac anifeiliad yn troedio, buan iawn mewn tywydd gwlyb bydda’r fynedfa wedi troi yn fwdlyd felly yr arfer pryd hynny, yn union fel heddiw, oedd rhoi cerrig i lawr lle roedd y llwybr yn fwdlyd. Mewn amser mae’r cerrig yn cael eu troedio i mewn i’r ddaear ac yn ffurfio wyneb caled. Wedyn byddai’r fferwmyr yn ychwanegu cerrig i’r ffordd fel roedd angen ac wrth i mi gloddio sylwais fod haenau o gerrig yma yn amlwg wedi cael eu hychwanegu dros y blynyddoedd.

            Fy ngwaith felly oedd crafu o amgylch y cerrig gyda’r trywal gan beidio eu disodli a defnyddio brwsh ysgafn i gael gwared a’r llwch ac yn raddol dyma ddadarchuddio wyneb yr hen ffordd. Fe gymerodd hyn rhan fwyaf o 6 awr i’w gyflawni ond ar ddiwedd pnawn roedd boddhad o weld fod y ffordd yn ymddanos yn glir a fod modd gweld yn union beth roedd yr hen ffermwyr yma wedi ei osod fel ffordd sych drwy’r mynedfeydd.

            Erbyn yr ail wythnos ym Meillionydd mae un o’r cytiau crynion wedi cael ei glirio a dyma ddechrau ar y gwaith manwl o gloddio’r llawr a’r muriau yn ofalus. Rhaid cofnodi pob carreg a rhaid ceisio adnabod pob nodwedd oddi fewn i’r cwt crwn. Mae muriau o gerrig sychion i’r cwt ond wedyn byddai ffram bren fewnol yn dal y to ac un o’r campau archaeolegol yw dod o hyd i olion y tyllau pyst mewnol. Bydd y pren wedi hen bydru wrth reswm ond gyda gofal bydd modd gweld olion y twll yn y pridd, yn aml gyda cerrig syth wedi eu gosod ar ochr y twll i ddal y postyn yn ei le.


            Mae’r nifer o ymwelwyr dros yr wythnosau i Meillionydd yn galonogol a rhaid cydnabod ymdrechion Kate Waddington a Raimund Karl o Brifysgol Bangor i sicrhau fod croeso bob amser i ymwelwyr a fod ymdrech yn cael ei wneud i gysylltu a’r gymuned lleol. Rydym yn derbyn cyn archdderwydd i’r safle ar un prynhaun Llun wrth i griw ‘Heneiddio’n Dda’ Nefyn ddod draw ar ymweliad a’r Dr Robyn Lewis yn eu plith. Mae’n gyfle da i griw Nefyn gael gweld archaeolegwyr wrth eu gwaith, yn cloddio yn y baw, a buan iawn roedd dwy awr wedi mynd heibio heb i neb sylwi wrth i bawb holi a thrafod am arwyddocad y safle ym Meillionydd.

            Mae disgyblion Ysgol Botwnnog a Crud y Werin, Aberdaron yn ymweld a ni yn flynyddol a diddorol iawn gweld fod y plant o gefndir amaethyddol gyda digon o brofiad o ffermio a bod allan yn y wlad  i drafod olion dyn ar y tirwedd. Mae eu cwestiynau yn rhai dai, mae eu rhesymeg yn wych a mae’n dod a dagrau i’m llygaid yn clywed Cymraeg pur Pen Llyn gan y bobl ifanc yma. Roedd eu hymweliadau yn codi calon rhywun ac yn bleser i gael eu cwmni.

            Erbyn diwedd ein cyfnod ym Meillionydd rydym wedi cloddio’r cwt crwn yn ei gyfanrwydd a wedi dod o hyd i ffos a rhes o byst ar gyfer palisad a fyddai wedi amgylchu’r safle cyn cyfnod y cylchfur dwbl. Fel yn achos Hen Caerwys, bwriad Prifysgol Bangor yw parhau i gloddio yma am flynyddoedd i ddod.

 

Llanbeblig Gorffennaf 2103
 

Yn dilyn gwaith cloddio ar safle Ysgol Yr Hendre yng Nghaernarfon yn ystod 2010-11 mae Ymddiriedoaleth Archaeolegol Gwynedd wedi penderfynu cynnal gwaith cloddio cymunedol ar ddarn o dir na chloddiwyd o’r blaen ger maes parcio’r ysgol. Ystyr ‘cymunedol’ yw fod hyn yn addas ar gyfer disgyblion ysgol, pobl leol a newydd ddyfodiad i’r byd archaeoleogol – hynny yw, er mwyn iddynt gael cyfle a phrofiad o gloddio.

            Yn ystod 2010-11 daethpwyd o hyd i olion mynwent Ganol Oesol (oddeutu 6ed-7fed ganrif) gyda nifer o feddau, rhai wedi eu hamgylchu a ffos (sef y bobl bwysig) a hefyd poptai pydew sydd bellach yn cael eu dehongli fel poptai ar gyfer pobi bara o’r cyfnod Rhufeinig. Cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod y ddau nodwedd archaeolegol yma yn yr un lleoliad gan fod y poptai yn perthyn i’r cyfnod Rhufeinig a dyddiadau radio-carbon yn eu dyddio oddeutu 77 oed Crist sef yr union amser mae Agricola yn cyrraedd i sefydlu Segontium a’r fynwent rhai canrifoedd yn ddiweddarach..

            Y tebygrwydd yw fod y poptai pydew yn cynrychioli’r unig olion sydd wedi goroesi o wersyll Rhufeinig lle roedd y milwyr yn aros tra yn adeiladu’r gaer Rhufeinig yn Segontium gerllaw. Dyma’r tro cyntaf i ni ddarganfod safle o’r fath yng Nghymru a dyma gloddio darn bach o dir ger maes parcio yr ysgol felly yn y gobaith o gael hyd i ychydig fwy o’r olion yma.


            Bu cryn ddiddordeb yn y gwaith cloddio gan y wasg a’r Cyfryngau a bu camerau ‘Heno’ yno yn ffilmio gyda’r gyflwynwraig Elin Fflur yn holi’r archaeolegwyr. Bu ymweliadau ysgolion yno yn ddyddiol a braf oedd gweld Anita a Sadie o’r Ymddiriedolaeth yn arwain grwpiau o blant i gloddio !  Ar ddiwedd ein pythefnos ger Ysgol yr Hendre, siomedig oedd y darganfyddiadau archaeoleogol a’r tebygrwydd yw fod y rhan fwyaf o’r gwersyll Rhufeinig a’r fynwent ganol oesol wedi eu claddu bellach dan adeilad yr ysgol a’r maes parcio a fod ein cornel ni yn amlwg tu allan i’r safle a ddefnyddiwyd ganrifoedd yn ol.

 

Llwydfaen, Dyffryn Conwy  Gorffennaf 2103

 

Efallai mae’r gwaith cloddio mwyaf cyffrous dros yr Haf oedd y cyfle i dreulio 5 diwrnod (yn unig) yn cloddio ar safle “Eglwys Normanaidd” ar dir Llwydfaen ger Tal-y-Cafn, Dyffryn Conwy. Safle wedi ei ddarganfod o’r awyr, (lle roedd modd gweld ffurf yr adeilad wrth i’r tir sychu), gan Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol yw’r adeilad yma ac yn wir ymdebygai o ran ffurff i eglwys petrual gyda un ochr ar ffurf hanner cylch.

Yr hyn oedd yn ddiddorol, ychydig yn groes i’r syniad gwreiddiol, ac yn sicr cyffrous oedd ein bod wedi dod o hyd i ddau neu dri darn o arian Rhufeinig o fewn yr ugain munud cyntaf o gloddio. Erbyn ganol pnawn y diwrnod cyntaf, roedd yn edrych yn fwy fwy tebyg mae adeilad Rhufeinig oedd hwn yn hytrach na eglwys Normanaidd gynnar. Ychydig i fyny’r dyffryn (llai na milltir a hanner) mae safle’r gaer Canovium (Caerhun) felly dydi olion Rhufeinig yn y rhan yma o’r Byd ddim yn anisgwyl chwaith !

Wrth i ni gloddio lawr, dyma ddechrau dadarchuddio sylfeni anferth yr adeilad yma, sylfeini o gerrig sychion ac yn sicr roedd adeilad o gryn faint yma ar un amser. Darganfyddiad arall diddorol oedd darnau o lechi to, darnau bach iawn oedd ar ol ar y cyfan, a’r awgrym oedd fod rhain yn perthyn i’r cyfnod Rhufeinig ond fod y rhan fwyaf o’r llechi wedi eu cludo o’r safle ar gyfer eu hail ddefnyddio rhywbryd yn y gorffennol.

Ffilmiwyd y cyfan yn Llwydfaen ar gyfer S4C a bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu rhywbryd yn ystod 2014. Doedd dim modd rhagweld fod ein “Eglwys Normaniadd” yn mynd i fod yn adeilad Rhufeinig, (o bosib yn deml oherwydd yr ochr crwn) ond yn sicr fe gyfrannodd hyn at gyffro’r ffilmio. Cafwyd hyd i olion ffynnon hefyd ger yr adeilad er fod y ffynnon wedi ei lenwi a cherrig a bowlderi mawrion. Chafwyd ddim digon o amser i gael hyd i waelod y ffynnon.

Canlyniad y gwaith cloddio yn Llwydfaen wrth gwrs yw fod yr hanes yn dra wahanol i’r hyn roeddem wedi ei ddisgwyl sydd yn dangos beth ydi gwerth cloddio archaeolegol, dyma’r unig ffordd o gael gwybod yn union beth sydd o dan y ddaear.

 

 

 

1 comment:

  1. This book is really a good book which shows us right path. but i read
    one more book named "ONE BOOK FOR LIFE SUCCESS" which is truly
    motivational and life changing . .The writer has described in Plain
    English with lot of examples which is easy to understand...For More
    Please watch the video http://www.youtube.com/watch?v=biORjS8ngv0
    YouTube video

    YouTube video
    [1]

    ReplyDelete